Yn aml, gall dod o hyd i amser i ofalu am ein lles meddyliol yn ein bywydau prysur ddisgyn i waelod y rhestr.
Mae’r animeiddiad byr hwn yn archwilio’r cwestiwn “Be’ ydy ‘llesiant’ i fi??” drwy brofiadau grŵp o famau ifanc a gefnogir gan GISDA yng Ngwynedd. Mae’n dangos sut y gall gweithredoedd syml, bob dydd wneud gwahaniaeth ystyrlon. Mae’n tynnu sylw at y ffaith y gall adegau bach, hyd yn oed, helpu i gefnogi eich lles meddyliol, a’i wella.
Gwyliwch y fideo i weld a allwch chi sylwi ar rywbeth rydych chi’n ei wneud yn barod, neu rywbeth yr hoffech chi roi cynnig arno, i gefnogi a gwella eich lles meddyliol.
Cafodd yr animeiddiad ei gynhyrchu drwy gyfres o weithdai gyda’r grŵp a fu’n trafod a dangos yr hyn y mae lles yn ei olygu iddyn nhw yn eu bywydau bob dydd. Dangosodd eu syniadau nad oes rhaid i les fod yn gymhleth ac nad oes rhaid iddo gymryd llawer o amser. Gall fod mor syml â mwynhau paned o de mewn tawelwch, mynd am dro ynghanol byd natur, cael noson gynnar neu fynegi eich hun yn greadigol.
Mae hefyd yn mynd i’r afael â rhwystrau bywyd go iawn, fel cyfrifoldebau gofalu, diffyg cefnogaeth gymunedol neu brinder amser, a all wneud hunanofal yn anodd. Er gwaetha’r rhain i gyd, mae’n sôn am sut y mae modd dod o hyd i adegau bach sy’n dod â llawenydd yn ystod y dydd.
Er gwaethaf heriau bywyd, yn y pen draw, mae bob amser rhywbeth y gallwn ni ei wneud i ddiogelu ein lles meddyliol, a’i wella.
Os hoffech ddarllen rhagor am y pŵer o ddod o hyd i lawenydd yn y pethau bach, ewch i Mae sylwi ar harddwch natur yn fy helpu i deimlo’n gysylltiedig – Hapus a Cadw mewn cysylltiad: eiliadau bach ar gyfer lles – Hapus
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Y Pethau Bychain
Monologau byrion wedi’u gosod i gerddoriaeth sy’n adlewyrchu sgyrsiau’r awdur Manon Steffan Ros â gweithiwyr gofal iechyd.
Ymweliadau Rhithiol Cadw
I’r rhai sy’n awyddus i brofi rhyfeddodau treftadaeth Cymru o’u cartrefi.
Gofalu am eich iechyd meddwl drwy ymwybyddiaeth ofalgar
Bydd y canllaw hwn gan Y Sefydliad Iechyd Meddwl yn eich helpu i ddod yn fwy ymwybodol o deimladau ac o’u rheoli drwy ymwybyddiaeth ofalgar.