Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
3 prosiect ‘Cegin Lefel Mynediad’ rhad mewn collage, printio ac ysgythru.
Helo, Emma Jones ydw i. Rwy’n ymarferydd celf o Fro Morgannwg. Rwy’n angerddol am gelf a’r effaith y gall ei chael ar ein lles.
Dyma 3 prosiect ‘Cegin Lefel Mynediad’ rhad mewn collage, printio ac ysgythru. Gobeithio y bydd un neu bob un o’r 3 yn tanio’ch diddordeb ac y byddwch am wneud mwy. Rwy’n eich annog i roi cynnig arni sawl gwaith ac i arbrofi.
Mae’r 3 fideo tua 5 munud yr un gyda pdfs sydd â gwybodaeth gam wrth gam.
Ffilm – Tracy Pallant/Amy Peckam
Celf Pecynnau Bwyd
Defnyddio delwedd a phecynnau bwyd yn unig. Rydw i wrth fy modd yn creu collage a dyma ffordd hwyliog o’ch rhoi ar ben ffordd.
Download the Food Packaging Art PDF.
Print Polystyren
Ffordd wych o ailddefnyddio’r math hwn o becynnau bwyd untro a’ch denu at greu printiau.
Download the Polystyrene Print PDF.
Ysgythru Carton Llaeth
Rhowch gynnig ar broses ysgythru rad. Mae angen ymarfer y broses hon felly mwynhewch yr holl ganlyniadau a ddaw o bob print.
Y peth pwysicaf yw rhoi cynnig arni, mwynhau’r broses a pheidio â phoeni am y canlyniad.
Download the Milk Carton Etching PDF.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Y Gyfres Bollywood
Dysgwch hanfodion yr arddull ddawns amryddawn hon mewn cyfres o fideos a grëwyd gan gyn-ddawnsiwr Bollywood.

Cysgu’n well
Bydd y canllaw hwn gan y Sefydliad Iechyd Meddwl yn eich helpu chi i wella ansawdd eich cwsg.

Ymweliadau Rhithiol Cadw
I’r rhai sy’n awyddus i brofi rhyfeddodau treftadaeth Cymru o’u cartrefi.