Mae safleoedd Cadw yn fannau hyfryd i ymweld â nhw mewn lleoliadau gwych ar hyd a lled y wlad. Un o flaenoriaethau Cadw yw ehangu mynediad at dreftadaeth a diwylliant.
Chwiliwch am safle sy’n agos atoch chi i gysylltu â threftadaeth Cymru, p’un a yw’n safle gyda staff, gyda chyfleusterau neu’n safle agored. Gallwch edrych ar ei hanes a’i straeon ar eich pen eich hun neu gyda ffrindiau, eich teulu neu mewn grŵp. Bydd croseo i chi bob amser.
Rhowch hwb i’ch lles meddyliol drwy fod yn greadigol, edrych ar fyd natur, neu fwynhau llonyddwch y llefydd ac adleisiau o’r gorffennol yn y cerrig o’ch cwmpas ar eich pen eich hun.
Mae gan Cadw amrywiaeth o gonsesiynau a chynigion arbennig i helpu unigolion a grwpiau i gael mynediad at y safleoedd hyn, yn ogystal â thocynnau mynediad arferol a chynigion i aelodau. Mae Cadw hefyd yn cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau ac mae’n cefnogi cyfleoedd gwirfoddoli sydd wedi ennill sawl gwobr hefyd.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Cyflwyniad i Gyfres Horton
Mae’r fideos hyn, a grëwyd gan goreograffydd preswyl Ballet Cymru, yn archwilio ymarferion yn seiliedig ar dechneg ddawns fodern Lester Horton.

Canu o’r Enaid
Three simple and fun activities to help you claim your right to sing.

Gwneud Cychod Papur
Spark your creativity by building delicate paper boats that can float.