Ffyrdd at les
  1. Hafan
  2. »
  3. Erthyglau Hapus
  4. »
  5. Cadw mewn Cysylltiad: eiliadau bach ar gyfer lles

Cadw mewn Cysylltiad: eiliadau bach ar gyfer lles

Wedi’i rhannu yn: Iechyd corfforolPoblEin meddyliau a'n teimladau
Photo of two friends enjoying a conversation

Nid ewyllys da yn unig mo cysylltu ag unigolion eraill yn ystod y gwyliau. Mae’n ffordd bwerus o ddiogelu ein hiechyd meddyliol a chorfforol. Gall hyd yn oed rywbeth fel cael sgwrs fach, rhoi cwtsh, neu anfon neges destun fer wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Pam mae cysylltiad cymdeithasol yn bwysig

Rydyn ni wedi ein creu ar gyfer cysylltu ag eraill. Mae degawdau o ymchwil bellach yn dangos pa mor bwysig yw ein cysylltiadau cymdeithasol.

Mae Comisiwn Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar Gysylltiad Cymdeithasol yn adrodd bod un o bob chwech o bobl yn fyd-eang yn profi unigrwydd a bod datgysylltiad cymdeithasol cronig yn gysylltiedig â chanlyniadau iechyd difrifol.

  • Mae ynysigrwydd cymdeithasol yn cynyddu’r risg o farwolaeth o bob achos tua 32%, a chynnydd o tua 14% o ganlyniad i unigrwydd.
  • Gall datgysylltiad cronig waethygu poen corfforol ac mae’n gysylltiedig â risgiau uwch o glefyd cardiofasgwlaidd a dementia.

Mae hyn yn gwneud yr achos dros gysylltiad cymdeithasol yn syml ac yn bwerus: mae’n hanfodol i’n lles.

Pam y gall tymor yr ŵyl deimlo’n anoddach:

Er bod rhai yn profi agosatrwydd ac yn dathlu yr adeg hon o’r flwyddyn, gall eraill deimlo eu hunigrwydd yn waeth nag ar yr un adeg arall.

Mae llawer o resymau am hyn:

  • Amgylchiadau: Bod ymhell o deulu, profi galar, profedigaeth, neu berthnasoedd dan straen.
  • Pwysau: Mae’r disgwyliad i gynnal, “ffug” hapusrwydd, neu greu’r “dathliad perffaith” yn troi llawenydd yn rhestr llawn straen y mae angen ei chyflawni ar eich pen eich hun.
  • Effaith ar iechyd: gall straen emosiynol y tymor waethygu straen, gorbryder, neu deimladau o ynysigrwydd.

Nid yw cydnabod yr elfennau yma’n lleihau hud y tymor; mae’n creu lle ar gyfer profiad mwy gonest a charedig ohono.

Pŵer cysylltiad pwrpasol
Y newyddion da yw nad oes angen arwyddion mawr er mwyn gwneud cysylltiadau; mae’n digwydd ar adegau bob dydd ac yn y perthnasoedd, mawr neu fach, sy’n ein cadw ni i fynd. Nid lleddfu unigrwydd yn unig mo pwrpas cynnal cysylltiadau; mae’n ymwneud â diogelu ein hiechyd hirdymor a chefnogi lles y rhai sydd o’n cwmpas.

Mae ffyrdd o feithrin cysylltiad sy’n seiliedig ar wyddoniaeth yn cynnwys:

  • Gwneud cysylltiadau byr, rheolaidd: Mae anfon neges destun gyflym, gadael nodyn llais, neu wneud alwad “dim ond dweud helo” yn helpu i gynnal cysylltiadau pwysig.
  • Gweithgareddau ar y cyd, heb lawer o bwysau: Gall mynd am dro, coginio pryd o fwyd, neu eistedd gyda’ch gilydd fod yn ddigon i hybu ein lles.
  • Cynnwys y gymuned: Mae rhoi o’ch amseri fynd i weithgareddau cymunedol neu glwb, neu i wirfoddoli ynddynt yn cryfhau’r ymdeimlad o berthyn a phwrpas, sy’n allweddol i les meddyliol hirdymor.
  • Canolbwyntio ar ansawdd: Mae gan ychydig o berthnasoedd dwfn a dibynadwy fwy o effaith ar les na rhestr hir o bobl nad ydym braidd yn eu hadnabod.
Photo of

Nid oes angen i greu cysylltiadau fod yn gymhleth nac yn feichus o ran amser Mae’n gwbl naturiol teimlo’n betrusgar oherwydd pryderon am ‘boeni’ pobl eraill neu deimlo’n rhy bryderus, yn isel eich ysbryd, neu wedi’ch llethu cyn i chi ddechrau. Gall rhwystrau ymarferol fel pellter neu symudedd hefyd eich rhwystro rhag creu cysylltiadau.

Dyma rai ffyrdd tosturiol o fynd ati:

Gosodwch Nodau Bach i chi’ch Hun

Anfonwch neges at ddau berson yr wythnos hon, neu gwnewch un alwad ffôn

Cynlluniwch “Ficroeiliadau”

Cyfnewidiwch restrau chwarae cerddoriaeth, anfonwch lun sy’n eich atgoffa o rywun, gwenwch ar rywun mewn siop, neu sgwrsiwch â chymydog.

Peidiwch â rhoi eich hun dan straen

Mae anfon negeseuon testun, gadael negeseuon llais, neu wneud galwadau i gyd yn cyfrif.

Gwerthfawrogwch bresenoldeb syml

Weithiau mae eistedd gyda rhywun, neu siarad â rhywun dros y ffôn tra bo dau berson yn gwneud tasgau arferol yn cynnig cysur.

Cysylltwch ag eraill

Cysylltwch â pherthnasau, cymdogion a ffrindiau sy’n byw ar eu pennau eu hunain, neu’n gofalu am eraill.

Gall ystyried bod creu cysylltiadau yn rhan o’ch hunanofal, yn hytrach nag yn dasg Nadoligaidd arall, greu rhythm mwy cynaliadwy a charedig.

Creu rhagor o gysylltiadau

Ystyriwch greu cysylltiadau’r Nadolig hwn am y byddant o fudd i chi a’r bobl sydd o’ch cwmpas, yn lle teimlo y dylech chi wneud hynny.

Mae digon o adnoddau ar gael i’ch helpu:

  • Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl yn rhoi cyngor ymarferol ar reoli disgwyliadau a chanolbwyntio ar yr hyn sy’n gwneud i chi deimlo’n dda, yn ystod gwyliau’r Nadolig. Gallwch archwilio eu hawgrymiadau ar gyfer gofalu am eich iechyd meddwl ar hyn o bryd drwy ymweld â’u gwefan.
  • Mae Mind yn cynnig gwybodaeth a chymorth penodol ar ymdopi yn ystod y Nadolig, sy’n cynnwys awgrymiadau ar reoli unigrwydd ac ymdopi â straen teuluol. Mae eu hadnoddau ar y Nadolig ac iechyd meddwl i’w cael yma.

Nid yw byth yn rhy hwyr i fwrw ati. Gall neges fach a anfonir heddiw, sgwrs gyflym, neu rannu profiad byr gyda rhywun arall gael effaith hirdymor. Wrth i’r flwyddyn ddod i ben, myfyriwch ar unigolion y gallech gysylltu â nhw, sut allwch chi greu cyfleoedd ar gyfer cyfeillgarwch, a pha gamau bach a all eich helpu i deimlo’n fwy sefydlog a wedi’ich cefnogi.

Mae creu cysylltiad yn un o’r rhoddion mwyaf ystyrlon y gallwch chi ei roi i eraill ac i chi’ch hun.

Efallai y byddwch hefyd yn hoffi...

Choir of young men

Creu mannau diogel i bobl ifanc drwy gân

Picture participants in forest based activities

Cefnogi llesiant drwy dreftadaeth a natur

dynion mewn grŵp cymorth

Rhoi Hwb i Iechyd Eich Ymennydd 

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Two women preparing food together in a kitchen Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Senior mother and her daughter watering plants together with a watering can
A senior man watering a tray of plants in his conservatory.
Woman taking a selfie at Henrhyd Falls