Gan Andrew Kemp, Athro Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe ac Ymchwilydd Clinigol Anrhydeddus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Zoe Fisher, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac Athro Cyswllt ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae lles yn bwnc cymhleth: mae’n anodd ei ddiffinio, ei astudio a’i hyrwyddo. Mae’r diffiniadau ohono mewn geiriaduron yn cyfeirio at gyflwr o fod yn hapus, yn iach ac yn gyfforddus. Ond eto mae hapusrwydd yn aml yn fyrhoedlog, mae iechyd fel arfer yn cael ei yrru gan ffactorau y tu hwnt i’n rheolaeth, ac mae’n amhosibl bod yn gyfforddus drwy’r amser.
Cyflawni lles trwy anghysur ac adfyd
Mae pobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sydd, i bobl eraill, yn gysylltiedig ag anghysur mawr – gan gynnwys rhedeg pellter hir, nofio yn yr awyr agored ac encilion myfyrio tawel. Mae’r ffyrdd hyn o wella lles yn pwysleisio pa mor bwysig yw dysgu bod yn gyfforddus â’r teimlad o anghysur.
Mae datblygu synnwyr o ystyr mewn bywyd (dolen Saesneg yn unig) yn elfen graidd ar les, ac yn aml ni allwn gyflawni hynny heb rywfaint o anghysur ac adfyd. Yn ddiddorol, dangoswyd y gall mynd ar drywydd hapusrwydd arwain yn eironig at lai o hapusrwydd (dolen Saesneg yn unig) – a hyd yn oed gynnydd mewn iselder, gorbryder a straen.
Twf a lles ar ôl trawma ar gyfer pobl syddy â chyflyrau cronig
Yn aml, mae iechyd a hapusrwydd yn mynd law yn llaw, ond mae ein hymchwil yn dangos (dolen Saesneg yn unig) y gall hyd yn oed pobl â chyflyrau cronig fel anaf caffaeledig i’r ymennydd brofi twf a lles wedi trawma (dolen Saesneg yn unig). Efallai y bydd eu mecanweithiau traddodiadol ar gyfer prosesu emosiynol wedi u bygwth ond gallan nhw barhau i gyflawn lles o dan yr amgylchiadau cywir.
Damcaniaethau sy’n sail i waith seicoleg gadarnhaol
Felly beth yw lles a sut mae ei ddiffinio? Mae’n destun llawer o drafodaethau a dadleuon mewn llenyddiaeth ysgolheigaidd, ac rydym wedi treulio llawer o amser yn ei darllen a’u dadansoddi.
Mae o leiaf dair prif ddamcaniaeth sy’n sail i lawer o’r gwaith ym maes seicoleg gadarnhaol. Un o’r rhain yw ‘hedonia’, sy’n canolbwyntio ar strategaethau i hybu emosiynau cadarnhaol drwy, er enghraifft, fwynhau neu ail-fframio ein profiadau mewn ffordd gadarnhaol.
Mae ‘eudaimonia’ hefyd – mae’r ddamcaniaeth hon yn cyfeirio at luniadau seicolegol eraill, gan gynnwys canfod ystyr a phwrpas mewn bywyd a thwf personol.
Y drydedd ddamcaniaeth ddylanwadol yw’r model PERMA integreiddiol (dolen Saesneg yn unig).,sy’n disgrifio pum elfen y credir eu bod yn hanfodol i les. Mae’r rhain yn cynnwys emosiwn cadarnhaol, ymgysylltu (neu lif), perthnasoedd cymdeithasol, ystyr a chyflawniad.
Dulliau gwahanol, ystyriaethau gwahanol
Ni waeth beth mae’r gwaith hwn yn canolbwyntio arno, mae seicolegwyr yn tueddu i ganolbwyntio ar yr unigolyn, yn hytrach na’r grwpiau neu’r systemau y mae pobl yn rhan ohonyn nhw. Er bod seicolegwyr clinigol yn ystyried systemau, eu prif ‘gleientiaid’ o hyd yw unigolion, cyplau neu deuluoedd.
Mae hyn yn wahanol i iechyd cyhoeddus, sy’n defnyddio dull sy’n seiliedig ar y boblogaeth. Mae’r gwahaniaethau hyn wedi arwain at ddiffyg integreiddio rhwng y ddau faes, yn enwedig o ran damcaniaethau lles.
Er enghraifft, mae modelau lles sy’n seiliedig ar seicoleg yn esgeuluso effaith natur neu elfennau cymdeithasol-strwythurol – meysydd lle mae ymchwil Iechyd Cyhoeddus fel arfer yn disgleirio.
Mynd o fod yn arsylwr i ymchwilio’n ddwfn
Felly sut gall seicolegwyr weithio i roi hwb i les unigolion a chymdeithas? Mae’r ateb yn ymwneud â meddwl y tu allan i seilos traddodiadol ein disgyblaeth (dolen Saesneg yn unig).
Roeddwn i [Andrew] yn arsylwr seicoleg gadarnhaol am flynyddoedd lawer cyn penderfynu wneud ymchwil fanwl i’r pwnc hwn.
Cefais fy herio gan feirniadaeth yn y maes, gan gynnwys y feirniadaeth bod yr ymroddiad i hybu lles o ddiddordeb i bobl wyn gyfoethog yn unig. Neu fod lles wedi cael ei ecsbloetio gan y gymdeithas ddefnyddwyr fodern (dolen Saesneg yn unig) a ffocws y diwydiant lles (dolen Saesneg yn unig).
Roedd hynny nes i mi symud i Gymru a chwrdd â’m cydweithiwr a’m cyd-awdures, Zoe, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol a oedd wedi bod yn gwreiddio seicoleg gadarnhaol yn y Gwasanaeth Cymunedol Anafiadau i’r Ymennydd yn Ysbyty Treforys.
Roedd gen i [Andrew] ddiddordeb yn y syniad y byddai rhywun s’yn brwydro yn erbyn cyflwr cronig gydol oes fel anaf i’r ymennydd yn gallu profi lles, yn enwedig wrth edrych ar ddiffiniadau traddodiadol o les.
Nid oedd y maes seicoleg gadarnhaol wedi cymhwyso’r syniadau hyn bobl sy’n byw ag anabledd, afiechyd neu anaf. Gellid dadlau bod meithrin lles unigolion o’r fath yn bwysicach fyth.
Ffordd newydd o edrych ar les
Fe ddechreuon ni ailfeddwl am yr hyn y mae’n ei olygu i brofi lles a gwnaethom ddatblygu ein fframwaith damcaniaethol ein hunain yr ydym wedi’i ddisgrifio fel y model GENIAL (Fisher et al., 2022 (dolen Saesneg yn unig); Kemp & Fisher, 2022 (dolen Saesneg yn unig); Mead et al., 2021 (dolen Saesneg yn unig)). Mae’n air sy’n golygu ‘cyfeillgar’ a ‘siriol’ yn Saesneg (a ‘rhagorol’ yn Sbaeneg!).
Mae hefyd yn acronym (yn Saesneg) sy’n mapio’r llwybr o ryngweithiadau rhwng y Genynnau a’r Amgylchedd “gene-environmental” hyd at hirhoedledd – (Longevity). Mae cyfryngwyr pwysig y cyswllt hwn yn cynnwys swyddogaeth y nerf fagol (vagal nerve), sy’n sail i’n gallu ar gyfer ryngweithio’n gymdeithasol (social interaction). Mae hyn yn helpu ein corff i gynnal cydbwysedd mewnol (homeostasis) yn ogystal â diwallu ei anghenion (allostasis). Dros amswer, mae’r broses, hon yn gallu dylanwadu ar ein hirhoedledd (longevity).
Gellir dadlau mai’r nerf fagol yw’r nerf pwysicaf yn y corff dynol ac mae’n chwarae rhan allweddol yn y broses o reoli swyddogaethau allweddol fel cyfradd curiad y galon, pwysedd gwaed, anadlu a threuliad. Yn wir, gellir ei ystyried yn gyswllt strwythurol rhwng iechyd meddyliol a chorfforol.
Mae tystiolaeth ei fod yn gysylltiedig â llawer o ganlyniadau, gan gynnwys:
- rheoli emosiynau
- cysylltiad cymdeithasol
- cysylltiad â natur
- marwolaeth gynamserol.
Gwella swyddogaeth y nerf fagol
Pe baem yn cael ein gwthio i ddiffinio lles mewn un gair, ‘cysylltiad’ fyddai’r gair hwnnw. Mae tystiolaeth bod y nerf fagol yn cefnogi’r gallu i gysylltu â ni ein hunain, i gysylltu ag eraill a chysylltu â byd natur..
Yn bwysig, gallwn wella swyddogaeth y nerf fagol mewn sawl ffordd, gan gynnwys:
- gwneud gweithgarwch corfforol
- diet iach
- ymarfer myfyrdod
- bod gyda ffrindiau a theulu
- treulio amser ym myd natur.
Cyfres o ymyriadau yn seiliedig ar y fframwaith GENIAL
Mae ein dealltwriaeth o les wedi ein galluogi i drawsnewid ein dull gweithredu fel clinigwyr ac addysgwyr yn llwyr. Rydym bellach wedi datblygu amrywiaeth o ymyriadau i roi hwb i les yn seiliedig ar ein fframwaith GENIAL.
Mae’r rhain yn cynnwys modiwl gwyddor lles ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ymyriad seicotherapi cadarnhaol ar gyfer pobl sy’n byw ag anaf i’r ymennydd. Rydym hefyd wedi dechrau prosiect ecotherapi ar gyfer y gymuned ehangach – wedi’i wreiddio mewn prosiect amaethyddol a gefnogir gan y gymuned – ar safle ysbyty addysgu mawr yma yn Ne Cymru.
Rydym wedi cyhoeddi sawl papur yn ymwneud â’n gwaith ar draws y sector addysg a gofal iechyd, sy’n adrodd bod lles myfyrwyr israddedig wedi gwella ar ôl cwblhau’r modiwl gwyddor lles yn ystod y pandemig.
Roedd ein papurau hefyd yn dangos bod gan bobl sy’n byw gydag anaf caffaeledig i’r ymennydd potensial aruthrol ar gyfer cyflawni lles o dan yr amodau cywir, er gwaethaf y ffaith eu bod yn byw gyda dioddefaint ac adfyd sylweddol.
Partneriaethau agos gyda gwahanol sectorau a sefydliadau cymunedol
Nid pocedi o weithgarwch yn y sector addysg a gofal iechyd yn unig yw’r gwaith hwn. Mae’n cynrychioli ffordd newydd o weithio ar draws gwahanol sectorau i wireddu cyfleoedd ni ddychmygwyd o’r blaen a ddeilliodd o bartneriaethau gwaith agos gyda sefydliadau cymunedol.
Mae hefyd yn cynrychioli dull newydd o hybu lles sy’n canolbwyntio ar unigolion, cymunedau a’r blaned – gan roi sylw manwl i hybu lles unigol, cyfunol a’r blaned hyd yn oed.
Er mwyn hybu lles parhaus ac integreiddio cymunedol gan ddefnyddio dull ‘sy’n seiliedig ar systemau’, rydym wedi cyd-ddatblygu ystod eang o fentrau. Mae’r rhain yn cynnwys grwpiau sy’n seiliedig ar natur, prosiectau cadwraeth lleol, therapi syrffio a sgïo, ac adeiladu cynaliadwy.
Catalydd ar gyfer newid ystyrlon a systemig
Mae’r mentrau hyn i gyd wedi’u harwain gan ein fframweithiau damcaniaethol ac wedi’u cydgynhyrchu mewn partneriaeth â sefydliadau cymunedol. Mae cymryd rhan mewn partneriaethau cymunedol wedi creu cyfleoedd newydd i wella a chynnal lles.
Mae hefyd wedi atal canlyniadau iechyd andwyol yn nes ymlaen i bobl â chyflyrau cronig ôl cael eu rhyddhau o’r gwasanaeth iechyd. Mae gweithio mewn partneriaeth â darparwyr cymunedol hefyd yn cyfrannu at iechyd a lles ein cymunedau – gan gefnogi lles a gwytnwch ar raddfa fwy.
I fod yn glir: nid menter ymchwil yn unig yn ein dull– mae’n gatalydd ar gyfer newid ystyrlon a systemig. Mae ei ddylanwad yn effeithio ar fywydau a systemau ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, ac mae’n cynnig dull arloesol o ymdrin â heriau cymhleth cydgysylltiedig lles.
Efallai y byddwch hefyd yn hoffi...

Y celfyddydau, iechyd a llesiant ar gyfer Cymru hapusach ac iachach

Ymarfer tosturi, i ni ein hunain, i eraill a’r byd o’n cwmpas
