Diogelu’ch hun rhag dementia a hyrwyddo eich llesiant meddyliol
Mae’r ymennydd yn anhygoel! Yr ymennydd yw’r organ fwyaf cymhleth yn y corff. Mae’n hidlo ac yn gwneud synnwyr o lawer iawn o wybodaeth sydd o’n hamgylch yn barhaus. Mae’r ymennydd yn rheoli ein symudiadau a’n cydbwysedd, ein synhwyrau a sut rydym yn ymateb i deimladau, sut rydym yn meddwl, ein dysgu a’n cofion, yn ogystal â sut rydym yn deall ein hemosiynau ac yn gweithredu arnynt.
Mae’r ymennydd yn haeddu gofal! Mae ymchwilwyr yn dysgu mwy am y pethau y gallwn eu gwneud drwy gydol ein bywydau i gadw’r ymennydd yn iach. Mae Comisiwn y Lancet wedi crynhoi’r ymchwil ddiweddaraf sy’n darparu tystiolaeth obeithiol am atal dementia, ymyriadau a gofal.
Dysgwch beth allwch chi ei wneud i ddiogelu’ch ymennydd anhygoel, a lleihau’r risg o ddatblygu dementia a hybu eich llesiant meddyliol. Dysgwch am rai o’r ffactorau ehangach sy’n dylanwadu ar iechyd yr ymennydd.
Cysylltu â phobl
Mae cael cyswllt cymdeithasol gyda ffrindiau a theulu, cymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp, a sut rydym yn teimlo am ein cysylltiadau ag eraill yn bwysig ar gyfer yr ymennydd.
Mae sawl astudiaeth wedi dangos bod cysylltiad rhwng y ffactorau hyn a swyddogaethau cofio a meddwl yr ymennydd.
Mae gwneud cysylltiadau ag eraill hefyd yn hanfodol ar gyfer llesiant meddyliol da. Mae gwneud pethau rydyn ni’n eu mwynhau gyda phobl eraill yn teimlo’n dda ac yn aml, mae hefyd yn rhoi cyfle i ni siarad am sut rydyn ni’n teimlo a beth sy’n digwydd yn ein bywydau. Gall hyn ein helpu i gadw pethau mewn persbectif ac ymdopi yn ystod cyfnodau anoddach.
Cymerwch ysbrydoliaeth am ffyrdd o gysylltu ag eraill. Cysylltiadau – Hapus
Gofalu am ein cyrff
Mae cysylltiad agos rhwng ein llesiant corfforol a’n llesiant meddyliol. Mae gofalu am ein cyrff yn ein diogelu drwy gydol ein hoes.
Mae symud gwaed o amgylch ein corff yn bwysig i’n hiechyd cyffredinol. Ac rydym yn gwybod bod gofalu am ein calonnau’n bwysig ar gyfer diogelu’r ymennydd a lleihau’r risg o ddatblygu dementia. Mae rhoi’r gorau i ysmygu, cyfyngu ar faint o alcohol a yfwn a chadw at bwysau iach i gyd yn helpu i gyfyngu ar y risgiau i’n meddyliau a’n cyrff.
Mae gweithgarwch corfforol ym mhob oed yn helpu i gadw’r ymennydd, y galon a’n system dreulio yn iach. Gall bod yn egnïol hefyd roi hwb i’n llesiant meddyliol. Mae’n rhyddhau hormonau sy’n gwneud i ni deimlo’n dda ac yn ein helpu i reoleiddio ein meddyliau a’n teimladau.
Yn aml, gall bod yn egnïol olygu gwneud pethau mewn grŵp neu dîm, neu fod yn yr awyr agored. Mae hyn yn rhoi manteision ychwanegol i’n llesiant trwy gymdeithasu a threulio amser yn yr awyr agored.
Mae cadw’r ymennydd a’n cyrff yn ddiogel rhag anaf yn bwysig wrth fod yn egnïol, yn enwedig diogelu ein pennau wrth wneud chwaraeon neu ymarfer corff.
Mae tystiolaeth yn dod i’r amlwg bod ansawdd yr aer rydyn ni’n ei anadlu yn gysylltiedig â risgiau i iechyd yr ymennydd. Mae’n ymddangos bod cyfyngu ar amlygiad i lygredd aer yn yr awyr agored yn ogystal ag yn ein cartrefi, yn bwysig – sef pethau fel stofiau llosgi coed a glo.
Dewch o hyd i adnoddau i’ch helpu i ofalu am eich iechyd corfforol. Offer llesiant – Hapus
Cael cymorth pan fydd ei angen arnom
Gallwn ni i gyd brofi heriau gyda’n hiechyd corfforol a meddyliol. Mae’n bwysig cael cymorth amserol wrth brofi anawsterau drwy gydol bywyd er mwyn diogelu iechyd yr ymennydd.
Mae ymchwil yn dangos bod defnyddio cymhorthion clyw yn diogelu’r rhai sy’n nodi colli clyw rhag datblygu dementia.
Gall cael cymorth cynnar gyda cholli golwg, yn enwedig cael gwared ar gataractau a rheoli cyflyrau llygaid sy’n gysylltiedig â diabetes, hefyd helpu i atal dementia.
Gall rheoli cyflyrau hirdymor fel diabetes, pwysedd gwaed uchel a chynnal lefelau colesterol iach yn well leihau’r risgiau i’r ymennydd. Gall ceisio cefnogaeth gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol helpu gyda hyn, boed hynny’n trafod newidiadau i ffordd o fyw neu opsiynau ar gyfer meddyginiaethau.
Mae tystiolaeth yn awgrymu bod cysylltiad rhwng iselder a’r risg o ddatblygu dementia, yn enwedig pan brofir iselder yng nghanol oed. Gall pob un ohonom wneud pethau i ddiogelu ein hiechyd meddwl a’n llesiant. Mae cael cefnogaeth amserol i drin iselder yn bwysig ar gyfer ansawdd bywyd, ond gall hefyd helpu i leihau’r risg i iechyd yr ymennydd.
Mae gofyn am help pan rydyn ni’n cael trafferth yn dangos cryfder. Ewch i Chwilio am gymorth a chefnogaeth? – Hapus i ddysgu mwy am y gefnogaeth iechyd meddwl a llesiant sydd ar gael yng Nghymru.
Dysgu, hobïau a diddordebau
Mae tystiolaeth gref bod aderbyn addysg o ansawdd da fel plentyn yn diogelu ein hiechyd corfforol a meddyliol drwy gydol ein bywydau.
Gallwn hefyd barhau i ddysgu drwy gydol ein hoes. Mae ymchwil wedi dangos y gall dysgu pethau newydd a defnyddio sgiliau wneud gwahaniaeth i iechyd yr ymennydd fel oedolion, hyd yn oed i’r rhai nad oeddent wedi cael llawer o addysg fel plant. Gall hyn gynnwys ysgogi’r ymennydd yn y gweithle. Profwyd bod hyn yn lleihau’r risg o ddatblygu dementia.
Mae cymryd rhan mewn hobïau a diddordebau yn ffordd arall o ddysgu pethau newydd a chadw’r ymennydd yn weithgar. Mae gwneud amser yn rheolaidd i ganolbwyntio ar rywbeth rydyn ni’n ei fwynhau yn bwysig ar gyfer ein llesiant meddyliol hefyd. Gall hyn dawelu ein meddyliau, ein hail-egnïo, a’n helpu i brosesu meddyliau a phroblemau.
Dysgwch fwy am sut y gall ymgolli mewn pethau rydych chi’n eu mwynhau roi hwb i’ch hwyliau a helpu i roi ystyr i fywyd. https://hapus.cymru/newyddion/canfod-llif-i-roi-hwb-ich-hwyliau-a-gwneud-bywyd-yn-ystyrlon/
Gall diogelu a gwella eich llesiant drwywneud gweithgareddau sy’n hyrwyddo’ch llesiant hefyd gadw’r ymennydd a’n cyrff yn iach a lleihau’r risg o ddatblygu dementia.
Ewch i Think Brain Health Check-in – Think Brain Health – Alzheimer’s Research UK ] a defnyddiwch ‘Think Brain Health Check-in’ i gael awgrymiadau personol ar gyfer gwell iechyd eich ymennydd.
Cyfeiriadau
Dementia prevention, intervention, and care: 2024 report of the Lancet standing Commission – The Lancet Dolen Saesneg yn unig
Efallai y byddwch hefyd yn hoffi...

Sut mae’r corff yn ymateb i straen?

Canfod llif i roi hwb i’ch hwyliau a gwneud bywyd yn ystyrlon
