Beth ydym yn ei olygu wrth lesiant meddyliol a llesiant cymunedol?
Mae llesiant meddyliol yn ymwneud â sut rydym yn meddwl, yn teimlo ac yn gweithredu. Gallwn ddweud bod gennym lesiant meddyliol da pan fyddwn yn teimlo’n dda ac yn gweithredu’n dda. [Rhagor o wybodaeth]
Mae llesiant cymunedol yn ymwneud â pha mor gysylltiedig y mae pobl yn teimlo â’r bobl a’r lleoedd o’u cwmpas. Mae’n ymwneud â’r rhwydweithiau sy’n bodoli ar draws cymunedau; mewn cymdogaethau lleol, cymunedau ar-lein, neu’r rhai sydd wedi’u creu ar sail diddordebau neu brofiadau a rennir. Mae’r graddau y mae pobl yn gallu mwynhau’r byd cymdeithasol o’u cwmpas, ansawdd eu perthnasoedd, a bod â rhwydweithiau cymdeithasol cefnogol yn bwysig. Gall ein hamgylcheddau ffisegol a’n cyfleoedd i ymgysylltu â gweithgareddau ddylanwadu ar alluedd cymunedau i ffynnu ar y cyd. [Rhagor o wybodaeth]
Pam mae llesiant meddyliol a chymdeithasol yn bwysig?
Mae gofalu am ein llesiant yr un mor bwysig â gofalu am ein hiechyd corfforol. Gall gwella ein llesiant meddyliol leihau’r risg o ddatblygu cyflyrau iechyd meddwl cyffredin fel gorbryder neu iselder. Mae pobl â llesiant meddyliol da yn mwynhau iechyd corfforol gwell, gan gynnwys calon, system dreulio a system imiwnedd iachach.
Mae llesiant cymunedol yn ymwneud â’r hyn y mae pobl yn ei wneud gyda’i gilydd a sut maen nhw’n trin ei gilydd. Mae bod yn rhan o fywyd cyfunol a chael cyfleoedd i gysylltu ag eraill yn dylanwadu ar sut rydym yn teimlo am leoedd a mannau, yn meithrin ymddiriedaeth, ymdeimlad o undod a pherthyn. Mae’r pethau hyn yn hanfodol i lesiant meddyliol a gallant liniaru effaith penderfynyddion economaidd-gymdeithasol ehangach o fewn cymunedau. Mae meithrin cysylltiad ag eraill a’r byd o’n cwmpas yn sail i weithredu o blaid yr amgylchedd, wrth i ni addasu i hinsawdd sy’n newid.
Nid yw llesiant unigol na llesiant cyfunol yn golygu'r un peth i bawb
Mae’r profiadau unigol a gawn yn dylanwadu arnom i gyd, ac mae llawer o ffactorau sy’n gorgyffwrdd â’i gilydd, er enghraifft; oedran, rhywedd, hil, ethnigrwydd, dosbarth, rhywioldeb, gallu/anabledd. Mae’r rhyngweithiadau hyn yn digwydd yng nghyd-destun systemau a strwythurau cymdeithasol, er enghraifft; y gyfraith, polisïau’r llywodraeth, sefydliadau, y cyfryngau. (Hankivsky, 2014)
Mae hunaniaeth gymdeithasol, safle mewn cymdeithas, a phrofi gwahaniaethu a stigma yn effeithio ar ein llesiant meddyliol. Yn aml, mae hyn yn golygu anghydraddoldeb dyfnach ac ehangach i bobl â sawl nodwedd warchodedig neu hunaniaethau ymylol. (Moreno-Agnostino, 2024)
Canfu arolwg diweddar fod llesiant meddyliol unigolion yn is ymhlith:
- Grwpiau oedran iau
- Menywod
- Lleiafrifoedd ethnig heblaw gwyn
- Y rhai a adroddodd bod ganddynt anabledd
- Y rhai a adroddodd bod eu hiechyd yn wael
Roedd llesiant cymdeithasol a llesiant cymunedol yn is ymhlith:
- Y rhai a adroddodd bod ganddynt anabledd
- Y rhai a adroddodd bod eu hiechyd yn wael
- Grwpiau oedran iau
- Y rhai sydd â mynediad at lai o adnoddau a chyfleoedd.
(Isherwood a Hallingberg, 2024) [Rhagor o wybodaeth]
Beth sy'n gweithio o ran creu gweithgareddau cymunedau sy'n hyrwyddo llesiant cynhwysol?
Camau gweithredu ar gyfer hwyluswyr grwpiau:
- Gofynnwch am gymhelliant unigolyn dros gymryd rhan yn y gweithgaredd a threuliwch amser i ddeall hynny. Gall cydnabod rhesymau ac adnoddau pobl helpu i gynnal ymgysylltiad a chefnogi newid cadarnhaol.
- Dylid ymgorffori cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol. Gall hyd yn oed rhyngweithiadau bach fod yn wirioneddol bwysig. Er enghraifft, gall cynnig lluniaeth mewn man cymunedol wneud gwahaniaeth.
- Crëwch amodau lle gall y rhai sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau feithrin perthnasoedd â chyfranogwyr eraill a/neu arweinwyr y gweithgareddau. Gall hyn gynnwys ysgogi sgyrsiau, annog siarad a gwrando.
- Mae gosod nodau personol, ni waeth pa mor fach ydynt, yn bwysig. Helpwch bobl i osod disgwyliadau realistig ynglŷn â’r hyn maen nhw eisiau elwa arno o gymryd rhan. Dewch o hyd i ffyrdd o gydnabod a dathlu camau tuag at newid.
-
'Arts4Wellbeing'
-
Yn Gaffis Creadigol ‘Arts4Wellbeing’ rydym yn defnyddio hwyluso tyner a meddylgar i greu awyrgylch arbennig iawn. O’r cam gyntaf, wrth gamu trwy’r drws, rydym yn croesawu pobl, yn cynnig sedd, diod, bwyd a chyfle i gymryd rhan mewn sgwrs grŵp. Rydym ni fel hwyluswyr yn defnyddio amryw o bynciau sgwrs gyffredinol i alluogi pobl i siarad am beth sy’n bwysig iddyn nhw, yn annog cysylltu ag eraill. Dros amser mae cyfranogwyr yn tyfu mewn hyder, yn teimlo’n fwyfwy hamddenol ac yn cymryd perchnogaeth o’r grŵp, yn gyfforddus i fod yn gwbl eu hunain. Rydym yn gweithio gyda phobl er mwyn iddyn nhw gyd-adeiladu rhwydweithiau cryf a chysylltiadau personol. Mae hyn yn creu deinameg grŵp ymddiried a phositif. I’r rhai sy’n cymryd rhan mewn Caffis, mae’r manteision yn crychdonni allan ac yn gwella eu hwythnos i gyd. ‘Am yr oriau nesaf, rydych chi’n mynd rhywle arall, ac rydych chi wedi anghofio yn gyfan am y byd tŷ allan, ac mae hwnna’n paratoi chi am y chwech i saith diwrnod nesaf’

'Arts4Wellbeing'
Yn y fideo hwn, clywed o aelodau’r gymuned sy’n mynychu’r Caffis Creadigol ‘Arts4Wellbeing’. Maen nhw’n rhannu eu straeon personol ac yn siarad am yr effaith ystyrlon mae’r sesiynau wedi cael ar eu bywydau, eu lles, a’u synnwyr o gysylltiad. Darganfod sut mae creadigaeth, sgwrs, a chymuned yn dod gyda’i gilydd i gefnogi iechyd meddwl ac emosiynol mewn lle cynhwysol a croesawgar.
Dysgwch mwy- Mae gallu mynegi ein hunain a theimlo ein bod yn cael ein gwerthfawrogi wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau yn y gymuned yn helpu i wella llesiant. Anogwch hunanfynegiant. Gwahoddwch bobl i ddangos eu cymeriadau go iawn. Dathlwch sut mae pobl yn mynegi eu hunain a dewch o hyd i ffyrdd i gynnwys creadigrwydd yn y gweithgaredd. Gwnewch i bobl deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi trwy gydnabod a derbyn profiadau eraill, heb eu barnu.
- Datblygwch sgiliau a hyder hwyluswyr y gweithgareddau. Maen nhw’n chwarae rôl unigryw wrth greu amodau ar gyfer cynhwysiant mewn ffordd sensitif. Ystyriwch gael eich hyfforddi i reoli dynameg grwpiau, hwyluso cyfathrebu a deialogau grwpiau, a defnyddio’ch sgiliau hyfforddi wrth i chi gynnal sgyrsiau.
- Defnyddiwch fesurau canlyniadau llesiant dibynadwy, dilys a safonol i ddangos effaith gweithgarwch yn y gymuned ar lesiant unigol a llesiant cymunedol. Mae Graddfeydd Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin yn galluogi mesur llesiant wrth fonitro a gwerthuso pob math o brosiectau a rhaglenni gyda chyfranogwyr 13 oed a hŷn. Mae’r graddfeydd yn mesur y nodweddion cadarnhaol, yn hawdd eu defnyddio, a gallant fesur effeithiau eich gwaith.


Camau gweithredu ar gyfer dylunio a hyrwyddo gweithgareddau cynhwysol:
- Mae sut mae pobl yn dod i wybod am y gweithgaredd yn bwysig. Mae’r camau rhwng dod i wybod am y gweithgaredd ac ymuno â’r gweithgaredd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r hyn y mae pobl yn ei gael o gymryd rhan ynddo. Meddyliwch am ffyrdd priodol o hysbysebu’r gweithgaredd yn y cymunedau, a datblygu cyfathrebiadau sy’n ystyriol o ymddygiad. Gwnewch yn siŵr bod y llwybrau mynediad at y gweithgaredd yn adlewyrchu’r pwrpas ac yn hawdd eu llywio.
- Byddwch yn glir ynglŷn â phwrpas y gweithgaredd, a’r rolau sy’n gysylltiedig â’i gyflawni.
- Ymgysylltwch â chyfranogwyr wrth lunio’r gweithgaredd, yn enwedig o ran fformat, amlder a dyluniad y gweithgaredd. Ceisiwch wella’n barhaus trwy wrando ar adborth a phrofiadau cyfranogwyr a dysgu ohonyn nhw.
- Ymgorfforwch gyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd mewn grwpiau. Gall arweinwyr grŵp medrus annog cydlyniant grŵp a chreu’r amodau lle gall cyfranogwyr deimlo eu bod yn perthyn i’r grŵp. Mae hyn yn meithrin rhyngweithio cymdeithasol, sy’n helpu pobl i adeiladu rhwydweithiau a pherthnasoedd.
- Mae cymysgedd amrywiol o bobl yn sicrhau’r buddion mwyaf posibl i lesiant meddyliol a chymdeithasol ar y cyd, yn enwedig pan fydd pobl yn darganfod diddordeb, nod neu nodwedd gyffredin arall. Ystyriwch ffyrdd o ddod ag amrywiaeth i’ch grŵp, a theilwrwch weithgareddau i annog cyfranogwyr i ddod o hyd i bethau cyffredin ag eraill.
- Gwerthfawrogwch ymrwymiad staff a gwirfoddolwyr sy’n ymwneud â rhedeg y gweithgaredd yn y gymuned. Cynigwch gyfleoedd dysgu a datblygu, a dathlwch eu cyfraniadau a’u heffaith.
-
Gwreiddiau i Adferiad
-
Gwreiddiau i Adferiad yw menter sydd yn ei arwain gan bobl sydd wedi’i ysbrydoli gan y pŵer iachaol y tŷ allan. Rydym yn cynnig rhywbeth i bawb, yn creu gweithgareddau cynhwysol a hygyrch i helpu pobl i dyfu ac i ffynnu. Cawn neb eu gadael allan, gall pobl dewis beth hoffant nhw eu gwneud, gallant nhw awgrymu gweithgareddau neu brofiadau, ac rydym ni’n gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu cymryd rhan. Mae nifer o’r aelodau’r grŵp wedi tyfu shwt gymaint mewn hyder, rydym ni wedi helpu nhw i ddod yn fentoriaid gwirfoddol neu’n staff eu hunain. Rydym yn werthfawr y bod nhw nawr yn cefnogi eraill i ailadeiladu eu bywydau, ailgysylltu’n gymdeithasol, ac yn darganfod synnwyr o bwrpas newydd.

Gwreiddiau i Adferiad
Yn y fideo hwn, mae cyfranogwyr yn rhannu eu teithiau personol gyda Gwreiddiau i Adferiad, yn disgrifio sut mae’r rhaglen wedi help nhw i ailadeiladu eu bywydau, a darganfod synnwyr o bwrpas newydd. O archwilio arfordiroedd syfrdanol Sir Benfro i ymgysylltu mewn gweithgareddau cynhwysol a hygyrch, mae’r prosiect yn cynnig rhywbeth i bawb, yn grymuso unigolion i dyfu a ffynnu.
Dysgwch mwyCamau gweithredu wrth ddewis a defnyddio mannau yn y gymuned:
- Mae mannau yn y gymuned, lle gall cyfarfodydd a rhyngweithio ddigwydd, yn hanfodol bwysig i alluogi i weithgarwch sy’n hyrwyddo llesiant ddigwydd yn y gymuned. Defnyddiwch fannau yn y gymuned. Buddsoddwch ynddynt, a’u diogelu.
- Mae sut mae pobl yn teimlo am leoedd a mannau yn y gymuned yn bwysig. Gwneir y mwyaf o’r buddion pan fydd teimladau cadarnhaol o ddiogelwch, ymddiriedaeth a pherchnogaeth. Wrth ddewis mannau yn y gymuned i gynnal gweithgareddau, meddyliwch am sut mae pob cyfranogwr yn teimlo pan fydd yn y mannau
-
Elusen Aloud
-
‘Yn Aloud, rydym yn ystyried pob agwedd ar ofod, o bobl yn cyrraedd yno a gadael y gofod a chyrraedd adref. Mae’n bwysig i ni fod pobl yn teimlo’n ddiogel wrth ymgymryd â’n gweithgareddau a’u bod yn cael eu croesawu iddynt. Nid yw hyn yn golygu bod rhaid cael derbynnydd (oherwydd y gall gofyn am gyfarwyddiadau deimlo’n anghyfforddus i bobl weithiau) ond gall arwyddion clir a ‘reels’ ar gyfryngau cymdeithasol fod yn ddefnyddiol iawn i rymuso ein cyfranogwyr i deimlo’n ddigon hyderus i’w mynychu. Mae’r lleoliadau rydyn ni’n eu defnyddio yn hygyrch ar drafnidiaeth gyhoeddus ac yn lleoedd lle mae pobl ifanc yn teimlo’n gyfforddus – rydyn ni’n defnyddio arolygon rheolaidd i helpu i ddeall yn well pa addasiadau y gallwn ni eu gwneud i’r gweithgareddau er mwyn gwella cyfranogiad ynddynt. Ac mae gennym ni hwyluswyr cerddoriaeth a gwirfoddolwyr rhagorol yn y gymuned sy’n cefnogi ein cyfranogwyr yn gerddorol ac yn fugeiliol ym mhob sesiwn.’

Elusen Aloud
Darganfod mwy am sut y rydym ni’n gallu creu mannausaff. Mae Aloud yn falch i gynnig amgylcheddau cefnogol a croesawgar, ble mae pobl ifanc yn gallu mynegi eu hunain, adeiladu hyder, a chael eu clywed. Mae mannau fel hyn yn help aelodau i dyfu’n greadigol ac yn emosiynol.
Dysgwch mwy- Byddwch yn weladwy mewn mannau yn y gymuned. Gall defnyddio mannau amlwg mewn cymunedau ar gyfer gweithgareddau hyrwyddo llesiant helpu i gynyddu teimladau o berthyn ac ymddiriedaeth.
- Cefnogwch symudedd yn yr ardal leol, er mwyn galluogi mynediad corfforol i leoedd a mannau yn y gymuned. Helpwch bobl i nodi opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus, anogwch rannu ceir a mentrau trafnidiaeth eraill yn y gymuned, yn ogystal â llwybrau cerdded a beicio diogel.
- Byddwch yn hyblyg gyda mannau yn y gymuned fel y gellir mynd i’r afael ag anghenion pob cyfranogwr.
- Mae amrywiaeth cymdogaethau yn gryfder wrth alluogi buddion llesiant. Defnyddiwch ofodau a lleoedd sy’n adlewyrchu amrywiaeth yr amgylcheddau, diwylliannau a phobl yn eich cymunedau.
Camau gweithredu ar gyfer ymgorffori natur mewn gweithgareddau:
Mae grwpiau awyr agored lle gall pobl gysylltu â natur yn aml yn ffordd o gynnwys llawer o elfennau sy’n hyrwyddo llesiant mewn un gweithgaredd. Mae hyn yn golygu bod potensial i wireddu nifer o fuddion llesiant meddyliol a llesiant yn y gymuned trwy gynnal gweithgareddau sy’n seiliedig ar natur.
Mae profi natur, sy’n fwy na dim ond bod mewn amgylcheddau naturiol, yn bwysig. Pan fydd pobl yn dod at ei gilydd yn rheolaidd i gysylltu â natur mewn cymunedau, mae’n cynyddu eu hymdeimlad o ystyr a phwrpas. Mae cefnogaeth gymdeithasol a gweithgarwch corfforol yn gwella. Hefyd, mae’r gweithgareddau hyn yn creu cyfleoedd unigryw ar gyfer datblygiad personol, i helpu eraill ac i gyfrannu’n gadarnhaol at gymdeithas.
- Mae’r Nature Connection Handbook yn tynnu sylw at ffyrdd ymarferol y gallwch chi annog a chynyddu cysylltiad pobl â natur.
- Ystyriwch a ellir cynnal eich gweithgaredd yn yr awyr agored, neu ran ohono, neu a oes ffyrdd o ddod â natur dan do.
- Gall amser a dreulir yn gwerthfawrogi natur dawelu meddyliau a sbarduno teimladau o ryfeddod a pharch, sy’n dda i’n llesiant. Archwiliwch ffyrdd o annog pobl i roi sylw i natur a gwreiddiwch gyfleoedd natur yn eich gweithgaredd.
Camau gweithredu ar gyfer grymuso:
- Weithiau gall pobl deimlo nad yw gweithgaredd yn y gymuned at eu dant nhw. Efallai y byddant yn teimlo stigma neu gywilydd am gymryd rhan, neu stigma neu gywilydd am eu hiechyd meddwl, eu llesiant, neu amgylchiadau eu bywydau. Byddwch yn rhagweithiol wrth leihau stigma o ran cymryd rhan mewn gweithgareddau yn y gymuned. Ystyriwch sut y gallwch chi gyfrannu at normaleiddio gweithgarwch o’r fath. Meddyliwch am yr hyn sydd ei angen yn eich cyd-destun lleol i gefnogi pobl orau i ymuno am y tro cyntaf.
- Mae llawer o ffyrdd y gall sefydliadau gefnogi ei gilydd i wneud y mwyaf o’r buddion i gymunedau. Datblygwch bartneriaethau a chydweithiwch gyda chymysgedd amrywiol o sefydliadau. Cydnabyddwch flaenoriaethau a gwerthoedd cydlynol, a datblygwch ddealltwriaeth a rennir.
- Cydnabyddwch, ailddosbarthwch a galluogwch rannu pŵer mewn cymunedau. Anogwch y rhai sy’n gweithio gyda chymunedau i gydnabod yn agored eu pŵer a’r pŵer sy/n bodoli yn sgil creu perthnasoedd rhwng aelodau’r cymunedau. Crëwch amodau sy’n galluogi cymunedau i wneud penderfyniadau a gweithredu ar y cyd, datblygwch berthnasoedd cadarnhaol â chymunedau eraill ac asiantaethau allanol, a chynyddwch ymdeimlad o hunaniaeth ar y cyd.
- Meithrinwch ddiwylliant o gyfranogiad a gwnewch benderfyniadau ar y cyd. Defnyddiwch y Sylfaen Wybodaeth Cyd-gynhyrchu ar gyfer adnoddau a chefnogaeth er mwyn cydweithio â phobl mewn perthnasoedd cyfartal, cytbwys a gofalgar. Gall mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar asedau alluogi rhannu pŵer a newid.
- Mae buddsoddi mewn datblygu cymunedau yn hanfodol, ac mae gan lawer o gyrff cyhoeddus – gan gynnwys Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd – rôl i’w chwarae yn hyn o beth. Datblygwch allu a chyfle arweinwyr grwpiau yn y gymuned i ymgysylltu â’r rhai mewn rolau arweinyddiaeth ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i gefnogi’r achos dros fuddsoddi.
Awgrymiadau Myfyrio
- Pa rai o’r camau gweithredu hyn allech chi eu cynnwys?
- Beth ydych chi’n meddwl sydd ei angen i gryfhau gweithgarwch cynhwysol yn y gymuned sy’n hyrwyddo llesiant?
- I ba raddau allwch chi ddylanwadu ar y math yma o weithgarwch?
- Beth all pobl eraill ei ddylanwadu?
- Pa mor hyderus ydych chi wrth gydnabod newidiadau a allai helpu eich ymarfer ac wrth gymryd camau i roi cynnig ar rywbeth gwahanol?
- Sut fyddwch chi’n gwybod a fydd newidiadau y byddwch chi’n eu rhoi ar waith yn cael effaith gadarnhaol?
Sut wnaethon ni greu'r adnodd hwn?
Llesiant ar Waith: Nod Ymarfer Cymunedau Cynhwysol yw darparu canllawiau ymarferol ac ysbrydoliaeth i’r rhai sy’n darparu gweithgarwch yn y gymuned sy’n cefnogi llesiant meddyliol a chymdeithasol.
Fe wnaethon ni chwilio am dystiolaeth mewn papurau ymchwil academaidd a ffynonellau dibynadwy eraill, i archwilio’r hyn sy’n gweithio wrth greu gweithgareddau yn y gymuned sy’n hyrwyddo llesiant cynhwysol.
Er mwyn cael ei gynnwys yn yr adolygiad, roedd angen bod tystiolaeth yn ymchwilio’n benodol i agweddau ar weithgarwch yn y gymuned a allai ddylanwadu ar lwyddiant wrth wella canlyniadau llesiant.
Fe wnaethon ni ddadansoddi’r canfyddiadau o 19 o ffynonellau i nodi gwybodaeth allweddol sydd wedi’i chrynhoi yn y camau gweithredu a gyflwynir yn yr adnodd hwn.
Cafodd tystiolaeth a gyhoeddwyd hyd at fis Rhagfyr 2024 ei chynnwys yn yr adolygiad.