Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Mae pawb yn deall bod bwyd yn ffordd o fynegi, rhannu a dychmygu.
Mae’r gweithdy hwn yn defnyddio ryseitiau ac atgofion bwyd fel ffynhonnell ddi-ben-draw o ysbrydoliaeth ac ysgrifennu creadigol, hyd yn oed i’r rheini ohonom sydd ddim mor hyderus yn ein gallu i ysgrifennu.
Y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw cyfrifiadur, neu feiro a phapur, i ddechrau ysgrifennu. Bydd y gweithdy yn y fideo cyntaf yn cynnwys dewis bwyd neu rysáit, cynllunio strwythur eich darn ac, i gloi, adeiladu stori syml o’i gwmpas.
Gall y darn byr o ysgrifennu gael ei ddefnyddio fel ffordd newydd o rannu ryseitiau gyda ffrindiau a theulu, llunio eich llyfr coginio creadigol eich hun, neu ddod o hyd i ffordd newydd o fynegi eich hun drwy rywbeth cysurus a chyfarwydd.
Ysbrydolwyd y gweithdy hwn gan fy narn byr Tortang Talong, rysáit ar gyfer omled gyda phlanhigyn wy Ffilipinaidd, wedi’i wreiddio mewn stori am freuddwyd fy mam. Gallwch wrando arna i yn darllen y darn hwn yn yr ail fideo, a dysgwch ychydig mwy am fy ngwaith yn y trydydd fideo.
Sadia Pineda Hameed
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Eiliadau o Hwyl a Rhyfeddod
Rhowch gynnig ar y tri phrosiect celf/crefft hwyliog a rhad hyn, sy'n cynnwys llun 3D syml a map plygu Twrcaidd.
Bocs O Gemau
Cymerwch ran yn y naw her hyn, sy'n cynnwys ysgrifennu, lluniadu, cof a'ch dychymyg.
Tyfu Eich Llais
Mae Tyfu eich llais yn rhaglen 4 cam i helpu i hybu eich iechyd a'ch lles.