Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Helo! Sara Hartel yw i.
Gwneuthurydd theatr anneuaidd ydw i a oedd arfer gweithio ym maes gofal.
Rydw i’n arbenigo mewn genre rydw i’n ei alw’n ‘game theatre’ sy’n cyfuno perfformio gyda gemau byw.
Mae gemau wedi profi cynnydd enfawr yn ddiweddar a dydw i ddim yn synnu: mae gemau yn wych ar gyfer gwneud i ni deimlo’n fwy optimistaidd, yn fodlon ac wedi ein cysylltu’n well â’n ffrindiau a’n teulu sy’n chwarae gyda ni.
Yn fy fideos, rydw i’n egluro’r syniad o ddod â gemau i mewn i’ch bywyd.
Sut allwch chi drawsnewid eich arferion gwaith bob dydd yn gyfres o heriau sy’n ennill pwyntiau profiad i chi ac yn gadael i chi symud drwy wahanol lefelau.
Pam?
Oherwydd mae dod â gemau i mewn i’n bywyd yn ei wneud yn fwy o hwyl ac yn fwy gwerth chweil.
I chwarae ‘Bywyd Arwr’, rydw i’n argymell defnyddio templed o’r daflen gymeriadau rydw i wedi’i greu.
Ond mae croeso i chi greu un eich hun neu addasu’r un rydw i wedi’i greu.
Beth bynnag sy’n gweithio orau i chi!
Mwynhewch!
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Bocs O Gemau
Cymerwch ran yn y naw her hyn, sy'n cynnwys ysgrifennu, lluniadu, cof a'ch dychymyg.

Stiwdio Syniadau
Yn y ddau fidio yma, mi fydda i’n eich arfogi chi hefo technegau newydd i chi gadw ym mocs twls eich ymennydd i’ch helpu chi ddechrau sgwennu.

Bywiogi ac Ymlacio
Creative, movement-based exercises to help you develop body awareness, confidence and reflect on your current support.