Mae’n bosibl y bydd dolenni ar y dudalen hon yn mynd â chi at wybodaeth a ddarperir gan sefydliadau eraill, nad yw efallai ar gael yn Gymraeg.
Gan Carys Wynne-Morgan, Prif Weithredwr, Elusen Aloud
Yn Aloud rydym yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 9 a 25 oed mewn amrywiol weithgareddau canu grŵp. Ein dau brif brosiect yw Only Boys Aloud, cyfres o gorau i fechgyn oedran ysgol uwchradd, ac Aloud Voices, corau cymysg rhanbarthol. Mae’r ddau weithgaredd yn gweithredu ledled de-ddwyrain Cymru.
Mannau diogel
Un o’r pethau yr ydym fwyaf balch ohono yw bod ein pobl ifanc yn cyfeirio at ein gweithgareddau fel mannau diogel. Yn Aloud gallant fod yn nhw eu hunain yn ogystal â dod o hyd i’w llais yn llythrennol ac yn drosiadol. Rydym wedi dysgu bod darparu cyfleoedd wythnosol cyson yn ystod y tymor gyda thîm o arweinwyr ysbrydoledig yn ein cefnogi gyda hyn. Ym mhob ymarfer bydd arweinydd cerdd ac arweinydd cymunedol. Mae hyn yn golygu ein bod yn cefnogi ein pobl ifanc yn gerddorol ac yn fugeiliol ym mhob sesiwn ac yn ystod cyfleoedd perfformio. Mae’n caniatáu i’n cyfranogwyr ddatblygu eu sgiliau cerddorol yn ogystal â gallu trafod pryderon gydag oedolion diduedd ar bynciau fel cael eu bwlio yn yr ysgol, byw gyda rhiant sydd â phryder iechyd, neu syniadau ar beth i’w wneud ar ôl gorffen yr ysgol.
“Rwy’n teimlo bod bod yn rhan o Only Boys Aloud fel teulu mawr, lle rydyn ni i gyd yn parchu ein gilydd, ond yn cael hwyl ac yn gweithio gyda’n gilydd i greu’r gorau y gallwn ni ar y cyd, a chofleidio diwylliant a hunaniaeth Cymru.” Cyfranogwr Only Boys Aloud
“Pan adawodd fy mab sioe gerdd yn Llundain, yn 13 oed gyda llais newydd dorri ac o ganlyniad dim hyder yn ei lais, fe’i perswadiais i roi cynnig ar Only Boys Aloud ym Merthyr (a gwnaeth hynny’n eithaf nerfus ac yn anfodlon), gan fy mod i wir yn meddwl na fyddai byth yn canu eto. Mae’r daith y mae Only Boys Aloud wedi’i gymryd arni wedi bod yn anhygoel, o ran ei hyder yn ei lais ac yn gymdeithasol, ac mae wedi rhoi cymaint o brofiadau “unwaith mewn oes” iddo.” Rhiant Only Boys Aloud
Mae pob un o’n harweinwyr yn cael hyfforddiant diogelu rheolaidd, cyfleoedd blynyddol i gymryd rhan mewn hyfforddiant amrywiaeth, a chyfarfodydd tîm tymhorol i drafod meysydd o arferion gorau a phryder. Mae hyn yn hyrwyddo cydlyniant ar draws y tîm, yn ogystal â helpu i sicrhau bod ansawdd gwasanaeth yn cael ei gynnal mewn gwahanol gymunedau.
Manteision canu
Mae ymchwil wedi’i dogfennu’n dda wedi’i gwneud ar fanteision canu. Mae’n lleihau straen a gorbryder, ac yn rhoi ymdeimlad o bwrpas a chyflawniad i bobl. Mae canu yn cefnogi ffurfio hunaniaeth a hunanhyder. Mae’n hwyluso hunanddatblygiad a ffyrdd o ymdopi ag emosiynau negyddol. Yn ogystal â bod yn brofiad codi calon, hyrwyddo hapusrwydd a llesiant. Fel gweithgaredd ymwybodol, mae canu yn cynyddu ffocws ac yn hybu hunan-barch, ac yn meithrin cydlyniant cymdeithasol trwy ymdeimlad o gynhwysiant a chymuned.
O’r gwerthusiad, nododd 69% o gyfranogwyr Only Boys Aloud eu bod yn well am weithio mewn tîm, roedd 46% yn well am ymdopi â phwysau, roedd 36% yn fwy disgybledig gyda gwaith ysgol, roedd 24% yn bwriadu mynd i addysg bellach pan nad oeddent o’r blaen, a sylwodd 91% o rieni ar welliant yn ymddygiad eu plentyn gartref.
Pam rydyn ni’n gweithio gyda bechgyn
Mae ymchwil diweddar yn awgrymu mai bechgyn yn eu harddegau gafodd eu taro galetaf gan y cyfyngiadau symud Covid-19. Mae astudiaethau’n dangos, yn yr hirdymor, fod iechyd meddwl bechgyn yn eu harddegau wedi cael ei effeithio’n fwy andwyol nag eraill. I’r rhai sy’n symud rhwng yr ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd yn ystod y cyfyngiadau symud, bechgyn sydd wedi bod leiaf abl i ffurfio grwpiau cymdeithasol a chyfeillgarwch newydd. Mae hefyd yn dod yn amlwg, er mwyn cefnogi hyn, ei bod hi’n bwysig i fechgyn gael modelau rôl gwrywaidd cadarnhaol yn eu bywydau y tu hwnt i fywyd cartref ac ysgol. Felly mae gan Aloud ran hanfodol i’w chwarae wrth wneud gwahaniaeth i fywydau bechgyn ifanc.
“Rwy’n credu mai’r prif beth a safodd allan i mi yw pa mor gynhwysol ydyw i bawb. Ac er fy mod i’n casáu fy llais canu (ac ar adegau’n dal i wneud hynny) ac nad oeddwn i’n hyderus iawn yn ei gylch, mae fel petai rhywun yn eistedd yno’n dweud: ‘Does dim ots gen i pa mor dda neu ddrwg rydych chi’n canu, dewch draw, cael hwyl, cymdeithasu, a mwynhau’, yn hytrach na’i weld fel rhywbeth y mae’n rhaid i chi fod yn dda ynddo i ymuno.” Cyfranogwr Only Boys Aloud
Mwy na dim ond corau
Gan ein bod ni’n credu ym mhŵer cân, uchelgais Aloud yw cael cymaint o bobl ifanc â phosibl i ganu. Er ein bod yn gwneud hyn drwy ein cynnig côr rheolaidd, rydym hefyd yn cynnig pecynnau i ysgolion a chyfleoedd gweithdy untro ar gyfer grwpiau cymunedol sy’n cefnogi llesiant meddyliol ac adeiladu tîm.
“Mae’r côr yn rhoi hwb i’m hyder, nid yn unig wrth ganu ond wrth wneud ffrindiau, a siarad â phobl ac yn yr ysgol.” Cyfranogwr Only Boys Aloud
Os oes gan rywun un ddiddordeb mewn dysgu mwy am gymryd rhan yn ein gwaith neu gael Aloud i berfformio neu gynnal gweithdy ar gyfer eich cymuned, cysylltwch â ni ar: hello@thealoudcharity.com
Efallai y byddwch hefyd yn hoffi...

Ailddiffinio lles: Ein taith o theori i newid systemig

Y celfyddydau, iechyd a llesiant ar gyfer Cymru hapusach ac iachach
