Drwy fod ynghanol natur a chysylltu ag ef gallwn deimlo’n dda ynom ni ein hunain o ran y corff a’r meddwl. Mae gennym fryniau, mynyddoedd ac arfordiroedd hardd ar hyd a lled Cymru.
Does dim rhaid i chi deithio’n bell i fod ynghanol natur. Gall fod mor hawdd â chysylltu â natur ar garreg eich drws, fel mynd am dro yn eich parc lleol, treulio amser yn eich gardd neu roi dŵr i blanhigion wrth eich ffenestr.
Mae dolenni amrywiol yn yr wybodaeth isod i roi syniad i chi o wahanol fannau mewn natur mewn gwahanol awdurdodau lleol i chi eu harchwilio.
Pan fyddwn ni’n ymwneud â natur, bydd ein synhwyrau’n dod yn fyw. Pan fyddwn ni’n gadael i’n synhwyrau arwain ym myd natur, fel clywed sŵn y tonnau yn hyrddio, arogli blodau a gerddi neu weld bywyd gwyllt, byddwn yn teimlo bod ein llesiant meddyliol yn cael hwb.
Ewch i’r dolenni a rhowch hwb haeddiannol i’ch llesiant.
Awdurdod Lleol | Dolen i’r wefan |
---|---|
Blaenau Gwent | |
Bro Morgannwg | |
Caerffili | |
Caerdydd | |
Caerfyrddin | |
Castell-nedd Port Talbot | |
Ceredigion | |
Conwy | |
Cyngor Abertawe | |
Dinas Casnewydd | |
Gwynedd | |
Merthyr Tudful | |
Pen-y-bont ar Ogwr | |
Powys | |
Rhondda Cynon Taf | |
Sir Benfro | |
Sir Ddinbych | |
Sir y Fflint | |
Sir Fynwy | |
Torfaen | |
Wrecsam | |
Ynys Môn |
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Creu Siapiau gydag Origami
Dysgwch sut i wneud craen papur, gweithgarwch syml sy'n cymryd tua 10 munud.

Cysgu’n well
Bydd y canllaw hwn gan y Sefydliad Iechyd Meddwl yn eich helpu chi i wella ansawdd eich cwsg.

Edau i’r enaid
Cwblhewch brosiect tecstilau cyflym a hawdd gyda'r fideos hyn gan yr artist Haf Weighton.