Ffyrdd at les
  1. Hafan
  2. »
  3. Offer lles
  4. »
  5. Cyfres o Symudiadau Ysgafn

Cyfres o Symudiadau Ysgafn

Ffordd hygyrch i bobl gynnwys elfen o hunanofal yn eu harferion bob dydd.

  • Nod / Anelu: Dysgu rhywbeth newyddGofalwch am fy iechyd corfforolGwnewch i mi feddwl
  • Lle / Lleoliad: Gartref
  • Maint grŵp: Ar fy mhen fy hun
  • Amcangyfrif o'r amser darllen neu wylio: Dros dri munud
  • Math: Dysgu dan arweiniad hyfforddwr, Fideo
  • Gan: Shakeera Ahmun
Fersiwn cyfeillgar i’r argraffydd
A person standing in a brightly lit white room with their right arm extended toward the ski and their right arm extending across their body and pointing to the right. Their head is leaning off to the left.

Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.

Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!

Helo bawb!

Shakeera Ahmun ydw i, artist dawns llawrydd o Gaerdydd. Fe wnes i gwblhau fy hyfforddiant dawns yn Ysgol Ddawns Gyfoes Llundain a Sefydliad Celfyddydau California.

Ochr yn ochr â fy mhrofiad perfformio, rydw i wedi bod yn ehangu fy ngyrfa fel tiwtor dawns.

Hoffwn gyflwyno i chi fy Nghyfres o Symudiadau Ysgafn.

Mae’r symudiad wedi’i ysbrydoli gan y dechneg Rhyddhau, sy’n ymgorffori symudiadau sy’n rhyddhau tensiwn yn y corff. Bydd y gyfres hon o symudiadau yn cynnwys cryn dipyn o  lyfnder ac esmwythdra, a fydd yn hygyrch i bobl heb fawr ddim profiad dawns, os o gwbl.

Mae’r fideos yn cynnwys:

Fideo 1: Ymarfer Cynhesu

Fideo 2: Sigl a Swae, Ymarfer Coreograffi a Dad-gynhesu

Mae’r gyfres hon o symudiadau ysgafn wedi’u cynllunio i fod yn ffordd hygyrch i bobl integreiddio elfen o hunan-ofal i’w trefn bob dydd, a’ch helpu i baratoi’ch meddwl a’ch corff yn y bore cyn gwaith, neu hyd yn oed ar ôl gwaith, os oes angen i chi ymlacio neu ryddhau rhai endorffinau.

Bydd fy ymarferion symud wedi’u cynllunio hefyd ar gyfer llefydd llai, felly does dim angen stiwdio neu ofod dawns, sy’n golygu y gallwch wneud yr ymarferion dawns yng nghysur eich cartref.

Diolch a mwynhewch bawb!

Cyfres o Symudiadau Ysgafn
Ymarfer Cynhesu
Ymarfer Coreograffi a Dad-gynhesu

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Two women preparing food together in a kitchen Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Senior mother and her daughter watering plants together with a watering can
A senior man watering a tray of plants in his conservatory.
Woman taking a selfie at Henrhyd Falls