Dathlu’r bobl go iawn a’r bywydau go iawn y tu ôl i wirfoddoli
Pan fyddwch chi’n dychmygu gwirfoddolwr, efallai y byddwch chi’n dychmygu un math o berson, rhywun â llawer o amser rhydd, sydd â chalon enfawr, a greddf naturiol i helpu. Mae’n ddelwedd brydferth – ond mae hefyd yn gyfyngedig. Y gwir yw nad oes un math o berson sy’n gwirfoddoli. Ond pwy ydyn nhw cyn gwirfoddoli a thu hwnt i’r foment honno yw’r hyn sy’n gwneud gwirfoddoli’n amrywiol, ac yn bosibl.
Cyn iddyn nhw fod yn wirfoddolwyr, maen nhw’n famau a thadau, myfyrwyr, athrawon, ac ymddeolwyr, ffrindiau, a chymdogion. Maen nhw’n bobl â bywydau llawn, cymhleth, yn jyglo gwaith, teulu, astudiaethau, a phopeth rhyngddynt. Yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr eleni, roedd Tempo yn falch o ddathlu dros 20,000 o unigolion ledled y DU sy’n rhoi o’u hamser drwy ein rhwydwaith. Mae gan bob un ohonyn nhw stori. Mae pob un ohonyn nhw’n cyfrannu rhywbeth gwahanol. A gyda’i gilydd, maen nhw’n dangos nad yw gwirfoddoli yn gofyn i chi newid pwy ydych chi – mae’n eich gwahodd i gynnig yr hyn sydd gennych chi eisoes.
Er enghraifft, mae rhai straeon gwirfoddolwyr rydyn ni’n gwybod amdanyn nhw fel Jacqui, sy’n gwirfoddoli gyda Voices from the Frontline, grŵp cymunedol dan arweiniad menywod. Mae hi’n rhannu: “Mae’n gwneud i mi deimlo’n dda fy mod i’n helpu eraill i beidio â theimlo’n unig. Mae helpu eraill yn fy helpu i.”
Mae Eleri hefyd, sy’n gwirfoddoli yn The Wallich, yn cefnogi pobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref neu sy’n profi digartrefedd. Dechreuodd ei chyfranogiad drwy raglen adferiad: “Helpodd gwirfoddoli fi i ailadeiladu fy hyder a fy hunan-barch ar ôl blynyddoedd o gaethiwed. Rwyf nawr yn cefnogi eraill sy’n profi’r hyn a wnes innau.”
Mae Donna, gwirfoddolwraig gyda’r elusen Thrive Women’s Aid, (dolen Saesneg yn unig) yn neilltuo ei hamser i helpu menywod a phlant sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig. “Fel goroeswr, mae gwirfoddoli yn fy helpu i roi rhywbeth yn ôl a dangos i eraill fod ffordd o oroesi. Mae’n iachâd i mi hefyd.”
Yna mae Carrie, 36 oed, mam i bedwar o blant a gofalwr llawn amser i’w gŵr, sy’n gwirfoddoli yn CYCA. Dywedodd: “Mae rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned yn deimlad anhygoel ac yn gamp enfawr. Rydw i wedi cwrdd â phobl anhygoel ac wedi gwneud ffrindiau newydd… ar un adeg yn fy mywyd byddwn i wedi meddwl ei bod hi’n amhosibl.”
Yn olaf, mae David Jones yn gwirfoddoli bob wythnos yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd, yn croesawu gwesteion ac yn cynorthwyo gyda digwyddiadau. Mae’n byw gydag anabledd ac wedi dod o hyd ii ymdeimlad dwfn o bwrpas trwy wirfoddoli: “Mae gwirfoddoli yn llenwi fy niwrnodau. Mae’n rhoi mwy o brofiad i mi ac yn fy helpu i fod yn fwy hyderus!”
Yr hyn a welwn ar draws ein holl waith yw nad yw gwirfoddoli yn rhywbeth y mae’n rhaid i chi aros nes eich bod chi’n llai prysur, yn fwy medrus, neu’n fwy hyderus i’w wneud.
Mae’n rhywbeth sy’n cyd-fynd â bywyd go iawn, ni waeth pa mor flêr neu gymhleth bynnag y bo. Dim ond llond llaw o filoedd yw straeon Jacqui, Eleri, Donna, Leah, Carrie a David, ond maen nhw’n dangos pa mor eang yw sbectrwm gwirfoddoli mewn gwirionedd.
Yn Tempo, rydym yn teimlo ymdeimlad enfawr o ddiolchgarwch i gefnogi’r unigolion hyn a helpu i gydnabod eu cyfraniadau. Mae ein Credydau Amser yn un ffordd fach rydyn ni’n dathlu’r amser maen nhw’n ei roi, boed yn awr y mis neu’n ddiwrnod bob wythnos. Mae unigolion yn ennill Credydau Amser y gellir eu cyfnewid am ystod eang o weithgareddau am ddim, o dripiau bowlio a theatr i ddiwrnodau allan i’r teulu mewn atyniadau lleol. Mae’n ddiolchgarwch sy’n caniatáu i wirfoddolwyr dreulio amser o safon gyda’u hanwyliaid, darganfod rhywbeth newydd, a theimlo eu bod yn cael eu dathlu am y gwahaniaeth maen nhw’n ei wneud heb bwysau ariannol.
I gael rhagor o wybodaeth am Gredydau Amser, cyfleoedd gwirfoddoli lleol, a ffyrdd y gallech fwynhau gweithgareddau heb gost fel diolch, ewch i’n gwefan wearetempo.org
Efallai y byddwch hefyd yn hoffi...

Gwirfoddoli er mwyn ffynnu

Pam mae treulio amser gyda natur o fudd i’ch lles
