Mi all y pethau fwyaf di-nod yn eich cartref sbarduno’r syniadau mwyaf creadigol yn eich dychymyg.
Croeso i Stiwdio Syniadau, cyfres fer dwi’n gobeithio bydd yn eich annog chi i ddefnyddio nwyddau o’ch cartref / gardd er mwyn sbarduno syniadau newydd a gwneud y broses ysgrifennu yn un hwyl.
Fy enw i ydy Mari Elen, dwi’n sgwennwr, podlediwr a pherfformiwr yn byw yng Ngogledd Cymru, a dwi’n caru dod o hyd i ffyrdd newydd o sbarduno syniadau. Dwi wedi bod yn ‘sgwennu ers blynyddoedd, sgwennu’n broffesiynol a sgwennu i deimlo’n well, ond weithiau dwi’m yn gwybod lle i ddechrau.
Yn y ddau fidio yma, mi fydda i’n eich arfogi chi hefo technegau newydd i chi gadw ym mocs twls eich ymennydd i’ch helpu chi ddechrau sgwennu. Mi fyddwn ni’n dod o hyd i blot, creu cymeriadau a chael hwyl.
Does ‘na’m ffiniau pan ydach chi’n sgwennu’n greadigol, a dyna sydd yn ei wneud mor gyffroes! Peidiwch poeni am gywirdeb iaith, dim ond mwynhau’r broses sydd yn bwysig.
Offer angenrheidiol: Papur, Beirio, Hen Gylchgronnau / Papurau Newydd / Llyfrau, Esgidiau Addas I Fynd Am Dro.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Ymestyn
Bydd y ffilmiau yma yn ennyn diddordeb, yn eich addysgu, ac yn eich annog i dreulio amser gyda choed.
Ymweliadau Rhithiol Cadw
I’r rhai sy’n awyddus i brofi rhyfeddodau treftadaeth Cymru o’u cartrefi.
Tyfu Eich Llais
Mae Tyfu eich llais yn rhaglen 4 cam i helpu i hybu eich iechyd a'ch lles.