Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Momentau chwareus o hwyl i bawb.
Cooked Illustrations ydyn ni. Stiwdio chwedleua ddigidol a gwasanaeth cyfathrebu gwyddonol yng Nghaerdydd. Yr ydym yn helpu mudiadau a gwyddonwyr i adrodd gwybodaeth gymhleth trwy waith celf a dulliau arall gweladwy.
Wnaethon ni creu 9 sialens (ar gael yn y Gymraeg a Saesneg) y gallech chi wneud gyda’ch teulu, ffrindiau a chydweithwyr. Mae’r sialensiau yn cynnwys ysgrifennu, darlunio, y cof a defnyddio eich dychymyg.
Ein bwriad yw creu momentau chwareus o hwylus i bawb.
Gobeithio y byddwch yn mwynhau Bocs O Gemau Cwtsh – fe wnaethom ni mwynhau creu’r sialensiau.
Os hoffech chi ddarganfod mwy o’n gwaith, ewch i’n gwefan.
Offer angenrheidiol
- Pen/pensil
- Amserydd
- Papur
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Gweithredoedd Dychmygol ar gyfer Iechyd A Lles
Defnyddiwch y myfyrdodau hyn i ganolbwyntio a chysylltu â'ch teimladau a'ch dychymyg.
Camwch i fyd adrodd straeon
Dysgu sut i fynd ati i ysgrifennu stori gyda fideo 15 munud o hyd gan yr awdur Jack Llewelyn.
Eiliadau o Hwyl a Rhyfeddod
Rhowch gynnig ar y tri phrosiect celf/crefft hwyliog a rhad hyn, sy'n cynnwys llun 3D syml a map plygu Twrcaidd.