Chwilio am gymorth a chefnogaeth?

Ffyrdd at les

Gwirfoddoli er mwyn ffynnu

Wedi’i rhannu yn: Pobl
Llun o ddwy fenyw yn gwirfoddoli

Mae’n bosibl y bydd dolenni ar y dudalen hon yn mynd â chi at wybodaeth a ddarperir gan sefydliadau eraill, nad yw efallai ar gael yn Gymraeg.

Mae llawer o bobl yn cydnabod manteision gwirfoddoli yn eu cymuned o ran pobl eraill. Efallai y bydd pobl yn meddwl llai am fanteision gwirfoddoli o ran eu hiechyd meddwl eu hunain.  

Mae gwirfoddoli’n rhoi’r cyfle i ni gysylltu ag eraill a’u cefnogi, ynghyd â dysgu sgiliau newydd, datblygu ymdeimlad o berthyn a gwella ein teimladau ein hunain o ran llesiant. Ac mae bob un wedi’u profi i fod o fudd i’n hiechyd meddwl.   

Mae’r Mental Health Foundation (MHF) yn partneru â sefydliad ffantastig o’r enw Llesiant Rieni Senglg (LRS). Mae MHF yn gweithredu fel partner ar gyfer y prosiect, sy’n cefnogi LRS gyda hyfforddiant, gwaith gwerthuso, ac adnoddau fel rhannu swyddfeydd.

Cwmni Buddiannau Cymunedol a arweinir gan gymheiriaid ydy LRS, sy’n cefnogi ac yn grymuso rhieni sengl eraill. Fel cymuned, mae LRS yn darparu amrywiaeth o weithgareddau i rieni a’u plant, y mae pob un ohonyn nhw’n hyrwyddo ac yn cefnogi iechyd meddwl a llesiant da.  

Fel arfer, y cysylltiad cyntaf y mae pobl yn ei gael â LRS ydy drwy fynychu gweithgaredd fel un o’u sesiynau cyfarfod awyr agored, naill ai fel rhiant neu gyda’u plentyn neu blant. Mae ‘ymdeimlad o berthyn’ a mwynhad a brofir gan y rheiny sydd wedi mynychu un o’r rhain wedi ysbrydoli llawer o rieni sengl i fod eisiau chwarae mwy o ran. O ganlyniad, sefydlwyd prosiect ‘Thrive’ i alluogi a datblygu gwirfoddolwyr, a elwir yn ‘Genhadon’.  

Mae Tania yn rhiant sengl a chanddi dri o blant o oedran ysgol gynradd ac ysgol uwchradd ar yr adeg yr oedd wedi gwahanu o’u tad, dros bum mlynedd yn ôl. Mae Tania yn Gennad ar gyfer ‘Thrive’, ac mae hi wedi bod yn gwirfoddoli gyda LRS ers 2003. Erbyn hyn, mae hi’n helpu i gydlynu a rhedeg sawl gweithgaredd, gan gynnwys y grŵp darllen  ‘Books & Banter’ a’r Clwb Sinema.  

Mae Tania yn dweud Mae’n teimlo fel bod gen i bwrpas, o ran helpu pobl i deimlo’n fwy cyfforddus o safbwynt cymdeithasol. A dwi wedi datblygu; wedi ennill llawer o sgiliau, ac wedi gwneud ffrindiau. Mae yna hyfforddiant a chymorth parhaus ar gael, ond mae o wedi’i deilwra’n dda.  

Dwi’n teimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi a’m cefnogi, mae LRS yn wirioneddol dda am wneud hynny. Mi allwch chi gynnig eich syniadau eich hun, ac maen nhw’n cael eu croesawu’n fawr. Mi allwch chi roi eich stamp eich hun ar bethau.”

Does dim rhwystrau o ran pwy sy’n gallu ymuno â chymuned LRS. Mae croeso i bob rhiant sengl; p’un a ydyn nhw’n ymdopi â bod yn rhiant ar eu pennau eu hunain, yn gyd-rieni, neu’n byw o fewn teulu cymysg, tydy eu sefyllfa’n gwneud dim gwahaniaeth. Yn bwysicach fyth, mae’r holl weithgareddau’n rhesymol o ran cost, cynigir lefel uchel o gymhorthdal, neu maen nhw’n rhad ac am ddim i rieni sengl a’u plant.  

Yn aml iawn, mae pwysau o ran costau byw yn cael mwy o effaith ar deuluoedd un rhiant. Mae aelwydydd â phlant a’r rheiny sy’n rhieni sengl yn dioddef lefelau uwch o dlodi. Yn ogystal â hynny, efallai bod teuluoedd un rhiant yn gorfod addasu i ymrwymiadau ariannol yr oedden nhw’n arfer eu cynllunio ar sail dau incwm. Mae gan LRS wybodaeth, cyngor ac adnoddau ynghylch costau byw, gan gynnwys awgrymiadau o ran sut i gefnogi llesiant plant, ynghyd â manylion cerdyn disgownt i rieni sengl ar eu gwefan, y gellir ei weld yma:  

Adnoddau o ran Costau Byw i Rieni Sengl yng Nghymru 

Adnoddau o ran Arian a Chyllid i Rieni Sengl yng Nghymru

Gall dod yn rhiant sengl fod yn brofiad brawychus a straenus sy’n gwneud i chi deimlo’n ynysig, felly gall gofalu am eich iechyd meddwl fod yn arbennig o anodd.   

Mae Naomi yn rhiant sengl a chanddi ddau o blant o oedran ysgol gynradd, ac mae’n disgrifio cyfnod anodd pryd yr oedd yn brwydro gyda’i llesiant meddyliol. Cafodd ei chysylltiad cyntaf â  ddwy flynedd yn ôl, drwy fynychu Gweithdy Llesiant. Roedd cael cysylltu â rhieni eraill a oedd mewn sefyllfa debyg, ynghyd â chael y cyfle i ganolbwyntio ar ei llesiant ei hun yn gymaint o help iddi. Erbyn hyn, mae hi’n trefnu ‘Family Footsteps’, sy’n rhoi cyfle i deuluoedd gael mynd am dro yn yr awyr agored a chwrdd â theuluoedd eraill. Roedd Naomi wedi creu grŵp a oedd yn rhywbeth y byddai hi ei hun yn hoffi ei wneud, estynnodd wahoddiad i bobl eraill, gan obeithio y byddai rhywun yn ymuno â hi. Dyna’n union a ddigwyddodd, ac fe gafodd hyn effaith gadarnhaol ar Naomi hefyd.

Mae Naomi’n dweud “Gan edrych yn ôl, dwi’n gallu gweld pa mor bell dwi wedi dod, a pha mor dda ydi fy sefyllfa erbyn hyn, o gymharu â 2 flynedd yn ôl. Dwi’n hapusach, ac mae fy mhlant yn hapusach.”    

Mae Naomi’n pwysleisio pwysigrwydd gallu cyfarfod rhieni sengl eraill. Roedd wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol iddi, ac mae’n gallu gweld effaith hyn ar eraill sy’n ymuno â digwyddiadau LRS ar hyn o bryd.   

“Mae trefnu rhywbeth yn golygu fy mod yn gorfod codi, a mynd ati wneud hynny oherwydd fy mod wedi ymrwymo fy hun.” 

Mae rhieni sengl o dan lawer o bwysau’n barod. Ymhlith rhai o’r mathau o bwysau a nodwyd gan y gwirfoddolwyr oedd: y stigma sy’n gysylltiedig â bod yn rhiant sengl; heriau ymarferol ysgaru / gwahanu, ynghyd â rheoli perthnasau cymhleth; ac anawsterau ariannol. Mae teimlo’n ynysig ac yn unig yn gyffredin, ac mae llawer o bobl yn blaenoriaethu anghenion eu plant dros eu hanghenion eu hunain. Mae rhai yn dweud eu bod wedi ‘colli’ eu hunain wrth ddod yn rhiant sengl. Mae llawer yn dweud bod dod yn rhiant sengl wedi cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl dros gyfnod o nifer o flynyddoedd, ac yn siarad am yr angen am ymdeimlad o berthyn, ynghyd â chael eu grymuso, a thwf personol. 

Drwy wirfoddoli â LRS, mae Cenhadon ‘Thrive’ wedi cael cymorth gan eraill ac wedi cael eu hannog i gymryd gofal o’u hanghenion eu hunain.  

“Does dim disgwyl i neb wneud rhywbeth bob mis, mi allwch chi gymryd seibiant pan ydych angen hynny.” (Naomi) 

“Mae’n wirioneddol bwysig i mi gael y rhwydwaith hwnnw o gefnogaeth gan gymheiriaid. Mae yna lawer o gyfleoedd drwy wirfoddoli â SPW i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.” (Violetta) 

 “Dwi wedi gwirfoddoli o’r blaen, lle’r oedd llawer o bwysau. Yn SPW, rydych yn gwneud yr hyn rydych yn ei deimlo eich bod yn gallu ei wneud. Fydda’ i ddim yn rhedeg unrhyw ddigwyddiadau rheolaidd penodol, ond, fel arfer, mi fydda’ i ‘n gwneud rhywbeth bob mis. Gyda SPW, dydych chi ddim yn teimlo bod pwysau arnoch i wneud rhywbeth.” (Zoe)

Mae’n 10 mlynedd ers i Zoe wahanu o’i gŵr, a oedd yn golygu bod rhaid iddi ofalu am ei phlant fel mam sengl. Mae Zoe yn dweud y byddai’n teimlo bod stigma’n gysylltiedig â’r term ‘rhiant sengl’:     

“Roeddwn yn osgoi meddwl amdana’ i fy hun fel rhiant sengl, ac yn amharod i gysylltu ag unrhyw beth fel LRS. Roedd rhywun wedi rhoi gwybod i mi amdano, ond bwrw ymlaen â phethau wnes i, gan aros yn brysur. Roedd pobl yn dweud ‘mae pethau am fynd yn drech na chdi’”. 

Roedd wedi cymryd tua dwy flynedd i Zoe deimlo fod pethau’n mynd yn anodd iddi. Ochr yn ochr â cheisio mynd i’r afael â phroblemau ariannol cymhleth, roedd hi’n profi iselder a gorbryder am y tro cyntaf hefyd. Yn y diwedd, penderfynodd Zoe gysylltu â LRS, mynychodd ddigwyddiad i ddechrau, ac yna daeth yn Gennad gwirfoddol.

Erbyn hyn, mae Zoe’n dweud Heb LRS, mi fyddwn i mewn mwy o drafferthion, mae o’n rhoi cymaint o fudd.”

Mae colli hunanhyder yn her y mae rhieni sengl yn ei wynebu’n aml. Mae Violetta’n dweud ei bod wedi colli llawer o’i hyder yn dilyn diwedd ei pherthynas.  

Mae Violetta’n un o nifer o wirfoddolwyr sydd hefyd yn ymwneud â gwerthuso’r effaith y mae LRS yn ei gael ar iechyd meddwl rhieni sengl. Mae cymryd rôl arweinyddiaeth wirfoddol yn y maes hwn wedi meithrin hyder a sgiliau Violetta, yn ogystal â helpu i gryfhau LRS.   

Mae teimlo eich bod wedi’ch grymuso a chael dylanwadu ar beth sy’n digwydd yn eich cymuned, a chwarae rhan yn hynny, yn ffactor pwysig o ran diogelu ein hiechyd meddwl da. Mae LRS yn cael ei redeg gan rieni sengl, i rieni sengl, o dan fodel o’r enw cyd-gynhyrchu. Mae’n ffordd arall y mae LRS yn ei ddefnyddio i gefnogi’r effaith gadarnhaol o ran gwirfoddolwyr, ac mae’n rhedeg drwy bopeth a wna’r sefydliad: yr holl benderfyniadau, ei ddulliau gweithio, y gweithgareddau a redir ganddo. Mae popeth yn cael ei benderfynu gan rieni sengl a’u teuluoedd. Mae sawl un o’r tîm staff, a’r holl gyfarwyddwyr gwirfoddol, yn rhieni sengl eu hunain, felly mae gwirfoddolwyr yn ymwneud â PHOB penderfyniad.  

Mae gweithgareddau’n cael eu cynllunio i gyd-fynd ag anghenion plant, neu i’w hymgorffori, er mwyn sicrhau nad ydy gofal plant yn rhwystr i wirfoddoli. Mae gweithgareddau’n cael eu trefnu weithiau i rieni a phlant gael eu mwynhau gyda’i gilydd, Ar adegau eraill, trefnir gwahanol weithgareddau ar wahân. Mae rhai gweithgareddau’n rhai digidol, a rhedir rhai eraill ar-lein, i sicrhau y gall pobl gael mynediad iddyn nhw a pharhau i fod yn rhan o gymuned LRS. Mae LRS hefyd yn cefnogi plant mewn teuluoedd un rhiant i wirfoddoli. Mae’r plant yn cael y cyfle i dreulio amser ag eraill sydd yn yr un sefyllfa, i ddatblygu sgiliau a hyder, a chael hwyl, ac elwa ar yr un manteision â’u rhieni o ran iechyd meddwl.

Am fanylion o ran yr hyn sydd wedi’i brofi i gefnogi iechyd meddwl gweler:  Manteision y gymuned o ran eich iechyd meddwl 

Thema Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2025 oedd ‘Cymuned’,  gyda ffocws ar sylw ar amlygu’r rôl hanfodol y mae cymunedau cadarnhaol yn eu chwarae o ran cefnogi iechyd meddwl a llesiant.  A dweud y gwir, mae ‘Rhoi rhywbeth’ yn ôl’ yn fodd arbennig o dda o chwarae rhan yn eich cymuned

Mae yna lawer y gallwch ei gyfrannu, a llawer mwy y gallwch ei ennill.  

Os ydych yn rhiant sengl, ac eisiau gwybod rhagor am ddigwyddiadau Llesiant Rhieni Sengl y gallwch eu mynychu, gallwch weld rhestr lawn yma: 

Gweithdai a Digwyddiadau sy’n Rhoi Cyfle i Gyfarfod Pobl

I ddysgu rhagor am y sefydliad ac ynghylch materion sy’n ymwneud â theuluoedd rhieni sengl, ymwelwch â: Single Parents Wellbeing

Diolch o galon i Genhadon ‘Thrive’ am fod yn barod i rannu eu storïau personol.  

 


 

Efallai y byddwch hefyd yn hoffi...

Merched yn mwynhau dosbarth celf

Y celfyddydau, iechyd a llesiant ar gyfer Cymru hapusach ac iachach

Côr y dynion ifanc

Creu mannau diogel i bobl ifanc drwy gân

Person yn gorwedd lawr ar soffa yn darllen llyfr.

Ailddiffinio lles: Ein taith o theori i newid systemig

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Oedolyn hyn a'i ferch yn dyfrio planhigion gyda'i gilydd.
Dyn hen yn dyfrio planhigion yn ei heulfan.
Menyw yn cymryd llun o'i hunain yn Henhyd Falls.