Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Bydd y ffilmiau yma yn ennyn diddordeb, yn eich addysgu, ac yn eich annog i dreulio amser gyda choed.
Yn y gyfres o ffilmiau dwyieithog yma am goed mae Heledd Wyn yn mynd a ni ar daith o greadigrwydd a darganfyddiad.
Mae pob un goeden yn arbennig ac mae’r gyfres o ffilmiau yn cyflwyno chi i ddoethineb a phŵer coed a hefyd yn rhoi ysbrydoliaeth greadigol i chi fynd ati i greu rhywbeth.
Bydd y ffilmiau yn ennyn diddordeb, yn eich addysgu, yn diddanu ac yn eich annog i dreulio amser gyda choed.
Mae coed yn bethau arbennig iawn ac maen nhw’n helpu ni i fod yn greadigol.
Dathlwch a darganfyddwch goeden arbennig mewn pob ffilm
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Gwaith Weiren
Dysgwch sut i greu pili-pala a gwas y neidr allan o wifren gyda’r gyfres hon o fideos gan y gwneuthurwr Beth Sill.
Y Lolfa Jyglo
Dysgwch sut i jyglo gyda Rhian o Rhian Circus Cymru.
Dawns Chwyrlïo
Gwyliwch wrth i ddawnswyr - yn hongian yn yr awyr mewn grŵp o goed - symud i mewn ac o gwmpas ei gilydd.