Mae gofalwyr yn dweud wrthym y gall bod yn ofalwr i rywun annwyl fod yn heriol ond y gall hefyd roi boddhad.
Y rhan heriol o fod yn ofalwr yw y gall effeithio ar ein lles meddyliol. Mae Carers Wales yma i wneud yn siŵr nad ydych chi ar eich pen eich hun.
Os ydych chi’n ofalwr, mae Carers Wales yma i helpu. Mae eu hyb yn darparu gwybodaeth, arweiniad ac adnoddau i gefnogi pobl fel chi gyda heriau’r rôl o ddydd i ddydd, yn ogystal â rhoi cyfleoedd i gysylltu â gofalwyr eraill fel chi.
Mae’r wybodaeth hon yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, gan gynnwys canllawiau ar gael mynediad at lwfansau gofalwyr a lwfansau byw yn ogystal â chyngor ymarferol ar hybu lles meddyliol cadarnhaol.
Mae Carers Wales yn deall pa mor bwysig yw iechyd corfforol i ofalwyr, er eu lles eu hunain yn ogystal â’u gallu i ddarparu gofal. Mae eu hyb yn rhoi arweiniad ar bynciau fel bod yn egnïol a chwsg i helpu gofalwyr i gadw’n iach eu hunain a’r rhai y maent yn gofalu amdanynt.
Gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Carers’ Week, ymgyrch flynyddol sy’n cael ei chynnal rhwng 9 a 15 Mehefin, a all helpu i godi ymwybyddiaeth o ofalu, amlygu’r heriau a wynebir gan ofalwyr di-dâl, a chydnabod y cyfraniad a wnewch chi fel gofalwyr i deuluoedd a chymunedau. Gall hefyd fod o gymorth i chi gydnabod eich hunaniaeth fel gofalwr os nad ydych chi’n meddwl amdanoch chi eich hun yn rhywun sydd â chyfrifoldebau gofalu.
Mae Carers Wales yn rhan o Carers UK, y brif elusen genedlaethol ar gyfer gofalwyr.
Carers Wales Wellbeing Hub (dolen Saesneg yn unig) i ddysgu sut i ofalu am eich lles meddyliol wrth i chi ofalu am eraill.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Straeon Doniol
Learn how to start telling a story with these tips, tricks, games and ideas for you to try out on your own.

Gwehyddu ar Froc Môr
Dysgwch sut i blethu ar broc môr yn y ffilm fer hon gan yr artist Laura Thomas.

Gweithdai Siwrnai
Mae'r gyfres hon o weithdai creadigol byr yn eich gwahodd i ymgysylltu â rhywfaint o amser 'rhwng pethau'. Mae'r gweithgareddau'n fwriadol syml, oherwydd mae pethau da yn aml yn bethau syml.