Chwilio am gymorth a chefnogaeth?

Ffyrdd at les

Pam mae treulio amser gyda natur o fudd i’ch lles

Wedi’i rhannu yn: Ein meddyliau a'n teimladau Cysylltu â natur
Teulu ifanc yn cerdded trwy'r coedwig.

Dysgwch fwy am y cysylltiad rhwng hapusrwydd a bod yn yr awyr agored yn y postiad gwadd hwn a ysgrifennwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae tystiolaeth o bob cwr o’r byd yn dangos bod natur a hapusrwydd yn cydblethu, gydag 80% o’r bobl hapusaf yn dangos cysylltiad cryf â byd natur.

Gall bod allan mewn mannau naturiol gael effeithiau cadarnhaol ar eich lles mewn sawl ffordd:

  • Mae dod i gysylltiad â byd natur yn helpu pobl i reoli eu hwyliau a gwella gwydnwch emosiynol.
  • Mae 83% yn fwy o bobl yn cymryd rhan mewn gweithgaredd cymdeithasol mewn mannau naturiol o gymharu â mannau lle mae llystyfiant yn brin neu fannau concrit.
  • Dangoswyd bod o gwmpas planhigion a choed yn cael effaith tawelu ar y rhan o’r system nerfol sy’n gyfrifol am straen a gorbryder.
  • Mae amlygiad golau dydd yn helpu i reoleiddio lefelau melatonin a serotonin yn yr ymennydd, sy’n hanfodol ar gyfer cwsg da.
  • Gall newid amgylchedd fod yn ffordd dda iawn o gael gwared ar straen ac anghofio am bethau a all fod yn pwyso ar eich meddwl.
  • Os gallwch chi fod yn heini, mae taith gerdded gyflym 20 munud yn ffordd wych o’ch helpu i deimlo’n llawn egni, gan roi hwb o ocsigen i bob cell yn eich corff.
  • Mae cerdded yn gwneud i chi deimlo’n hapusach drwy ryddhau endorffinau cadarnhaol sy’n lleihau straen a gorbryder, ac mae’n helpu i gynnal eich cof ac atal dementia wrth i chi heneiddio.
  • Gall canolbwyntio ar fyd natur o’ch cwmpas eich helpu i fod yn ymwybodol o’r foment bresennol a lleihau gorbryder a straen.

Cysylltu â natur drwy weithgaredd, dysgu a chelf

Mae bod mewn mannau naturiol, dysgu am yr amgylchedd a chael eich ysbrydoli gan natur yn dair ffordd y gallwch chi adeiladu cysylltiad cryf â natur sy’n dod â buddion gydol oes i’ch lles corfforol a meddyliol a’r amgylchedd.

Cadw’n heini yn yr awyr agored

Mae cysylltiad agos rhwng iechyd corfforol ac iechyd meddwl. Mae gweithgaredd sydd o fudd i’ch corff hefyd o fudd i’ch ymennydd drwy sbarduno’r broses o ryddhau cemegion cadarnhaol a all wella’ch hwyliau.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gofalu am goetiroedd a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol ledled Cymru lle gallwch chi roi hwb i’ch iechyd corfforol a’ch iechyd meddwl, beth bynnag fo’ch oedran neu lefel ffitrwydd.

Gan gwmpasu coetir, mynyddoedd ac arfordir, rydym yn cynnig llwybrau ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys:

  • 550 km o lwybrau cerdded
  • dros 600 km o lwybrau beicio mynydd a beicio
  • bron 100 km o lwybrau rhedeg
  • tua 30 km o lwybrau marchogaeth ceffylau.

Mae gan ein holl lwybrau gyfeirbwyntiau ac maent wedi’u graddio felly gallwch chi ddewis y lefel gywir i chi.

Mae gan lawer o’n llwybrau cerdded baneli gwybodaeth a all eich helpu i ddysgu am hanes a diwylliant y lle rydych yn ymweld ag ef – sydd hefyd yn helpu i roi hwb i’ch lles meddyliol.

Mae gan rai o’n safleoedd lwybrau hygyrch, sy’n addas i bawb, gan gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn a phobl â chadeiriau gwthio, a llwybrau beicio ar gyfer y rhai sy’n defnyddio offer addasol.

Rydym hefyd yn rheoli llwybrau pellter mawr Cymru – Llwybr Arfordir Cymru 870 milltir o hyd a’r tri Llwybr Cenedlaethol yng Nghymru: Llwybr Clawdd Offa, Llwybr Arfordir Sir Benfro a Llwybr Glyndŵr.

Ewch ati i ddysgu

Mae dysgu yn yr awyr agored yn arbennig o bwysig i blant, gan hybu cyrhaeddiad academaidd a gwella prosesau gwybyddol ac emosiynol. Mae tystiolaeth yn dangos y gall bod yn yr awyr agored helpu i leihau symptomau ADHD ac effaith digwyddiadau dirdynnol ar blant a phobl ifanc.

Mae chwarae ym myd natur yn cyfrannu at ddatblygiad corfforol, cymdeithasol, emosiynol a gwybyddol plant. Mae’n meithrin cysylltiad cryf â byd natur, ac yn helpu i sefydlu ymddygiadau iach sy’n diogelu’r amgylchedd ac sy’n para gydol oes. Dewch o hyd i syniadau ar gyfer chwarae a hwyl i’r teulu ym myd natur ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Rydym hefyd yn darparu adnoddau addysg er mwyn helpu dysgwyr i ddeall amrywiaeth eang o bynciau amgylcheddol.

lluniad o person yn cerdded yn yr haul

Dechrau darganfod

Dewch o hyd i leoedd i ymweld â nhw a phethau i’w gwneud ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Archwiliwch wefan Cyfoeth Naturiol Cymru
Lluniad o goeden

Dechrau dysgu

Dewch o hyd i adnoddau dysgu amgylcheddol ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Byddwch yn greadigol

Drwy ein partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn helpu i feithrin y berthynas rhwng y celfyddydau a’r amgylchedd naturiol.

Ein nod yw dod â chymunedau ynghyd drwy weithgarwch creadigol yn ardaloedd awyr agored Cymru er mwyn helpu pobl i werthfawrogi byd natur ac adeiladu dyfodol iach a chynaliadwy.

Mae ein coetiroedd a’n Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn darparu lle i chi ymgolli ym myd natur ac ysgogi eich creadigrwydd.

Mae ymdrochi yn y goedwig yn ffordd o gysylltu â byd natur o’ch cwmpas gan ddefnyddio’ch synhwyrau. Dangoswyd bod cyfuno hyn ag ysgrifennu creadigol yn cynyddu teimladau cadarnhaol ac yn arwain at lesiant gwell.

Mae arlunio a braslunio ym myd natur yn weithgaredd meddylgar arall a all eich helpu i arafu a chanolbwyntio ar y foment.

Syniadau ar sut i ddechrau braslunio ym myd natur

Mae rhai o’n lleoedd yn gartref i lwybrau cerfluniau sy’n gadael i chi brofi celf wrth i chi gerdded:

Mae llawer o fusnesau yn defnyddio ein coetiroedd a’n gwarchodfeydd ar gyfer eu digwyddiadau, felly cadwch olwg yn lleol am weithgareddau creadigol sy’n digwydd yn eich ardal chi.

Eisiau dysgumwy?

Dysgwch am fwy o fanteision treulio amser ym myd natur ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Ymweld â gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru

Efallai y byddwch hefyd yn hoffi...

Coed mewn codewig heulwen.

Cysylltu â natur trwy ymdrochi mewn coedwig er mwyn gwella llesiant meddyliol

Person yn eistedd ar gwely, yn chwarae gitar.

Sut mae gweithgareddau hamdden yn helpu ein lles meddyliol?

Person yn gorwedd lawr ar soffa yn darllen llyfr.

Ailddiffinio lles: Ein taith o theori i newid systemig

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Oedolyn hyn a'i ferch yn dyfrio planhigion gyda'i gilydd.
Dyn hen yn dyfrio planhigion yn ei heulfan.
Menyw yn cymryd llun o'i hunain yn Henhyd Falls.