Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Mae dawnsio nid yn unig yn ymgysylltu â’r corff, ond y meddwl hefyd.
Dyma gyfres o fideos sydd wedi’u cynllunio i gadw’r meddwl ar y mater, tra’n cadw’r corff i symud o gwmpas y gofod.
Jakob Myers ydw i ac rwy’n ddawnsiwr llawrydd, sydd wedi bod yn gweithio gyda Ballet Cymru ers 2020.
Mae’r set hon o fideos am ddim i bawb, ac yn agored i’w dehongli fel y dymunwch.
Does dim rheolau, cyn belled â’ch bod yn cael hwyl!
Fideo 1 – Gweithdy creadigol a thasg ar gyfer y cof. Gyda’n gilydd, gadewch i ni roi ymadrodd byr at ei gilydd, i gerddoriaeth, a’ch annog i symud o gwmpas y gofod.
Fideo 2 – Mae gemau yn ffordd wych o gadw’r meddwl yn brysur. Tasg gerddorol yw hon sy’n procio’r meddwl ac sy’n mynd yn fwy ac yn fwy anodd!
Fideo 3 – Mae dawns yn ein cadw ni i gyd yn heini. Gall ychydig bach o gardio ac ymestyn ein helpu i dynnu ein meddwl oddi ar bethau ac ymlacio, heb flino’n ormodol.
Os gallwch chi symud, gallwch chi ddawnsio!
Ewch yn wyllt!
Jakob Myers
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Meddyliwch am iechyd yr ymennydd er mwyn cadw’r ymennydd yn iach a lleihau’r risg o ddatblygu ddementia
Dysgwch sut i gadw'ch ymennydd yn iach a lleihau'ch risg o ddatblygu ddementia

Cysylltu â natur ar garreg eich drws
Cysylltu â natur yn eich ardal leol.

Sut i Drwsio Hosan
Ffilm sy’n canolbwyntio ar y broses araf a thyner o drwsio.