Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Mae Efa Blosse Mason (dolen Saesneg yn unig) a Mali Hâf wedi cydweithio i greu fideo ymwybyddiaeth ofalgar yn yr iaith Gymraeg.
Bydd llais Mali yn ogystal â cherddoriaeth dawel yn eich arwain chi drwy fyfyrdod 10 munud i roi lle i chi feddwl ac anadlu.
Gall ymwybyddiaeth ofalgar fod yn arf defnyddiol ar gyfer iechyd meddwl. Gall eich helpu chi i ddod o hyd i chi’ch hun yn y presennol.
Mae Efa wedi creu animeiddiadau heddychlon i gyd-fynd â sesiwn ymwybyddiaeth ofalgar Mali.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Bod yn greadigol drwy liwio
Amrywiaeth o dempledi lliwio rhad ac am ddim i'w lawrlwytho, sy'n addas i bob oed.

Action for Happiness
Mae Action for Happiness yn dod â phobl at ei gilydd ac yn darparu adnoddau ymarferol er mwyn helpu i greu byd hapusach a byd sy’n fwy caredig.

Hyfforddiant Sgyrsiau mewn Cymunedau
Ydych chi eisiau bod yno i rywun sy'n cael amser anodd, ond sy'n poeni am beth i'w ddweud? Gall y cwrs ar-lein byr hwn helpu.