Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn ffordd o dalu sylw i’r foment bresennol, gan ddefnyddio dulliau fel myfyrio, anadlu ac ioga. Mae’n ein helpu i ddod yn fwy ymwybodol o’n meddyliau a’n teimladau fel y gallwn eu rheoli’n well yn hytrach na chael ein llethu ganddynt.
Bydd y canllaw hwn gan Y Sefydliad Iechyd Meddwl yn eich helpu i ddeall beth yw ymwybyddiaeth ofalgar a sut y gallai eich helpu i ofalu am eich iechyd meddwl.
Gellir defnyddio ymwybyddiaeth ofalgar fel offeryn i reoli eich lles a’ch iechyd meddwl. Mae rhai pobl yn galw iechyd meddwl yn ‘iechyd emosiynol’ neu ‘lles’. Rydyn ni i gyd yn cael adegau pan rydyn ni’n teimlo’n isel, dan straen neu’n ofnus. Bydd y teimladau hynny’n pasio y rhan fwyaf o’r amser, ond weithiau gallant ddatblygu’n rhywbeth mwy difrifol. Gallai hyn ddigwydd i unrhyw un ohonom.
Mae’n bwysig cynnal eich iechyd meddwl, ond nid yw bod yn iach yn feddyliol yn golygu nad oes gennych gyflwr iechyd meddwl yn unig. Os oes gennych iechyd meddwl da, gallwch wneud y canlynol:
- Gwneud y mwyaf o’ch potensial
- Ymdopi â bywyd
- Ymwneud yn llawn â’ch teulu, gweithle, cymuned ac ymhlith ffrindiau
Mae ymchwil ym maes ymwybyddiaeth ofalgar yn dal i dyfu. Mae tystiolaeth gyfredol yn dangos effeithiau cadarnhaol ar y meddwl, yr ymennydd, y corff ac ar ymddygiad, yn ogystal â’n perthynas ag eraill.
Dangoswyd bod ymwybyddiaeth ofalgar yn helpu gyda straen, gorbryder ac iselder. Dangoswyd hefyd ei fod yn helpu gydag ymddygiadau caethiwus, a chyflyrau fel pwysedd gwaed uchel, clefyd y galon a phoen cronig.
Defnyddiwch y canllaw hwn i ddarganfod mwy am ymwybyddiaeth ofalgar a sut y gallai fod yn ddefnyddiol i chi.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Myfyrdod
Bydd llais Mali Hâf, ynghyd â cherddoriaeth dawel, yn eich tywys chi drwy fideo myfyrio 10 munud.
Hybiau llesiant Carers Wales ar gyfer cymorth a chysylltiadau
Dod o hyd i ffyrdd defnyddiol o helpu eich lles meddyliol fel un sy’n gofalu am rywun annwyl.
Edau i’r enaid
Cwblhewch brosiect tecstilau cyflym a hawdd gyda'r fideos hyn gan yr artist Haf Weighton.