Gall arian achosi pryderon a gofidiau i ni i gyd. Mae Helpwr Arian yn cynnig cyngor diduedd am ddim am arian, boed am fudd-daliadau y gallech fod â hawl iddynt neu gynllunio cyllideb bob dydd. Mae’r gwasanaeth hefyd yn cynnig swyddogaeth gymorth gyfrinachol am ddim i’ch helpu i gymryd rheolaeth.
Mae’r adnodd hwn yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i’ch helpu i reoli eich arian. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol ar y canlynol:
– Cyllidebau, bancio, a hanfodion credyd a chael awgrymiadau ar gyfer bywyd bob dydd
– Costau gofal plant ac achosion o salwch
– Cyngor ar forgeisi a chymorth gyda rhent
– Budd-daliadau a chredyd cynhwysol a sut i reoli eich taliadau
– Dechrau cynilo a gwybodaeth i rai sydd â diddordeb mewn buddsoddi
– Ymddeol a’ch pensiwn.
Mae offer rhyngweithiol ar gael fel cyfrifiannell costau babanod, cyfrifiannell budd-daliadau, cyfrifiannell cynilo a llawer mwy.
Gallwch drefnu apwyntiad neu sgwrsio gyda chynghorydd trwy sgwrs fyw.
Cliciwch ar y blwch ‘dysgu mwy’ i gael gwybod mwy.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Gwehyddu ar Froc Môr
Dysgwch sut i blethu ar broc môr yn y ffilm fer hon gan yr artist Laura Thomas.

Hwyl Wrth Ganu
Tair ffilm fer sy’n archwilio sut y gall canu mewn ffordd syml a chwareus fod yn hwyl a chefnogi eich llesiant.

Cerddoriaeth y Tirlun
Gwrandewch ar gerddoriaeth gitâr acwstig tawel sy'n cael ei chwarae gan y cerddor Cymreig Toby Hay.