Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Weithiau, ‘da ni angen pethau bychain.
Manon ydw i. Dwi’n byw yn Nhywyn efo fy mhlant, a dwi’n sgwennu llyfrau a sgriptiau.
Mi wnes i siarad efo pobol sy’n gweithio ym maesydd iechyd a gofal am eu bywydau nhw – Be’ sy’n anodd a be’ sy’n hawdd, be’ sy’n dod â llawennydd iddyn nhw a be’ sy’n dod â chysur. Be’ sy’n dod â nhw at eu coed ar ddiwedd y dydd.
Mi wnes i recordio’r fideos a’r miwsig yma ar ôl y sgyrsiau yna, a chael fy ysbrydoli i sgwennu’r monologau byrion ‘ma hefyd.
Dim ond pethau bychain sydd yn y fideos yma, ond weithiau, ‘da ni angen pethau bychain.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Melo
Mae gwefan Melo yn cynnwys gwybodaeth, cyngor, ac adnoddau hunangymorth rhad ac am ddim i’ch helpu chi i ofalu am eich iechyd meddwl a’ch lles.

Cysylltu nôl i’r Canol
Cymryd rhan mewn gweithgareddau artistig i leddfu straen ac ymdawelu.

Y Gyfres Bollywood
Dysgwch hanfodion yr arddull ddawns amryddawn hon mewn cyfres o fideos a grëwyd gan gyn-ddawnsiwr Bollywood.