Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Mae Bollywood yn enwog am ei ddilyniannau canu a dawnsio cywrain, llawn egni a lliwgar.
Mae’n arddull dawnsio hyblyg sy’n asio nifer o ffurfiau dawns Indiaidd a Gorllewinol i greu symudiadau egnïol a lliwgar, gan ddenu unrhyw un, pwy bynnag rydych chi neu o ble bynnag ry’ch chi’n dod.
Fy enw i yw Sanea Singh, ac rwy’n artist dawns llawrydd sy’n gweithio yng Nghymru ac sydd wrthi’n gweithio gyda Ballet Cymru. Wedi fy ngeni a’m magu yn India, dechreuais ar fy nhaith dawnsio Bollywood yn ifanc, ac oherwydd bod Bollywood yn ddawns mor hwyliog a deniadol, fe daniodd fy angerdd am symud sydd wedi fy nghadw i ddawnsio drwy gydol fy oes, a gobeithio y bydd yn gwneud yr un peth i chi!
Ro’n i’n ddawnswraig gyda chwmni dawns Bollywood yn Mumbai am 4 blynedd, ac yn 2014, symudais i’r DU i astudio dawns yn y Liverpool Institute for Performing Arts (LIPA). Ers graddio, rydw i wedi parhau i weithio yn y DU fel artist dawns cyfoes llawrydd.
Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch am bopeth ry’ch chi wedi’i wneud ac yn parhau i wneud i ni bob dydd. Fy ngobaith yw y bydd y fideos hyn yn eich helpu i leddfu straen ac i gael rhywfaint o hwyl yn ystod eich diwrnodau prysur. Felly, o India i’r DU, dyma’r ‘Gyfres Bollywood’. Gadewch i ni symud!
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Ffotograffiaeth Greadigol
Defnyddio realaeth hudol fel ffordd o ddarlunio emosiynau.

Gwaith Weiren
Dysgwch sut i greu pili-pala a gwas y neidr allan o wifren gyda’r gyfres hon o fideos gan y gwneuthurwr Beth Sill.

Straeon Lluniau
Ffordd wych o ddatblygu eich llygad creadigol ac ymarfer. Gall ddod yn rhan o'ch trefn ddyddiol yn hawdd.