Mae Casgliad y Werin Cymru yn casglu ac yn dathlu storiâu unigryw i ddod â threftadaeth Cymru at ei gilydd.
Arweinir y fenter gan dîm bach sy’n frwd dros ddiogelu storiâu ac atgofion. Fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru a’i harwain gan Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Ewch i’r wefan i archwilio ffotograffau, clipiau fideo a sain yn disgrifio atgofion, llythyrau, a llawer mwy. Unigolion, grwpiau cymunedol lleol, amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd o bob rhan o Gymru sydd wedi cyfrannu’r holl eitemau.
Gall gwerthfawrogi’r hanes a’r diwylliant beunyddiol o’n cwmpas ein helpu i deimlo’n falch. Gall ein cefnogi i wneud synnwyr o’r byd o’n cwmpas, a theimlo ein bod yn gallu gweithredu ar y pethau sy’n bwysig i ni.
Gallwch hefyd lanlwytho’ch gwybodaeth a’ch lluniau i’r wefan, i adrodd eich stori, rhannu atgofion, a chyfrannu at yr archif hon.
Mae stori pob un ohonom yn cyfrannu at rywbeth mwy, sef stori Cymru. Mae rhannu ein hatgofion yn helpu cymunedau i feithrin yr ymdeimlad o berthyn a chysylltiad. Gall wella’r ffordd y mae pawb yn teimlo am eu bywydau.
Ewch i Gasgliad y Werin Cymru i ddarganfod rhagor am dreftadaeth genedlaethol Cymru a sut gallwch chi gyfrannu at y stori
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Darllen yn Well Cymru: Llyfrau i Wella Llesiant
Llyfrau llyfrgell dwyieithog am ddim yng Nghymru i gefnogi eich iechyd a'ch llesiant trwy ddarllen.
Positive News
Newyddion am ddim bob dydd, cylchlythyr wythnosol a phodlediad. Yn canolbwyntio ar sut mae pobl, cymunedau a sefydliadau yn newid y byd er gwell.
Celf yn y Gegin
Rhowch gynnig ar dri phrosiect 'mynediad lefel cegin' rhad – clytwaith, argraffu ac ysgythru.