Chwiliwch am gyfleoedd i wirfoddoli, yn eich ardal leol ar wefan Gwirfoddoli Cymru. Boed hynny’n ymwneud â bod yn greadigol, yn egnïol, helpu eraill, gwella’r amgylchedd neu ymgyrchu, gallwch ddefnyddio’r hidlydd chwilio i ddod o hyd i’r hyn sy’n addas i chi.
Bydd angen i chi gofrestru ar y wefan er mwyn mynegi diddordeb mewn cyfleoedd penodol.Gallwch adeiladu eich proffil personol ar-lein a chreu cofnod o’ch profiadau gwirfoddoli hefyd.
Os oes angen help arnoch chi i ddechrau arni, neu i ddod o hyd i rywbeth addas, cysylltwch â’ch canolfan wirfoddoli leol. Mae manylion ar gyfer pob sir ar wefan Cefnogi Trydydd Sector Cymru.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Tonnau Ogofau: Celf Sain Amgylcheddol
Archwilio sain weledol traethau Llanelli gyda'r cerddor Cheryl Beer.

Gofalu am eich iechyd meddwl drwy wneud ymarfer corff
Mae’r canllaw hwn gan Y Sefydliad Iechyd Meddwl yn edrych ar y cysylltiad rhwng gwneud ymarfer corff a’n hiechyd meddwl.

Crosio i Ddechreuwyr
Dysgu'r hanfodion o grosio gyda'r artist crefft o Gaerdydd, Gemma Forde.