Nid ymarfer “teimlo’n dda” yn unig yw sylwi ar y pethau rydyn ni’n ddiolchgar amdanyn nhw, mae’n ffordd o gefnogi ein lles meddyliol hirdymor. Gall manteisio ar gyfleoedd yn ein bywydau bob dydd i gydnabod yr hyn sy’n mynd yn dda, neu i ddangos gwerthfawrogiad am bethau a phobl o’n cwmpas, ein helpu i deimlo’n fwy calonogol a rhoi’r gallu i ni ymdopi â heriau bywyd. Dros amser gall yr arfer hwn helpu i ledaenu lles cadarnhaol, i ni ein hunain a’r bobl o’n cwmpas.
Awgrymiadau ar gyfer ymarfer diolchgarwch
Gall diolchgarwch fod yn fyfyrdod tawel, personol neu’n brofiad cymunedol a rennir.
Ymarfer personol
- Ei nodi ar bapur: Gall fod yn ddefnyddiol cadw cofnod o’ch meddyliau ar bapur.
- Myfyrio bob dydd: Gwnewch hi’n weithgaredd personol bob dydd i sylwi ar yr hyn rydych chi’n ddiolchgar amdano.
Bod yn ddiolchgar gyda’n gilydd
Os ydych chi’n gweithio gyda phobl a chymunedau, rhowch gynnig ar y gweithgareddau hyn i feithrin lles ar y cyd:
- Hysbysfwrdd diolchgarwch: Creu atgoffâd gweledol lle gall pobl gynnwys y pethau maen nhw’n ddiolchgar amdanyn nhw.
- Dechrau trwy ddangos diolchgarwch: Dechreuwch eich cyfarfodydd neu weithgareddau drwy wahodd pobl i rannu un peth maen nhw’n teimlo’n ddiolchgar amdano heddiw.
- Rhowch anogaeth i eraill: Helpwch y rhai o’ch cwmpas i feddwl am yr eiliadau, y pethau neu’r bobl maen nhw’n eu gwerthfawrogi.
Dod o hyd i ysbrydoliaeth
Weithiau mae hi’n anodd gwybod ble i ddechrau. Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd teimlo’n ddiolchgar, defnyddiwch yr awgrymiadau hyn i arwain eich meddyliau:
- Y pethau bychain: Pa bethau bychain mewn bywyd sy’n gwneud i chi deimlo’n hapus?
- Cysylltiadau: Pwy ydych chi’n ei garu neu’n gofalu amdano?
- Y byd o’ch cwmpas: Ydych chi wedi gweld unrhyw beth yn ddiweddar a oedd mor brydferth roedd yn rhaid i chi oedi am ennyd a myfyrio?
- Caredigrwydd: Oes rhywun wedi bod yn garedig â chi yn ddiweddar?
- Cyflawniadau: Oes rhywbeth rydych chi wedi’i wneud rydych chi’n falch ohono?
- Edrych tua’r dyfodol: Beth ydych chi’n edrych ymlaen ato?
Cliciwch yma i lawrlwytho ein hofferyn ‘Ymarfer diolchgarwch‘, sy’n rhoi crynodeb o’r wybodaeth yn yr erthygl hon, gan gynnwys awgrymiadau a chynghorion ymarferol.
I gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar gefnogi sgyrsiau am les yn y gymuned, ewch i adnoddau ‘Hyrwyddo lles yn y gymuned‘.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Stiwdio Syniadau
Yn y ddau fidio yma, mi fydda i’n eich arfogi chi hefo technegau newydd i chi gadw ym mocs twls eich ymennydd i’ch helpu chi ddechrau sgwennu.
Cymryd Saib gyda Barddoniaeth
Cyfres o ymarferion gan Fardd Cenedlaethol Cymru sy'n eich annog i ysgrifennu cerdd fyfyriol am le sy'n gwneud i chi deimlo’n heddychlon.
Creu Siapiau gydag Origami
Dysgwch sut i wneud craen papur, gweithgarwch syml sy'n cymryd tua 10 munud.