Cwrs iechyd meddwl ar-lein rhad ac am ddim wedi’i gynllunio i’ch helpu chi i gefnogi eraill.
Ydych chi’n poeni am beth i’w ddweud pan fyddwch chi’n gwybod bod rhywun yn cael amser anodd?
Mae Sgyrsiau yn y Gymuned yn gwrs ar-lein sy’n rhad ac am ddim. Gall adeiladu eich hyder i gael sgyrsiau am iechyd meddwl a llesiant fel y gallwch fod yno i’ch ffrindiau, eich teulu, ac eraill yn eich cymuned.
- Dysgwch trwy wylio fideos o bobl go iawn yn siarad â’i gilydd am iechyd meddwl
- Dysgwch trwy greu senarios
- Hunan-dywys heb unrhyw brawf. Gallwch gymryd eich amser.
- Yn gynhwysol ac yn barchus, mae wedi cael ei gyd-gynhyrchu gyda phobl o gymunedau amrywiol ar draws y DU
- Hyfforddiant mynediad agored am ddim
Ni fydd yn eich gwneud yn weithiwr iechyd meddwl proffesiynol cymwys, ond nid oes angen i chi fod yn weithiwr proffesiynol i fod yno i’r rhai o’ch cwmpas.
Datblygwyd gan Mind (dolen Saesneg yn unig). Ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Hunanbortread
Gwyliwch wrth i’r artist Nathan Wyburn greu hunanbortread mawr allan o becynnu presgripsiwn gwag.
Cymryd Saib gyda Barddoniaeth
Cyfres o ymarferion gan Fardd Cenedlaethol Cymru sy'n eich annog i ysgrifennu cerdd fyfyriol am le sy'n gwneud i chi deimlo’n heddychlon.
Tyfu Eich Llais
Mae Tyfu eich llais yn rhaglen 4 cam i helpu i hybu eich iechyd a'ch lles.