Fy enw i yw Toby Hay.
Rydw i wedi byw ar hyd fy oes ar gyrion Mynyddoedd Cambria, yma yng Nghanolbarth Cymru.
Rydw i’n gerddor sydd â diddordeb yn y cysylltiad rhwng y tirlun a cherddoriaeth, ac mae fy ngherddoriaeth fy hun wedi’i hysbrydoli gan y tirweddau yma.
Mae gwaith byrfyfyr yn rhan bwysig o’r hyn rydw i’n ei wneud, ac mae dod â’r gitâr allan i’r tirlun i greu cerddoriaeth newydd wastad yn brofiad gwerth chweil.
Rydw i wrth fy modd sut mae synau’r byd naturiol yn cael dylanwad ar fy ngwaith fy hun. Rwy’n sylwi fy mod i’n ymateb yn gerddorol i’r gofod o’m cwmpas.
Mae’r adar wastad yn swnio fel pe bai nhw’n canu ychydig yn uwch pan fydd y gitâr yn ymddangos.
Dynwared yw un o’r ffyrdd o gonsurio’r tirwedd i mewn i’r gerddoriaeth. Copïo synau cân yr adar, synau dŵr yn rhedeg a synau gwynt yn y coed.
Rydw i’n hoffi defnyddio cerddoriaeth fel ffordd o gysylltu â’r tirwedd o’m cwmpas.
Yn y tri fideo hyn, rwy’n gobeithio fy mod i’n crisialu’r ymdeimlad hwnnw. A gobeithio fy mod yn consurio rhywfaint o’r tirwedd, ac yn bennaf oll, gobeithio y byddwch yn eu mwynhau.
Adnoddau a ddarparwyd gan Toby Hay a Ella Mae Blackshaw.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Niwro-benillion
Gwyliwch gyfres o ffilmiau sy'n edrych ar y cysylltiad rhwng ysgrifennu a chemeg yr ymennydd.

Rheoli a lleihau straen
Bydd y canllaw hwn gan Y Sefydliad Iechyd Meddwl yn eich helpu i reoli a lleihau straen.

Cyflwyniad i Fît-bocsio
Camwch allan o'r hyn rydych chi wedi arfer ei wneud a dysgu hanfodion bît-bocsio gyda Dean Yhnell.