Ffyrdd at les
  1. Hafan
  2. »
  3. Erthyglau Hapus
  4. »
  5. Cefnogi llesiant drwy dreftadaeth a natur

Cefnogi llesiant drwy dreftadaeth a natur

Wedi’i rhannu yn: Hobïau a diddordebauCysylltu â naturPoblDysguEin meddyliau a'n teimladau Treftadaeth a hanes
Picture participants in forest based activities

Mae Coed Lleol/Small Woods Wales wedi bod yn cynnal rhaglenni llesiant sy’n seiliedig ar natur ledled Cymru ers 2010. Rydym yn cefnogi pobl i wella eu hiechyd meddwl a chorfforol trwy weithgareddau awyr agored fel teithiau cerdded yn y coetir, gwylltgrefft a chrefftau natur. 

Fel rhan o Bartneriaeth y Mawndiroedd Coll, mae Coed Lleol wedi dod â’i arbenigedd i gyfuniad unigryw o waith adfer amgylcheddol a llesiant cymunedol—un sy’n profi’n drawsnewidiol i bobl ac ardal. 

Mae’r Prosiect Adfer Mawndiroedd yn fenter hirdymor sydd wedi adfer 240 hectar o fawndir yr ucheldir yng Nghastell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf. Ond mae ei effaith yn mynd ymhell y tu hwnt i ecoleg. Mae’r prosiect, sydd â ffocws cryf ar dreftadaeth ac ymgysylltu cymunedol, wedi dod yn fodel ar gyfer sut y gall cadwraeth hefyd feithrin cysylltiad, hyder ac iachâd. 

Dechreuodd y prosiect yn ystod y pandemig, cyfnod pan oedd llawer o bobl yn teimlo’n ynysig ac yn bryderus. Roedd ein sesiynau’n cynnig lle diogel a chroesawgar i fynd allan i’r awyr agored, cwrdd ag eraill, a chymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon sydd â’u gwreiddiau yn y dirwedd leol. 

Dywedodd Katie, ein Swyddog Iechyd a Llesiant: “Pan ddaeth pobl ar y dechrau, roedd gorbryder yn gyffredin iawn. Roedd yn galonogol gweld pobl yn teimlo’n fwy hyderus ac yn fwy cyfforddus yn gymdeithasol a phobl yn cysylltu â phobl eraill a’r dirwedd. Mae cymaint o ddagrau o lawenydd  wedi bod yn ystod y prosiect hwn.” 

Yr hyn sy’n gwneud y prosiect hwn yn wahanol yw ei ffocws ar dreftadaeth—nid yr amgylchedd naturiol yn unig, ond y straeon, y sgiliau a’r traddodiadau sy’n rhan o’r hunaniaeth leol. Rydym wedi cynnal sesiynau ar grefftau traddodiadol fel gwehyddu helyg, rhannu hanes lleol, ac archwilio sut mae pobl wedi byw a gweithio ar y tir ers cenedlaethau. 

“Cawson raglen hyfryd yng Nghwmparc,” rhannodd Katie. “Roedd llawer o’r grŵp yn fenywod a ddywedodd eu bod nhw’n arfer dysgu sut i blethu helyg yn yr ysgol ond mae’r grefft wedi diflannu. Mae’r basgedi a wnaethon nhw gyda’u merched o hyd. Felly, aethon ni’n ôl a gwneud rhaglen gwehyddu helyg er mwyn iddyn nhw allu trosglwyddo’r grefft i’r genhedlaeth nesaf.” 

Yn ogystal â sesiynau Iechyd a Llesiant, mae’r Prosiect Adfer Mawndiroedd yn cynnwys addysg mewn ysgolion lleol, rheoli cynefinoedd ac ap sy’n annog ymwelwyr i archwilio’r dirwedd ar hyd llwybrau cerdded braf.  

Disgrifiodd Tam, un o’n cyfranogwyr, sut y gwnaeth y sesiynau ei helpu drwy gyfnod o alar personol dwfn: 

“Rydw i wedi bod yn gyfranogwr yn y Prosiect Adfer Mawndiroedd a Choed Lleol ers dros dair blynedd—a oedd yn achubiaeth ar ôl cyfnod anodd iawn, colli fy mhartner… Roedd bod yn yr awyr agored yn teimlo fel lle diogel. Tyfodd fy hyder bob wythnos. Yfed te, bwyta cacennau a chwrdd â phobl newydd oedd y pecyn gofal oedd ei angen arnaf i wella.” 

Cafodd y wirfoddolwraig Susan gefnogaeth drwy’r prosiect hefyd ar ôl colli ei gŵr yn 2019. 

“Ar ôl i fy ngŵr farw, cefais fy rhoi ar feddyginiaeth ar gyfer gorbryder ac iselder ond cefais fy atgyfeirio hefyd at Goed Lleol trwy’r presgripsiynydd cymdeithasol. Mae wedi bod yn rhan werthfawr iawn o fy mywyd am y pum mlynedd diwethaf.” 

Rhannodd Susan sut y rhoddodd y sesiynau ymdeimlad o berthyn a phwrpas iddi: 

“Roeddwn i’n mynd i ychydig o bethau fel cyfranogwr ac roeddwn i’n dechrau teimlo fy mod i eisiau rhoi help llaw a gwirfoddoli gydag ysgol goedwig, ond roeddwn i’n teimlo’n ansicr, a doeddwn i ddim yn gwybod a allwn i wneud hynny. Siaradais â Katie, a dywedodd hi, ‘Roeddwn i’n aros i ti ddweud dy fod ti eisiau gwirfoddoli!’ a gwnaeth hi fy nghofrestru. Dyna oedd y peth mawr—mae’n lle diogel.” 

“Yr hyn roeddwn i’n ei werthfawrogi fwyaf oedd teimlo’n gartrefol. Ni waeth pa fath o ddiwrnod dw i wedi’i chael, dydw i erioed wedi gadael yn teimlo fel fy mod i wedi methu. Hyd yn oed pan fydd fy nghi yn dwyn pitsas pobl! 

Wrth i’r prosiect symud i’w gam nesaf o gyllid gan y Gronfa Dreftadaeth, rydym yn myfyrio ar yr hyn sydd wedi gwneud iddo weithio cystal. Mae cyllid hirdymor wedi bod yn hanfodol—mae wedi ein galluogi i feithrin ymddiriedaeth mewn cymunedau bach ac ymateb i’r hyn y mae pobl ei eisiau mewn gwirionedd. Ac mae cyfuno natur â threftadaeth wedi ychwanegu haen bwerus o ystyr at ein gwaith llesiant. 

“Mae’r cyfuniad hwnnw o gadwraeth a llesiant yn wirioneddol bwysig,” meddai Katie. “Gofalwch am y dirwedd, gofalwch amdanoch chi’ch hun, gofalwch am eich cymuned.” 

Mae’r prosiect hwn wedi dangos pan gaiff pobl amser, lle a chefnogaeth i gysylltu—boed hynny drwy grefftau, straeon, neu ddim ond mynd am dro yn y coed—y gall pethau anhygoel ddigwydd. Rydym yn falch o fod wedi bod yn rhan o’r daith hon, ac rydym yn gyffrous i barhau i gefnogi cymunedau i ffynnu trwy natur a threftadaeth. 

 Am ragor o wybodaeth ynghylch sut i gymryd rhan, cliciwch yma 

 

 

Efallai y byddwch hefyd yn hoffi...

Llun o wirfoddolwr

Wynebau amrywiol gwirfoddoli

Merched yn mwynhau dosbarth celf

Y celfyddydau, iechyd a llesiant ar gyfer Cymru hapusach ac iachach

Person yn garddio

Canfod llif i roi hwb i’ch hwyliau a gwneud bywyd yn ystyrlon

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Two women preparing food together in a kitchen Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Senior mother and her daughter watering plants together with a watering can
A senior man watering a tray of plants in his conservatory.
Woman taking a selfie at Henrhyd Falls