Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
“Y pwrpas ydy dod o hyd i rywbeth sy’n hawdd ac yn bleserus yn ein diwrnod.”
Helo, Cai ydw i a dwi’n artist annibynnol sydd wedi bod yn gweithio yn y maes iechyd a lles ers rhai blynyddoedd.
Dwi eisiau cyflwyno’r myfyrdodau bach yma o’r enw Gweithredoedd Dychmygolar gyfer Iechyd a Lles.
Mae’r myfyrdodau wedi’u selio ar fy ngwaith ym maes iechyd dros y blynyddoedd ac ar y syniad o gysylltu, sut mae cysylltu â ni’n hunain, a defnyddio’r synhwyrau i’n helpu ni i gysylltu â ni’n hunain
Yn fy ngwaith dros y blynyddoedd, mewn ysbytai a chartrefi gofal, mae’n eithaf amlwg mai cysylltiad yw’r peth sydd ei angen arnom i’n helpu ni i deimlo’n dda.
Does dim ffordd gywir neu anghywir o wneud y myfyrdodau yma.
Y pwrpas ydy dod o hyd i rywbeth sy’n hawdd ac yn bleserus yn ein diwrnod.
Gobeithio y byddwch chi’n eu mwynhau.
Cyflwyniad
Gallwch hefyd wrando ar recordiad o’r Cyflwyniad (dolen Saesneg yn unig).
Synhwyrau
Mae’r myfyrdod bach hwn yn ymwneud â’r synhwyrau, a sut mae defnyddio’r synhwyrau i gysylltu â’n hunain a’n hamgylchedd presennol.
Gallwch hefyd wrando ar recordiad o’r myfyrdod Synhwyrau (dolen Saesneg yn unig).
Dwylo
Mae’r dwylo’n gweithio’n galed iawn drwy’r dydd. Mae’r myfyrdod bach hwn yn ymwneud â threulio munud neu ddau’n profi’r gefnogaeth sydd ar gael pan fyddwn yn troi ein sylw’n at deimlad a’r hyn sy’n teimlo’n dda.
Gallwch hefyd wrando ar recordiad o’r myfyrdod Dwylo (dolen Saesneg yn unig).
Symud
Mae pob dim yn symud, y tu mewn i ni, ac o’n cwmpas ni. Mae’r myfyrdod bach yma’n ymwneud â rhythm a chysylltiad, a sut rydym yn cael llawer iawn o gefnogaeth gan ein corff wrth ystyried pob math o symudiad wrth arafu.
Gallwch hefyd wrando ar recordiad o’r myfyrdod Symud (dolen Saesneg yn unig).
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Carwch eich hunan unigryw
Rhowch gynnig ar greu eich dyluniad Llwy Garu eich hun sy'n dathlu pwy ydych chi a beth sy'n eich gwneud chi'n arbennig.
Pŵer diolchgarwch
Gall sylwi ar y pethau rydyn ni'n ddiolchgar amdanyn nhw ein helpu i deimlo'n fwy cadarnhaol a chefnogi ein lles meddyliol hirdymor.
Ar eich Stepen Drws: Natur, daeareg ac archaeoleg yng Nghymru
Dysgwch am amgylchedd naturiol a hanesyddol Cymru gydag adnoddau gan Amgueddfa Cymru.