Mae lliwio yn ffordd syml o fod yn greadigol ac nid yw’n weithgaredd ar gyfer plant yn unig! Mae bod yn greadigol yn dda i bawb, waeth faint oed ydych chi. Mae lliwio hefyd wedi dod yn boblogaidd i helpu i leihau straen oedolion.
Mae dewis y lliwiau i’w defnyddio a’r weithred o liwio mewn patrwm yn gofyn i ni ganolbwyntio. Mae hyn hefyd yn cael ei alw’n ‘gyflwr llif’. Mae hyn yn digwydd pan fyddwn yn canolbwyntio ar y dasg dan sylw heb feddwl am unrhyw bryderon eraill. Gall hyn helpu i dawelu ein meddwl a chychwyn “ymateb ymlacio” ein system nerfol.
Mae ymchwil yn cefnogi manteision lliwio hefyd. Er enghraifft, mae un astudiaeth wedi dangos bod cleifion yn yr ysbyty a oedd yn lliwio am hanner awr y dydd, ochr yn ochr â’u gofal safonol, wedi profi lefelau is o orbryder.
Rhowch gynnig ar y rhain a lawrlwytho’r templedi lliwio seiliedig ar natur am ddim i weld a yw lliwio yn helpu eich lles meddyliol chi.

Gloÿnnod Byw
Lawrlwytho
Pysgod
Lawrlwytho
Adar
Lawrlwytho
Planhigion
Lawrlwytho
Cregyn
Lawrlwytho
Dail
LawrlwythoEfallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Y Lolfa Jyglo
Dysgwch sut i jyglo gyda Rhian o Rhian Circus Cymru.

Papur a beiro
Yn y tair fideo dw i'n eich gwahodd i ymuno efo fi ac ysgrifennu ychydig eich hun.

CoedLleol/SmallWoods Wales
Dysgwch am fanteision mannau gwyrdd ar gyfer llesiant a mynnwch ysbrydoliaeth i fwynhau natur yn eich ardal chi.