Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Helo bawb!
Shakeera Ahmun ydw i, artist dawns llawrydd o Gaerdydd. Fe wnes i gwblhau fy hyfforddiant dawns yn Ysgol Ddawns Gyfoes Llundain a Sefydliad Celfyddydau California.
Ochr yn ochr â fy mhrofiad perfformio, rydw i wedi bod yn ehangu fy ngyrfa fel tiwtor dawns.
Hoffwn gyflwyno i chi fy Nghyfres o Symudiadau Ysgafn.
Mae’r symudiad wedi’i ysbrydoli gan y dechneg Rhyddhau, sy’n ymgorffori symudiadau sy’n rhyddhau tensiwn yn y corff. Bydd y gyfres hon o symudiadau yn cynnwys cryn dipyn o lyfnder ac esmwythdra, a fydd yn hygyrch i bobl heb fawr ddim profiad dawns, os o gwbl.
Mae’r fideos yn cynnwys:
Fideo 1: Ymarfer Cynhesu
Fideo 2: Sigl a Swae, Ymarfer Coreograffi a Dad-gynhesu
Mae’r gyfres hon o symudiadau ysgafn wedi’u cynllunio i fod yn ffordd hygyrch i bobl integreiddio elfen o hunan-ofal i’w trefn bob dydd, a’ch helpu i baratoi’ch meddwl a’ch corff yn y bore cyn gwaith, neu hyd yn oed ar ôl gwaith, os oes angen i chi ymlacio neu ryddhau rhai endorffinau.
Bydd fy ymarferion symud wedi’u cynllunio hefyd ar gyfer llefydd llai, felly does dim angen stiwdio neu ofod dawns, sy’n golygu y gallwch wneud yr ymarferion dawns yng nghysur eich cartref.
Diolch a mwynhewch bawb!
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Atgofion Positif
Casglu atgofion positif a chreu gosodiadau celf eclectig bach, rhad.

Sut i gefnogi iechyd meddwl yn y gwaith
Bydd y canllaw hwn gan y Mental Health Foundation yn eich helpu i wella iechyd meddwl yn y gweithle i chi a'ch cydweithwyr.

Seinweddau i hyrwyddo lles
Casgliad o seinweddau natur a cherddoriaeth gan y BBC.