Mae gan gerddoriaeth y pŵer i newid ein hwyliau, deffro atgofion a’n helpu i wneud synnwyr o sut rydyn ni’n teimlo. Yn y fideo hwn, mae Gift yn sôn am sut mae gwrando ar gerddoriaeth a chreu cerddoriaeth yn ei helpu i fynegi emosiynau, i ymgysylltu â’i gorffennol a sut mae’n rhoi gobaith iddi ar gyfer y dyfodol. Iddi hi, mae cerddoriaeth yn fodd o ryddhau teimladau mewn modd diogel a chreadigol, ac yn gyfle i ymgysylltu ag eraill ac i rannu llawenydd â nhw.
Mae’r offeryn hwn yn dangos i chi sut i ddefnyddio cerddoriaeth fel ymarfer myfyriol. Dechreuwch drwy sylwi ar sut mae gwahanol ganeuon yn gwneud i chi deimlo: yn llawn egni, yn gysurus, yn cael eich deall neu hyd yn oed yn cael eich herio. Drwy roi sylw manwl i hyn, efallai y byddwch chi’n dechrau sylwi ar emosiynau nad ydych chi wedi delio â nhw eto, ac yn prosesu’r emosiynau hyn.
Mae Gift hefyd yn awgrymu ysgrifennu ychydig linellau am yr hyn rydych chi’n ei deimlo. Gallai hyn fod yn eiriau, yn nodiadau neu’n fyfyrdod byr. Nid oes rhaid iddo fod yn gaboledig nac yn berffaith. Gall y weithred o roi meddyliau mewn geiriau eich helpu i’w deall.
Neu, os ydych chi’n teimlo ychydig yn fwy hyderus, gallech chi recordio alaw, curiad neu neges llais syml i fynegi eich meddyliau.
Does dim rhaid i chi fod yn gerddor; bod yn greadigol sy’n bwysig, nid y cynnyrch terfynol. Gall mynegi sut rydych chi’n teimlo drwy gerddoriaeth a geiriau helpu i leddfu straen, gall eich helpu i deimlo’n dawelach eich meddwl a chael gwell gafael ar eich emosiynau.
Gellir gwneud y gweithgaredd hwn yn unrhyw le – wrth gerdded, wrth orffwys, wrth deithio neu yn y cartref. Gall fod yn rhywbeth rydych chi’n ei wneud i chi eich hun yn unig neu’n rhywbeth rydych chi’n ei wneud gydag eraill.
P’un a ydych chi’n gwrando ar hen ffefryn neu’n creu rhywbeth newydd, gall mwynhau cerddoriaeth fel hyn wneud gwyrthiau i’ch lles meddyliol.
Os hoffech chi archwilio’r syniad hwn ymhellach, efallai y byddwch chi’n mwynhau darllen Mae cerddoriaeth yn llinyn mesur o ran sut rydw i’n teimlo – Hapus, sy’n edrych ar sut y gall cerddoriaeth ein helpu i ddeall ein hemosiynau a chefnogi ein lles meddyliol.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Gweithdai Siwrnai
Mae'r gyfres hon o weithdai creadigol byr yn eich gwahodd i ymgysylltu â rhywfaint o amser 'rhwng pethau'. Mae'r gweithgareddau'n fwriadol syml, oherwydd mae pethau da yn aml yn bethau syml.
Sgwennu’r Gân Sydd Ynoch Chi Heddiw!
Dysgu hanfodion ysgrifennu caneuon gyda'r cerddor a'r darlledwraig Georgia Ruth.
Pŵer diolchgarwch
Gall sylwi ar y pethau rydyn ni'n ddiolchgar amdanyn nhw ein helpu i deimlo'n fwy cadarnhaol a chefnogi ein lles meddyliol hirdymor.