Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Mae dawnsio’n ffordd o gadw ni’n hunain yn iach, nid yn unig yn gorfforol, ond yn feddyliol hefyd.
Mae ‘Symud drwy Lawenydd’ yn gyfres o weithdai dawns a symud sydd wedi’u hanelu at godi eich ysbryd a chadw eich corff a’ch meddwl yn iach.
Anthony Matsena ydw i, rydw i’n ddawnsiwr ac rydw i wedi creu cyfres o fideos gyda fy mrodyr Kel ac Arnold Matsena.
‘Da ni wedi llunio tasgau symud sy’n hawdd i’w dilyn gyda’r bwriad o ryddhau’r corff a’r meddwl. Yn awl, mae mam yn dod adref o’r ysbyty ar ôl shifft hir ac yn gweld y rhain yn ffordd hwyliog o leihau straen a chadw ei hun yn iach hefyd.
‘Da ni’n gwybod bod eich corff yn dynn ac yn brifo ar ôl dod adref o’r gwaith. Bydd y fideos hyn yn gweithio drwy’r tyndra hwnnw i’ch helpu chi i deimlo’n gryf ac yn rhydd cyn, yn ystod ac ar ôl gwaith.
- Fideo 1 – Deffro’r corff cyn gweithio
- Fideo 2 – Cymryd seibiant ac adfywio’r corff
- Ailosod eich corff ar ddiwedd shifft
Peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi lawer o brofiad o symud. Dim ond ychydig o le a chalon agored sydd ei angen arnoch chi.
Mwynhewch a chofiwch gael hwyl!
Adnoddau gan Matsena Productions (dolen Saesneg yn unig).
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Sut i Drwsio Hosan
Ffilm sy’n canolbwyntio ar y broses araf a thyner o drwsio.
Straeon Doniol
Dysgu sut i ddechrau adrodd stori trwy roi cynnig ar awgrymiadau, triciau, gemau a syniadau.
Rhowch y gorau i ysmygu am byth a theimlo’r gwahaniaeth yn feddyliol ac yn gorfforol
Dechreuwch eich taith ddi-fwg gyda mynediad at gymorth arbenigol am ddim y GIG gan Helpa Fi i Stopio