Chwilio am gymorth a chefnogaeth?

Ffyrdd at les

Prosiectau’r Arfordir: Fforio, Coginio a Myfyrio

Fideos i'ch ysbrydoli i ymweld ag arfordir Sir Benfro i fforio, coginio a myfyrio.

  • Nod / Anelu: Cysylltu â naturDysgu rhywbeth newyddGwnewch i mi feddwl
  • Lle / Lleoliad: Awyr agored, Gartref
  • Maint grŵp: Ar fy mhen fy hun, Gydag eraill
  • Amcangyfrif o'r amser darllen neu wylio: Dros dri munud
  • Math: Dysgu dan arweiniad hyfforddwr, Fideo, Rhyngweithiol
  • Gan: Gilly Booth
Fersiwn cyfeillgar i’r argraffydd
Mae pum powlen seramig ar hambwrdd pren ysgafn. Mae'r powlenni wedi'u llenwi â gwymon, cawl, dail, tatws a thefyll o fetys. Mae dwy lwy bren yn gorwedd wrth ymyl y bowlenni.

Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.

Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!

Helo, Gilly Booth ydw i, artist sy’n gweithio gyda delweddau symudol, sain a gosodweithiau.

Ar ôl cael fy magu ym Maenorbŷr, pentref ar lwybr yr arfordir, rydw i wastad wedi cael fy nenu at agweddau myfyriol yr arfordir, boed hynny’n fforio am wymon neu’n gerdded ar hyd yr arfordir.

Gobeithio y bydd y fideos hyn yn eich ysbrydoli i ymweld ag arfordir Sir Benfro i fforio, coginio a myfyrio.

Adnodd Gan: Gilly Booth and Matt Powell.

Rhan 1 – Fforio

Mae’r ffilm hon yn dilyn y cogydd a’r fforiwr adnabyddus Matt Powell wrth iddo chwilio am wymon bwytadwy a phlanhigion ymyl y traeth o amgylch arfordir Sir Benfro.

Yn y pellter, gellir gweld y cwt gwymon, a ddefnyddiwyd yn y gorffennol i sychu’r gwymon.

Mae Matt yn disgrifio sut i adnabod a thorri gwymon/ phlanhigion ymyl y traeth gan adael gludafael neu holdfast i ganiatáu twf pellach.

Mae’n defnyddio ei gyfoeth o wybodaeth am fforio i greu prydau ysbrydoledig i’w gweini yn ei fwyty ‘Annwn’ yn Arberth.

Fforio

Rhan 2 – Coginio

Creodd Matt y pum rysáit hyn yn arbennig ar gyfer y prosiect hwn – prydau sy’n seiliedig ar wymon wedi’i fforio a phlanhigion ymyl y traeth, sy’n cynnwys nifer o fitaminau a maetholion sy’n cael eu disgrifio fel bwydydd daionus neu ‘superfoods’.

Mae Matt yn artist yn y gegin, ac yn dangos sut i baratoi a chyflwyno’r seigiau. Mae’r pryd gorffenedig, sy’n edrych yn gymhleth, yn syml i’w baratoi mewn gwirionedd.

Gallwch goginio’r holl seigiau a’u bwyta gyda’i gilydd neu eu creu’n unigol. Os nad yw’r arfordir yn agos, gallwch brynu’r cynhwysion.

Bwydlen

  • finegr gwymon
  • gwymon wedi’i biclo
  • cawl gwymon (dashi) gyda bara lawr
  • planhigion ymyl y traeth gyda finegr gwymon
  • betys mewn dresin gwymon

Gellir lawrlwytho’r ryseitiau fan hyn fel pdf.

Coginio

Rhan 3 – Myfyrio

Mae’r ffilm hon yn cofnodi cylchdro 360 gradd o arfordir Sir Benfro o’r ‘olygfa’ ar oleudy Pen-caer.

Golygwyd y ffilm i gyd-fynd â rhythm pelydrau’r goleudy – 4 fflach bob 16 eiliad, sy’n arbennig i’r goleudy hwn.

Gobeithio y bydd y ffilm hon yn cynnig profiad hypnotig, tawel sy’n weledol gyfoethog.

Myfyrio

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Oedolyn hyn a'i ferch yn dyfrio planhigion gyda'i gilydd.
Dyn hen yn dyfrio planhigion yn ei heulfan.
Menyw yn cymryd llun o'i hunain yn Henhyd Falls.