Ffyrdd at les
  1. Hafan
  2. »
  3. Offer lles
  4. »
  5. Shibori, Lliwio Sypyn, a Hapzome

Shibori, Lliwio Sypyn, a Hapzome

Gwnewch wrthrychau tecstil hardd, wedi'u lliwio'n fotanegol ac sy'n ymarferol gyda'r tiwtorialau hyn sy'n defnyddio deunyddiau y gallwch ddod o hyd iddynt yn eich cartref a'ch amgylchedd naturiol.

  • Nod / Anelu: Byddwch yn greadigolCysylltu â naturDarganfod hobi neu ddiddordeb newydd
  • Lle / Lleoliad: Awyr agored, Gartref
  • Maint grŵp: Ar fy mhen fy hun
  • Amcangyfrif o'r amser darllen neu wylio: Dros dri munud
  • Math: Dysgu dan arweiniad hyfforddwr, Fideo, Rhyngweithiol
  • Gan: Abi Makepeace
Fersiwn cyfeillgar i’r argraffydd
Llun agos gyda llaw yn dal powlen las golau gyda gwahanol ddail a blodau ynddi. Mae'r llaw arall yn dal blodyn bach porffor.

Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.

Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!

Helo. Abi Makepeace ydw i. Artist â chefndir mewn Ffilm, Ffotograffiaeth a Chelfyddydau Cymunedol.

Yn 2020, yn gaeth i’r tŷ yn ystod cyfnod clo y coronafeirws, dechreuais weithio gyda thecstilau — drwy ddefnyddio gwastraff bwyd o’r gegin i liwio ffabrig i’w droi’n ddillad, carthenni ac eitemau eraill. Fe wnes i ddarganfod bod gweithio gyda brethyn yn fyfyriol tu hwnt, a llwyddodd i dawelu fy meddwl a’m corff, yn ystod y cyfnod rhyfedd ac ansicr hwnnw.

Rydw i bellach yn rhedeg gweithdai iechyd a lles i blant, grwpiau cymunedol ac oedolion sy’n agored i niwed, gan rannu hud ac alcemi fforio planhigion a’u defnyddio; gwreiddiau, rhisgl ac aeron er mwyn tynnu lliw a brethyn wedi’i liwio i’w troi’n bethau.

Gobeithio y gwnewch chi fwynhau’r tiwtorial byr, syml yma, sy’n defnyddio deunyddiau y gallwch ddod o hyd iddyn nhw yn eich cartref a’ch amgylchedd naturiol, i greu gwrthrychau tecstilau hardd, sydd wedi’u lliwio’n fotanegol ac sy’n ymarferol.

Dysgwch fwy am fy ngwaith tecstilau cymunedol yn Makepeace Studio (linc Saesneg yn unig).

Camera: Gilly Booth

Cyflwyniad i mi a fy nghrefft

Cynfas ‘Shibori’ wedi’i lliwio

Shibori yw’r broses draddodiadol o blygu a rhwymo ffabrig i greu rhannau ‘gwrthsefyll’ lle na all y lliw ymdreiddio i greu patrymau ailadroddus hyfryd.

Rydw i’n defnyddio croen winwns yn y tiwtorial yma, y gellir eu defnyddio o’r bin compost, i greu lliw oren / brown hyfryd. Mae hen gynfas yn ddelfrydol i’w defnyddio ar gyfer y broses hon. Gwnewch yn siŵr ei fod yn gotwm 100% oherwydd ni fydd poly-cotwm yn amsugno’r lliw.

Cynfas ‘Shibori' wedi’i lliwio

Napcynau ‘Sypyn’ wedi’u Lliwio

Lliwio Sypyn yw’r broses o lapio deunydd planhigion mewn brethyn a’u stemio er mwyn tynnu’r lliw. Cafodd ei datblygu gan yr artist India Flint.

Yn y fideo hwn, rydw i’n defnyddio cynhwysion planhigion a geir yn y gegin a phlanhigion y gellir eu fforio yn eich amgylchedd lleol.

Bydd angen i chi gael cotwm 100%, lliain neu ffabrig naturiol arall fel cywarch neu ddanadl.

 

Napcynau ‘Sypyn’ wedi’u Lliwio

Cas Gobennydd ‘Hapazome’

Techneg gwneud printiau hynafol o Japan yw ‘Hapazome’ sy’n golygu curo deunydd planhigion yn syth i bapur neu frethyn, i greu canlyniadau rhyfeddol o fanwl.

Yn y tiwtorial yma, rydw i’n defnyddio blodau a dail sydd wedi’u casglu o’r ardd a’r perthi a chas gobennydd cotwm gwyn. Bydd angen i chi hefyd gael morthwyl ac arwyneb caled. Mae bwrdd torri pren yn gweithio’n dda.

Cas Gobennydd ‘Hapazome’

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Two women preparing food together in a kitchen Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Senior mother and her daughter watering plants together with a watering can
A senior man watering a tray of plants in his conservatory.
Woman taking a selfie at Henrhyd Falls