Chwilio am gymorth a chefnogaeth?

Ffyrdd at les

Canwch Unrhyw Le!

Dewch i ganu gyda'r tri fideo byr hyn gan Hannah Barnes, cantores, actores ac athrawes ganu o Gaerdydd.

  • Nod / Anelu: Byddwch yn greadigolDarganfod hobi neu ddiddordeb newyddDysgu rhywbeth newydd
  • Lle / Lleoliad: Gartref
  • Maint grŵp: Ar fy mhen fy hun
  • Amcangyfrif o'r amser darllen neu wylio: Dros dri munud
  • Math: Dysgu dan arweiniad hyfforddwr, Fideo, Rhyngweithiol
  • Gan: Hannah Barnes
Fersiwn cyfeillgar i’r argraffydd
Llun pen ac ysgwydd o berson yn eistedd yn sedd gyrrwr car. Mae ei geg yn agored (fel petai yng nghanol y gân) a'u llaw chwith yn codi. Gwisga siwmper lwyd, clustdlysau cylch a band pen du.

Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.

Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!

Helo, Hannah Barnes ydw i. Rydw i’n gantores, yn actor ac yn athrawes ganu (ac yn berson creadigol yn gyffredinol!) o Gaerdydd.

Y tri fideo canu rydw i wedi eu creu ar gyfer y Cwtsh Creadigol yw:

Gwlad y Gân

Cyflwyniad 3 munud (gydag ychydig o ganu Acapella hudolus, a ysbrydolwyd gan Gymru, yn y cefndir, diolch i S.O.W Acapella).

Cyflwyno fy hun ac egluro hanes canu yn gyflym a sut mae’n rhan o’n DNA, ac yna pam rydw i’n credu bod angen i ni gyd ganu eto.

Rhan 1 o’r wers: Ymarferion Llais unrhyw le

Yng nghwmni fy myfyriwr arbennig  (sy’n olygus hefyd) rydyn ni’n mynd drwy rai ymarferion canu hawdd i helpu i wella eich techneg ac i adeiladu eich cryfder lleisiol. Byddwch hefyd yn gweld lle gallwch chi ffitio’r ymarferion hyn o fewn eich trefn ddyddiol ac o amgylch eich sifftiau.

Rhan 2 o’r wers: Gadewch i ni ddysgu ambell gân!

Caneuon – ar ôl cynhesu’r llais yn gyflym, rydw i’n dysgu 2 gân fachog y gallwch chi eu dysgu a chymryd rhan ynddyn nhw. Canwch gyda fi neu beth am roi cynnig arni gyda rhai o’ch cydweithwyr? Yn rydw i’n gorffen gyda gair o anogaeth i GADW I GANU! Beth am ymuno â chôr neu grŵp canu lleol? Wedi’r cyfan, canu gydag eraill yw’r peth gorau i roi hwb i’r endorffinau hynny ac i leihau straen.

Rwy’n mawr obeithio y byddwch yn mwynhau’r fideos hyn a’ch bod yn cael HWYL (gobeithio y byddwch yn chwerthin ar rai o’n capsiynau) wrth wylio a chymryd rhan! Rydw i eisiau i’r fideos hyn fod o gymorth i chi, ar gyfer eich lles, eich hwyliau a’ch creadigrwydd – i’ch ysbrydoli i ganu, ac yn y pen draw, i sylweddoli y gallwch ‘ganu unrhyw le’.

Ychydig amdana i

Rydw i wedi bod yn canu ers cyn cof ac wedi bod yn canu’n broffesiynol ers dros 15 mlynedd – gan deithio ledled Cymru a’r DU gyda bandiau byw a thriawd Acapella o’r enw S.O.W Acapella (Sound of Wales). Rydw i hefyd wrth fy modd yn dysgu canu ac am iechyd lleisiol, ac yn ddiweddar cynhaliais weithdy ar gyfer yr Undeb Addysg Cenedlaethol yng Nghymru i helpu athrawon i ofalu am eu lleisiau drwy gydol eu gyrfaoedd.

Rydw i hefyd yn creu fideos doniol ar-lein (dyna ein barn ni beth bynnag!) gyda fy ngŵr – sy’n amrywio o barodïau i farddoniaeth, a gallwch eu gwylio fan hyn (linc Saesneg yn unig).

Rydw i’n dysgu canu yn rheolaidd o’r stiwdio yn fy nghartref yng Nghaerdydd, ac rydw i hefyd yn cynnig gweithdai grŵp, a gallaf hyd yn oed helpu gydag unrhyw grwpiau canu neu gorau yr hoffech eu sefydlu! Os hoffech gael mwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at hannahkatebarnes@outlook.com.

Diolch o galon am wylio 🙂

Hannah

Gwlad y Gân (Saesneg yn unig)
Gwers 1: Ymarferion Lleisiol yn unrhyw le (Saesneg yn unig)
Gwers rhan 2: Gadewch i ni ddysgu rhai caneuon! (Saesneg yn unig)

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Oedolyn hyn a'i ferch yn dyfrio planhigion gyda'i gilydd.
Dyn hen yn dyfrio planhigion yn ei heulfan.
Menyw yn cymryd llun o'i hunain yn Henhyd Falls.