Hyrwyddo lles yn y gymuned
Os yw eich gwaith yn cynnwys cefnogi pobl a chymunedau, dyma gyfle unigryw ichi gynnwys y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw mewn sgwrs genedlaethol am lles meddyliol.
Isod, ceir amrywiaeth o adnoddau mae modd eu lawrlwytho i helpu i ddechrau sgyrsiau yn y byd go iawn. Mae awgrymiadau, hyfforddiant a syniadau ar gyfer gweithgareddau i’w hymgorffori yn eich ymarfer.
Mae’r adnoddau hyn wedi’u cynllunio i’ch cefnogi i gael sgyrsiau am bwysigrwydd lles meddyliol gyda’r cymunedau rydych chi’n gweithio gyda nhw, ac i’n hysbrydoli ni i gyd i gymryd camau i amddiffyn a gwella ein lles meddyliol ni a lles meddyliol pobl eraill.
Awgrymiadau ar gyfer sgyrsiau da
Ffyrdd i ddechrau sgwrs – Hapus
Hyfforddiant Sgyrsiau mewn Cymunedau
Llesiant ar Waith
Darganfyddwch fwy am sut i ddatblygu neu gyflwyno gweithgareddau cymunedol gan ddefnyddio ein camau gweithredu sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae’r camau gweithredu’n berthnasol i weithgareddau, gwasanaethau neu ymyriadau a ddarperir gan y sectorau cyhoeddus, preifat, elusennol, cymunedol a gwirfoddol.
Dysgu mwy