Ydych chi’n chwilio am ychydig funudau o lonyddwch wrth i chi gymryd seibiant yn eich diwrnod gwaith prysur?
I fod yn glir, does dim rhaid i chi ddod gyda ni’n llythrennol. Ymarfer rhithiol yw hwn. Fi fydd yn gwneud y gwaith cerdded.
Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw ymlacio a mwynhau golygfeydd a synau hyfryd cefn gwlad. Eisteddwch nôl, mwynhewch eich latté a gwyliwch Un Dyn a’i Gi.
Byddwn yn crwydro o amgylch y coed, yn edmygu dolydd blodau gwylltion ac yn sblasio drwy nentydd.
(I fod yn onest, fy nghi fydd yr unig un sy’n tasgu’n y dŵr…)
Fel Awdur Sgriptiau, Awdur Dramâu ac Awdur, mae’n bwysig cael seibiant yn ystod fy mhroses ysgrifennu ddyddiol drwy fynd â’r ci am dro. Mae angen yr amser hwnnw arnaf i feddwl er mwyn mynd drwy unrhyw broblemau gyda fy sgriptiau.
Mae tawelwch cefn gwlad yn rhoi’r cyfle perffaith i fi fyfyrio ar y cwestiynau anodd hynny sy’n wynebu unrhyw awdur: A yw elfennau gwahanol fy mhlot yn dod at ei gilydd?
Sut fydd un cymeriad yn ymateb i un arall? Ac a oes digon o ddanteithion i’r ci wrth i ni gerdded?
Wrth wylio’r ffilm fer hon, gobeithio y bydd yn gwella eich meddwlgarwch eich hun, gan greu ymdeimlad o les drwy natur.
Ac, os ydych chi erioed wedi eisiau bod yn awdur, yna byddai’n cynnig gair o gyngor i chi. Byddaf yn sôn am awgrymiadau ysgrifennu ar sut i greu cymeriadau – elfen hollbwysig mewn unrhyw stori. Byddaf hefyd yn datgelu sut mae lleoliadau yn rhoi ysbrydoliaeth, wrth i fi ail-ymweld â’r lleoliad a ysbrydolodd y plot ar gyfer fy sgript deledu gyntaf.
Felly? Beth ydych chi’n aros amdano?
Cliciwch y botwm a gadewch i ni gyd fod yn Greadigol wrth Fynd â’r Ci am Dro!
Nigel Crowle
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Celf, Crefftau a Chreadigrwydd Cadw
Ymchwiliwch i’r amrywiaeth o weithgareddau megis templedi lliwio cestyll, cymeriadau canoloesol a mwy.

Hybiau llesiant Carers Wales ar gyfer cymorth a chysylltiadau
Dod o hyd i ffyrdd defnyddiol o helpu eich lles meddyliol fel un sy’n gofalu am rywun annwyl.

Straeon Doniol
Learn how to start telling a story with these tips, tricks, games and ideas for you to try out on your own.