I lawer ohonom mae gwaith yn rhan fawr o’n bywydau. Mae’n darparu incwm, strwythur a chyfle i wneud ffrindiau a chysylltiadau defnyddiol. Gall cael swydd foddhaol fod yn dda i’ch iechyd meddwl a’ch llesiant cyffredinol.
Fodd bynnag, rydym i gyd yn profi cyfnodau pan all gwaith deimlo’n llethol. P’un a yw’r ffynhonnell yn gysylltiedig â gwaith neu’n deillio o’n bywydau personol, gall yr heriau hyn, os na chânt eu datrys, waethygu i fod yn broblemau sylweddol yn y pen draw.
Mae’r canllaw defnyddiol hwn gan y Metal Health Foundation yn esbonio’r hyn y gallwn ni ei wneud i reoli’r heriau yn ein bywydau i gefnogi ein hiechyd meddwl ein hunain. Mae’n disgrifio’r camau y gallwn ni eu cymryd i wneud hyn, sy’n cynnwys neilltuo amser ar gyfer gweithgarwch corfforol, bwyta deiet iach a chytbwys ac ymarfer hunandderbyn.
Mae hefyd yn darparu canllawiau ymarferol ar gydnabod iechyd meddwl gwael mewn cydweithwyr a’u cefnogi i gymryd camau i’w wella.
I gyflogwyr, mae’n disgrifio sut mae gweithleoedd sy’n blaenoriaethu iechyd meddwl yn meithrin amgylcheddau hapusach a mwy cynhyrchiol. Mae hefyd yn nodi’r hyn y gallant ei wneud i adeiladu gweithle sy’n iach yn feddyliol.
Mae llawer y gallwn ei wneud i hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol yn y gwaith – bydd y canllaw hwn yn egluro sut.
Lawrlwythwch y canllaw y ‘Sut i gefnogi iechyd meddwl yn y gwaith’
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Action for Happiness
Mae Action for Happiness yn dod â phobl at ei gilydd ac yn darparu adnoddau ymarferol er mwyn helpu i greu byd hapusach a byd sy’n fwy caredig.

Gwehyddu ar Froc Môr
Dysgwch sut i blethu ar broc môr yn y ffilm fer hon gan yr artist Laura Thomas.

Bocs O Gemau
Cymerwch ran yn y naw her hyn, sy'n cynnwys ysgrifennu, lluniadu, cof a'ch dychymyg.