Dysgwch am y cymorth sydd ar gael, awgrymiadau ar gyfer aros yn ddiogel a sut i siarad â rhywun os ydych yn poeni bod yr unigolyn yn hunan-niweidio.
Er y gall pobl hunan-niweidio am wahanol resymau, mae’n arwydd bod rhywun yn profi trallod emosiynol a dylid ei gymryd o ddifrif. Nid yw o reidrwydd yn golygu bod gan rywun broblem iechyd meddwl neu fod yr unigolyn yn teimlo’n hunanladdol.
Gall hunan-niweidio ddarparu ‘rhyddhad’ dros dro o emosiynau anodd, ond nid yw’n mynd i’r afael ag achos sylfaenol yr emosiynau hynny.
Mae dod o hyd i ffyrdd eraill o ymdopi yn bwysig oherwydd dros amser efallai y bydd pobl yn teimlo bod angen iddynt geisio mathau mwy difrifol o hunan-niweidio i brofi’r un ymdeimlad o ryddhad.
Os ydych chi’n poeni bod rhywun yn hunan-niweidio, mae’n bwysig gofyn i’r unigolyn yn uniongyrchol, mewn ffordd gefnogol ac anfeirniadol. Bydd yr unigolyn yn debygol o’i chael hi’n anodd siarad am neu fynegi ei deimladau, a gall fod yn anodd clywed bod rhywun rydyn ni’n pryderu amdano mewn trallod. Ond mae estyn allan yn dangos eich bod chi’n poeni am yr unigolyn a gallai fod y cam cyntaf i ddod o hyd i ffyrdd eraill o ymdopi
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Sut i gefnogi iechyd meddwl yn y gwaith
Bydd y canllaw hwn gan y Mental Health Foundation yn eich helpu i wella iechyd meddwl yn y gweithle i chi a'ch cydweithwyr.
Sut i Drwsio Hosan
Ffilm sy’n canolbwyntio ar y broses araf a thyner o drwsio.
Action for Happiness
Mae Action for Happiness yn dod â phobl at ei gilydd ac yn darparu adnoddau ymarferol er mwyn helpu i greu byd hapusach a byd sy’n fwy caredig.