Ffyrdd at les
  1. Hafan
  2. »
  3. Erthyglau Hapus
  4. »
  5. Sut gall ein hamgylchedd gefnogi llesiant meddyliol

Sut gall ein hamgylchedd gefnogi llesiant meddyliol

Wedi’i rhannu yn: DysguIechyd corfforolEin meddyliau a'n teimladau

Bob eiliad o’n bywydau effro, rydym yn ymwybodol o’n hamgylchedd ffisegol drwy ein synhwyrau. Gall gwres ac oerfel fod yn ddymunol neu’n annymunol. Gall synau ein hymlacio neu ein rhoi ni dan straen. Gall arogleuon ddod â phleser neu beri inni boeni. Gall lefelau golau ein helpu neu ein rhwystro yn yr hyn rydym yn ei wneud. Gall gweld yr awyr a’r coed wneud inni deimlo’n un â natur. Gall presenoldeb neu absenoldeb pethau cyfarwydd neu anghyfarwydd gythruddo, cysuro, tawelu neu gyffroi.

Gall bod yn ymwybodol o ba agweddau ar ein hamgylchedd bob dydd sy’n gwneud inni deimlo’n dda neu’n ddrwg, yn enwedig yr agweddau hynny sydd o fewn ein rheolaeth, ein helpu i wneud y mwyaf o’n llesiant personol. Mae yr un mor bwysig cydnabod y gall yr hyn sy’n gweithio i bobl eraill fod yn wahanol i’r hyn sy’n gweithio i ni.

Gallwn chwilio am gyfleoedd i helpu eraill i sicrhau bod eu hamgylchedd yn diwallu eu hanghenion. Weithiau dim ond trwy gamau bach fel cynnig ychydig mwy o le, golygfa o ffenestr, chwa o awyr iach a sŵn cân adar, neu ychydig o gynhesrwydd ychwanegol.

Mae amgylcheddau dan do ac awyr agored yn effeithio ar ein hiechyd a’n llesiant

Gall agweddau ar ein hamgylchedd ffisegol sy’n achosi dicter, rhwystredigaeth, anghysur, gofid neu deimladau annymunol eraill i ni gael effaith negyddol ar ein hiechyd meddwl a’n llesiant. Weithiau gall y priodoleddau amgylcheddol hyn hefyd effeithio’n uniongyrchol ar ein hiechyd a’n llesiant corfforol. Yn aml, mae effeithiau corfforol a meddyliol ein hamgylchedd ffisegol ar iechyd yn gysylltiedig â’i gilydd.

Mae enghreifftiau o amgylcheddau annymunol neu niweidiol yn cynnwys lleithder a llwydni, oerfel gormodol, gwres gormodol, gormod o oleuadau neu oleuadau annigonol, annibendod neu le annigonol, gorlenwi, teimlo’n ynysig neu gyfyngiad, diffyg hylendid, awyru gwael, llifogydd, sbwriel, sŵn, arogleuon, llwch, mwg ac ansefydlogrwydd strwythurol.

Dylid ystyried lleihau dod i gysylltiad â pheryglon iechyd meddwl o’r fath yn ein hamgylcheddau byw dan do ac awyr agored yn rhan mor bwysig o ran diogelu iechyd y cyhoedd â lleihau amlygiad i beryglon iechyd corfforol. Ond mae ein hamgylchedd yn llawer mwy na dim ond ffynhonnell peryglon. Gall ac fe ddylai fod yn ffynhonnell cysur a mwynhad. Os cânt eu rheoli yn y ffordd gywir, mae gan ein mannau byw o leiaf gymaint o botensial i wella ansawdd ein bywydau ag sydd ganddynt i wneud niwed i ni.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn diffinio iechyd fel “cyflwr o lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol cyflawn yn hytrach nag absenoldeb clefyd neu eiddilwch yn unig”. Mae llesiant meddyliol da yn cynnwys mwy na bod yn rhydd o afiechyd meddwl. Yn ogystal â lleihau dod i gysylltiad â pheryglon amgylcheddol, dylem fod yn manteisio ar botensial ein hamgylchedd ffisegol dan do ac awyr agored i gyfrannu’n gadarnhaol at y “cyflwr llesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol cyflawn” hwnnw.

Yn unol â datganiad gweledigaeth Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Cymru, dylem fod yn anelu at amgylcheddau ffisegol sy’n hyrwyddo, yn cefnogi ac yn grymuso pobl i wella eu hiechyd meddwl a’u llesiant.

Mae mynediad at natur yn rhan allweddol o hyn. Mae mannau gwyrdd, fel parciau, coetiroedd, caeau a rhandiroedd yn ogystal ag elfennau naturiol gan gynnwys coed, gwrychoedd, waliau a thoeau gwyrdd a’r gwyrddni bob dydd o’n cwmpas yn cael eu cydnabod fwyfwy fel ased pwysig ar gyfer cefnogi iechyd a llesiant.

Mae pobl sydd â mwy o gysylltiad â natur yn fwy tebygol o nodi eu bod yn hapus yn eu bywydau ac yn teimlo bod eu bywydau’n werth chweil. Gall natur gynhyrchu llu o emosiynau cadarnhaol, fel tawelwch, llawenydd a chreadigrwydd, a gall hefyd hwyluso canolbwyntio.

Mae enghreifftiau o bob cwr o Gymru yn dangos sut y gall hyn weithio yn ymarferol. Drwy raglen Mannau Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, mae cymunedau’n creu ac yn gwella mannau gwyrdd hygyrch lle mae pobl yn byw, yn dysgu ac yn cael mynediad at wasanaethau.

Yn 2025-26, adroddodd derbynwyr pecynnau gardd am 216 o atgyfeiriadau drwy gynlluniau presgripsiynu cymdeithasol ac atgyfeirio iechyd. Yng Ngholeg Adfer a Lles Caerdydd a’r Fro, er enghraifft, mae safle a oedd gynt wedi’i balmantu’n bennaf wedi’i drawsnewid yn ardd fwyd a bywyd gwyllt. Mae’r gofod hwn yn rhoi lle awyr agored parhaol i bobl sydd â phrofiad bywyd o heriau iechyd meddwl dreulio amser gyda’i gilydd, dysgu a chysylltu â natur.

Mewn mannau eraill, mae gerddi cymunedol fel Harlech yn cyfuno tyfu bwyd, bywyd gwyllt, mannau hygyrch a nodweddion synhwyraidd i greu lleoedd lle gall pobl gyfarfod, cymryd rhan neu ddod o hyd i rywle heddychlon i eistedd a myfyrio. Mae’r effaith hon i’w gweld ar raddfa fawr: yn ystod 2025-26, nododd 1,719 o wirfoddolwyr a oedd yn rhan o brosiectau Mannau Lleol dros Natur welliant yn eu llesiant o ganlyniad i gymryd rhan.

Mae’r un egwyddor yn berthnasol ar raddfa dirwedd fwy. Mae prosiectau Coedwig Genedlaethol Cymru yn cyfuno gwella cynefinoedd â gweithgareddau sy’n cefnogi llesiant meddyliol a chorfforol. Mae’r rhain yn cynnwys ymdrochi yn y goedwig, gweithgareddau sgiliau coetir, yn ogystal â chreu mynediad gwell i’r cyhoedd. Mae llwybrau a chyfleusterau coetir hygyrch yn galluogi pobl â symudedd cyfyngedig i brofi a chymryd rhan mewn gweithgareddau coetir.

Mae hawliau tramwy cyhoeddus Cymru, gan gynnwys llwybrau a hyrwyddir fel Llwybr Arfordir Cymru, Llwybr Coedwig Cymru a Llwybrau Cenedlaethol eraill, yn darparu ffyrdd rhad ac am ddim neu gost isel i bobl fod yn egnïol, cysylltu â natur a threulio amser gydag eraill.

Mae mentrau ymarferol yn dangos sut y gall hyn weithio. Mae Pecyn Adnoddau Ymwybyddiaeth Ofalgar Llwybr Arfordir Cymru, a ddatblygwyd gyda Heads Above the Waves (dolen Saesneg yn unig) yn cyfuno llwybrau arfordirol â gweithgareddau sy’n annog pobl i arafu, sylwi ar eu hamgylchedd a defnyddio cerdded fel cyfle i fyfyrio neu sgwrsio.

Mae Parciau Cenedlaethol (dolen Saesneg yn unig) hefyd yn cefnogi teithiau cerdded llesiant tywysedig, ecotherapi, gwirfoddoli a rhaglenni a gyflwynir gyda sefydliadau fel Mind, sy’n cyfuno gweithgarwch a chyswllt â natur â chysylltiad cymdeithasol, meithrin hyder ac ymdeimlad o bwrpas

Cyd-destun, mynediad a’n gallu i wneud dewisiadau

Gall yr hyn a welwn, a glywn, a aroglwn, a flaswn ac a deimlwn gael effeithiau cadarnhaol a negyddol ar ein llesiant meddyliol yn dibynnu ar ddewis personol a chyd-destun.

Gan gymryd clyw fel enghraifft, yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae astudiaeth sain wedi gweld symud trawiadol:

  • i ffwrdd o osod nodau i ddiwallu anghenion y “person cyffredin” yn unig, i fwy o gydnabyddiaeth bod pawb yn profi sain yn wahanol
  • i ffwrdd o anelu at leihau lefel sŵn yn unig (yn seiliedig ar y rhagdybiaeth “gorau po dawelaf”) a mwy tuag at y cysyniad o ddylunio tirwedd sain da

Wrth y dirwedd sain, rydym yn golygu’r amgylchedd sain fel y’i canfyddir neu a brofir gan bobl yn eu cyd-destun. Mae’r hyn a ystyrir yn bleserus, yn dda, yn annifyr neu’n tarfu yn amrywio o berson i berson neu o grŵp i grŵp, ac mae hefyd yn dibynnu ar bethau fel yr amser, y lle, y gweithgaredd, lefel y disgwyliad, perthynas gwrandäwr â’r person sy’n gwneud sŵn, a’r graddau y maent yn gallu gwneud dewisiadau ynghylch yr hyn y gallant ei glywed neu na allant ei glywed. Nod polisi Llywodraeth Cymru yw creu tirweddau sain priodol “yr amgylchedd sain priodol ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn.”

Mae’r egwyddorion hyn yn berthnasol i feysydd eraill o ansawdd amgylcheddol. Dylem hefyd anelu at dymheredd, goleuadau, golygfeydd, gofod personol a thirweddau arogleuon sy’n diwallu anghenion pobl yn eu cyd-destun.

Mae’r gallu i addasu amgylcheddau i ddiwallu gofynion personol, neu gael dewis o wahanol safleoedd neu leoliadau yn bwysig. Er enghraifft, gallai gwahanol rannau o adeilad swyddfa fod â gwahanol oleuadau a gwahanol osodiadau thermostat, i ddiwallu amrywiaeth o anghenion.

Yn ein cartrefi, mae cysylltiadau cadarnhaol wedi’u canfod rhwng gwella cartrefi yn gyffredinol a llesiant meddyliol. Po fwyaf o reolaeth bersonol sydd gan bobl dros welliannau i’w hamgylchedd cartref, y mwyaf fydd eu tawelwch meddwl, eu cysur a’u boddhad.

Mae cael mynediad i fannau dan do ac awyr agored yn gofyn am gamau bwriadol i gael gwared ar rwystrau. O ran cael mynediad at fyd natur yn yr awyr agored, gall gwelliannau fel rhoi camfeydd â gatiau newydd, darparu gwybodaeth hygyrch am lwybrau ac offer addasol, cefnogi trafnidiaeth gyhoeddus a gweithio’n uniongyrchol gyda chymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol wneud amgylcheddau naturiol yn fwy croesawgar a defnyddiol i ystod ehangach o bobl.

Mae darparu mynediad hefyd yn ymwneud â deall na fydd yr un datrysiad yn gweithio i bawb. Drwy’r prosiect Chwalu Rhwystrau, gofynnwyd i gymunedau sydd wedi cael eu tangynrychioli’n draddodiadol mewn rhaglenni amgylcheddol yn uniongyrchol am yr hyn sy’n eu hatal rhag ymgysylltu â natur. Mae’r rhwystrau a nodwyd wedi cynnwys trafnidiaeth, diffyg lle hygyrch, iaith, ymwybyddiaeth a hyder.

Felly mae’r ymatebion wedi amrywio o welyau wedi’u codi sy’n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a gweithgareddau ymarferol â chymorth i helpu cymunedau i ddod o hyd i fannau tyfu cyfagos a chyfleoedd gwirfoddoli. Mae hyn yn dangos egwyddor bwysig: mae creu amgylcheddau awyr agored cefnogol yn ymwneud â darparu mannau gwyrdd, ac yn ymwneud â chynnwys pobl yn y broses o nodi yr hyn a fydd yn gwneud y gofod hwnnw’n hygyrch, yn groesawgar ac yn ddefnyddiol iddynt.

Ac, wrth gwrs, nid yw manteision llesiant byd natur yn gyfyngedig i’r rhai a brofwn pan fyddwn yn mentro allan i’r awyr agored. Pan fyddwn ni dan do, mae ffenestri yn ein cysylltu â’r byd ehangach. I bob un ohonom, ond yn enwedig y rhai sydd â symudedd cyfyngedig neu sydd mewn lleoliad iechyd neu ofal cymdeithasol, gall golygfa o goed, golau dydd naturiol, sŵn cân adar a chwa o awyr iach godi ein hysbryd a rhoi hwb corfforol inni ar yr un pryd.

Treuliwch eiliad heddiw i sylwi ar eich amgylchedd

Beth am yr amgylchedd o’ch cwmpas sy’n eich helpu i deimlo’n dda? Ystyriwch a oes unrhyw newidiadau bach a allai eich helpu chi ac eraill i deimlo’n fwy cyfforddus a chysylltiedig.

Am ragor o syniadau, awgrymiadau ymarferol ac ysbrydoliaeth i’ch helpu i ymgorffori llesiant yn eich bywyd bob dydd, archwiliwch offer lles Hapus.

Efallai y byddwch hefyd yn hoffi...

Two women showing compassion

Ymarfer tosturi, i ni ein hunain, i eraill a’r byd o’n cwmpas

Llun o ddwy fenyw yn mwynhau dosbarth celf

Y celfyddydau, iechyd a llesiant ar gyfer Cymru hapusach ac iachach

Photo of to women volunteering

Gwirfoddoli er mwyn ffynnu

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Two women preparing food together in a kitchen Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Senior mother and her daughter watering plants together with a watering can
A senior man watering a tray of plants in his conservatory.
Woman taking a selfie at Henrhyd Falls