Chwilio am gymorth a chefnogaeth?

Ffyrdd at les

Canfod llif i roi hwb i’ch hwyliau a gwneud bywyd yn ystyrlon

Wedi’i rhannu yn: Ein meddyliau a'n teimladau Hobïau a diddordebauBod yn greadigol
Person yn garddio

Gan Dr Amy Isham, Grŵp Ymchwil Lles Cynaliadwy, Ysgol Seicoleg, Prifysgol Abertawe

Ydych chi byth yn cymryd rhan mewn gweithgaredd ac yna’n sylwi bod sawl awr wedi mynd heibio? Efallai eich bod wedi ymgolli cymaint yn yr hyn rydych chi’n ei wneud fel eich bod yn rhoi’r gorau i feddwl am yr holl bethau sydd gennych i’w gwneud? Neu bod y gweithgaredd yn dechrau teimlo’n ddiymdrech, fel pe baech chi’n ymgolli yn y gweithgaredd?

Pan fydd pobl yn disgrifio’r mathau hyn o brofiadau, yn aml byddant wedi bod yn yr hyn a elwir yn gyflwr llif. Mae bod mewn llif yn bleserus iawn ac mae’n bwysig o ran cyfrannu at ein lles meddyliol.

Ac er y bydd llif yn ymddangos i rai yn rhywbeth prin ac anarferol, mae’n bosibl iawn ei gyflawni yn ein bywydau bob dydd.

Felly beth yw llif?

Mae llif yn disgrifio cyflwr pan fyddwn ni, fel unigolion, wedi ymgolli’n gyfan gwbl mewn gweithgaredd. Bathwyd y term gan y seicolegydd o Hwngari, Mihaly Csikszentmihalyi, a oedd yn ystyried ei fod yn fath o brofiad optimaidd.

Mewn llif, rydym yn canolbwyntio gymaint fel ein bod ni’n rhoi’r gorau i dalu sylw i unrhyw beth sydd ddim yn gwbl berthnasol i’r gweithgaredd. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n gallu colli trac ar amser, peidio â phoeni am farn pobl eraill ac yn cyfuno gweithredu ac ymwybyddiaeth fel bod ein symudiadau’n teimlo’n ddiymdrech.

Rheoli a gweithredu’n ddiymdrech

Er y byddai angen i ni wneud llawer o ymdrech fel arfer i gganolbwyntio am amswer hir, mewn cyflwr llif, mae angen llai o ymdrech i barhau i ganolbwyntio ar y dasg.

Mewn llif, rydym yn teimlo mai ni sy’n rheoli pethau a’n bod ni’n gweithredu’n ddiymdrech. Rydym yn cymryd rhan yn y gweithgaredd oherwydd ein bod ni eisiau gwneud hynny, nid am ein bod ni’n ceisio ennill rhyw wobr allanol neu am ein bod ni dan bwysau allanol.

Sut mae gwahanol bobl yn ei ddisgrifio

Isod ceir mae disgrifiadau o sut mae gwahanol bobl yn teimlo mewn llif. Ydych chi erioed wedi cael profiadau tebyg?

Dydy fy meddwl ddim yn crwydro. Dydw i ddim yn meddwl am unrhyw beth arall. Rydw i’n ymgolli’n llwyr yn yr hyn dwi’n ei wneud. Mae fy nghorff yn teimlo’n dda. Allai ddim clywed unrhyw beth. Mae’r byd yn ymddangos fel pe bai wedi’i ddatgysylltu. Dwi’n llai ymwybodol o fy hun a fy mhroblemau.”

Mae canolbwyntio’n debyg i anadlu – dydw i byth yn meddwl amdano. Pan fyddaf yn dechrau, dwi’n  cau’r byd allan. Dydw i ddim yn ymwybodol o fy amgylchedd ar ôl i mi ddechrau arni o ddifrif. Dwi’n meddwl y gallai’r ffôn ganu, gallai’r gloch ganu neu gallai’r tŷ losgi i’r llawr, neu rywbeth felly. Ar ôl gorffen, gallaf ei adael yn ôl i mewn eto.”

Sut mae llif yn gwella ein lles

Pan wnaeth Martin Seligman, un o sylfaenwyr seicoleg gadarnhaol, gynnig ei ddamcaniaeth PERMA ar gyfer lles, cafodd llif (neu ymgysylltiad, fel roedd yn ei alw) ei gynnwys ochr yn ochr ag emosiynau cadarnhaol, perthnasoedd, ystyr a chyflawniad fel un o’r pum elfen sy’n gallu sicrhau lles personol.

Ers hynny, mae amrywiaeth eang o astudiaethau wedi cefnogi llif fel ysgogwr pwysig ar gyfer lles dynol. Rydym wedi nodi bod y profiad o fod mewn llif yn bleserus iawn. Mae’n rhoi eiliad i ddianc rhag ein pryderon bob dydd.

Yn ddiddorol, mae tystiolaeth niwrowyddonol sy’n dod i’r amlwg yn dangos, yn ystod y cyflwr llif, bod rhwydweithiau’r ymennydd sy’n cynhyrchu cynnwrf negyddol yn llai actif. Mae hyn yn cyd-fynd â gostyngiad mewn teimladau negyddol yn ystod llif.

Ond yn ogystal â darparu lles yn yr eiliad bresennol, mae teimladau rheolaidd o lif wedi’u cysylltu â lefelau uwch o les hyd yn oed y tu allan i’r profiad o lif ei hun. Mae ymchwil yn dangos bod pobl sy’n profi llif yn aml yn tueddu i fod yn fwy bodlon â’u bywydau, yn profi nifer fwy o deimladau cadarnhaol ac yn adrodd ar lefelau uwch o foddhad.

Ar ben hyn, mae profiad o lif yn y gwaith, yn yr ysgol neu wrth wneud hobïau – fel chwaraeon – wedi’i gysylltu â pherfformiad gwell a graddau uwch. Felly, gall llif wella ein lles hefyd drwy ein helpu i deimlo’n gymwys a rhoi hwb i’n hunan-barch.

Sut i ganfod llif

Dydy llif ddim yn rhywbeth goddefol y mae’n rhaid i ni aros iddo ddigwydd i ni. Mae profiadau o lif yn cael eu creu mewn modd gweithredol gan unigolyn pan fydd yn dewis talu ei holl sylw i’r dasg dan sylw.

Mae gwaith ymchwil wedi amlinellu ffactorau penodol a allai gefnogi’r broses o ganfod llif. Er enghraifft, mae’n fwy tebygol y bydd llif yn digwydd pan fydd y gweithgaredd yn cyflwyno digon o her fel bod angen i bobl ddefnyddio eu sgiliau a gallu cwblhau’r gweithgaredd yn llwyddiannus o hyd.

Nid yw’r dasg mor anodd fel ei bod yn peri rhwystredigaeth a phryder, ond hefyd nid yw mor hawdd fel ei bod yn ddiflas. Gall nodau clir hefyd helpu i dalu sylw a chynnal cysylltiad â’r dasg.

Gweithgareddau a allai eich helpu i ganfod llif

Mae tystiolaeth bod nifer o wahanol fathau o weithgareddau yn gallu cefnogi profiadau o lif yn aml.

Yn ffodus, mae nifer o’r gweithgareddau hyn yn hygyrch iawn ac maen nhw’n rhan o fywyd bob dydd nifer o bobl. Celf a chrefft, ymarfer corff, darllen neu dreulio amser gyda’ch teulu: does dim angen llawer o arian ar gyfer gwneud yr un o’r pethau hyn.

Dydy demograffeg ddim yn bwysig

Yn ein hymchwil, rydym wedi canfod nad oes gan ffactorau demograffeg fawr o rôl i’w chwarae o ran a fydd pobl yn profi llif ai peidio.

Mae hyn yn golygu bod llif yn bosibl ar draws gwahanol grwpiau oedran, rhyweddau a chefndiroedd economaidd-gymdeithasol.

Mae’n dda i’r blaned hefyd

Canfu ein gwaith ymchwil fod y gweithgareddau hynny sy’n ymddangos yn addas iawn i gefnogi llif yn tueddu i fod yn ystyriol o’r amgylchedd hefyd, felly gallwn gefnogi ein lles ein hunain a helpu i warchod y blaned.

Mae’r mathau o weithgareddau sydd wedi cael eu nodi yn ein hymchwil fel rhai sy’n gefnogol iawn i lif, ac sydd hefyd yn cael effaith fach ar yr amgylchedd, yn cynnwys:

  • dawnsio
  • darllen
  • canu
  • chwaraeon
  • chwarae gemau bwrdd
  • chwarae offeryn cerdd
  • cymryd rhan mewn sgyrsiau gyda ffrindiau, cymdogion neu anwyliaid.
  • gweddïo a myfyrio
  • gweithgareddau celf a chrefft

Ymgolli yn yr hyn rydych yn ei fwynhau

Felly, i helpu chi’ch hun i ganfod llif ac, wrth wneud hynny, cefnogi eich lles, ceisiwch ymgysylltu’n llawn â’ch gweithgareddau bob dydd. Dylech chi ganfod y pethau hynny rydych chi’n mwynhau eu gwneud a gadael i chi’ch hun ymgolli’n llwyr ynddyn nhw. Gall y cyfnodau dwys hyn o gysylltiad â gweithgareddau helpu i roi hwb i’n hysbryd a gwneud bywyd yn ystyrlon.

Cyfeiriadau

Csikszentmihalyi, M. (1992). Flow: The psychology of happiness. Llundain: Rider.

Isham, A., a Jackson, T. (2022). Finding flow: exploring the potential for sustainable fulfilment. Lancet Planet. Health 6, e66–e74. Dyddiad cyhoeddi: 10.1016/S2542-5196(21)00286-2

Isham, A., Gatersleben, B., a Jackson, T. (2019). Flow activities as a route to living well with less. Environ. Behav. 51, 431–461. Dyddiad cyhoeddi: 10.1177/0013916518799826

Isham, A., a Jackson, T. (2023). Whose ‘flow’ is it anyway? The demographic correlates of ‘flow proneness’. Pers. Individ. Differ. 209:112207. Dyddiad cyhoeddi: 10.1016/j.paid.2023.112207

Efallai y byddwch hefyd yn hoffi...

Dau bobl yn chwerthin ar soffa gyda'i gilydd.

Deall lles meddyliol yng Nghymru

Teulu ifanc yn cerdded trwy'r coedwig.

Pam mae treulio amser gyda natur o fudd i’ch lles

Person yn gorwedd lawr ar soffa yn darllen llyfr.

Ailddiffinio lles: Ein taith o theori i newid systemig

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Oedolyn hyn a'i ferch yn dyfrio planhigion gyda'i gilydd.
Dyn hen yn dyfrio planhigion yn ei heulfan.
Menyw yn cymryd llun o'i hunain yn Henhyd Falls.