Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Ma argraffu yn broses lyfli – ma yna ddechrau, canol a diwedd iddo.
Hoffen i chi fwynhau’r broses a cymryd yr amser i fod yn
bresennol a mwynhau’r creu yn hytrach na poeni gormod am y darn gorffenedig.
Mae hefyd fideo yn dilyn yn dangos sut i argraffu gyda dail, gweithgaredd lyfli i’w wneud ar ol bod am dro.
Mwynhewch y broses a’r chwarae,
Marian Haf
Sylwch fod y fideos hyn ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Tynnwch Lun Ohonof ar Ddiwrnod Da
Mae Tynnwch Lun Ohonof ar Ddiwrnod Da yn broses syml i'ch rhoi ar ben ffordd wrth edrych ar y celfyddydau creadigol drwy weithgareddau syml iawn.
Hunanbortread
Gwyliwch wrth i’r artist Nathan Wyburn greu hunanbortread mawr allan o becynnu presgripsiwn gwag.
Dos dyddiol o natur er llesiant
Gwella eich llesiant meddyliol drwy dreulio ugain munud y dydd ym myd natur.