Ffyrdd at les
  1. Hafan
  2. »
  3. Derbyn ysbrydoliaeth
  4. »
  5. Darllen a gwrando ar bodlediadau yn lle edrych ar y cyfryngau cymdeithasol a’r newyddion

Darllen a gwrando ar bodlediadau yn lle edrych ar y cyfryngau cymdeithasol a’r newyddion

Wedi’i rhannu yn: Ein meddyliau a'n teimladau
Menyw yn edrych trwy llyfr.

Darllen a gwrando ar bodlediadau yn lle edrych ar y cyfryngau cymdeithasol a’r newyddion

Menyw yn edrych trwy llyfr.

Pam mae gofalu am eich lles meddyliol yn bwysig i chi?

Ar gyfer fy iechyd, hapusrwydd, boddhad bywyd, cynhyrchiant ac er mwyn gallu cefnogi eraill o’m cwmpas.

Beth ydych chi’n ei wneud er mwyn amddiffyn a gwella eich lles meddyliol?

Cyfyngu ar fy nefnydd o gyfryngau cymdeithasol, canolbwyntio llai ar y newyddion, myfyrio’n ddyddiol, ymarfer diolchgarwch bob dydd, gwneud ymarfer corff bob dydd, cymdeithasu’n wythnosol, blaenoriaethu cwsg a bwyta diet iach, cytbwys.

Nodwch un peth rydych chi wedi dechrau ei wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf sydd wedi helpu eich lles meddyliol?

Darllen/gwrando ar bodlediadau am iechyd a lles, a sut i’w ddiogelu a’i wella yn y gymdeithas sydd ohoni.

Oes unrhyw beth arall yr hoffech ei rannu? Gall hyn fod yn ddyfyniad neu gyngor yr hoffech chi ei roi i eraill.

Er mwyn gwella eich lles meddyliol, mae’n rhaid i chi ddod yn ymwybodol o’r hyn sy’n gweithio yn eich erbyn er mwyn i chi allu gwneud newidiadau.

Nid yw’n newid yn sylweddol dros nos; mae’n cymryd amser i sylwi ar welliannau ar ôl i chi ddechrau gwneud y newidiadau angenrheidiol.

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Two women preparing food together in a kitchen Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Senior mother and her daughter watering plants together with a watering can
A senior man watering a tray of plants in his conservatory.
Woman taking a selfie at Henrhyd Falls