Gan Helen Wooldridge, Pennaeth Cyfathrebu a Phartneriaethau, Mind Over Mountains
Mewn oes lle mae gwasanaethau iechyd meddwl dan bwysau aruthrol, mae ymyriadau sy’n seiliedig ar natur fel y rhai a gynigir gan yr elusen Mind Over Mountains yn ennill eu plwyf – nid yn unig oherwydd eu hygyrchedd a’u hapêl holistaidd, ond oherwydd y profwyd eu bod yn gweithio go iawn.
Syniad syml sydd wrth wraidd model Mind Over Mountains ac eto mae’n syniad trawsnewidiol: cyfuno’r manteision a brofwyd o dreulio amser ym myd natur â chymorth iechyd meddwl proffesiynol. Mae eu teithiau cerdded tywysedig er llesiant a’u hencilfannau yn dod â cherdded, ymwybyddiaeth ofalgar, a hyfforddiant neu gwnsela gan weithwyr proffesiynol profiadol ynghyd – gan greu amgylchedd diogel, heb stigma i bobl ailgysylltu â nhw eu hunain ac eraill.
Ond beth yw’r dystiolaeth y tu hwnt i’r straeon ysbrydoledig?
Ym mis Ebrill 2025, cyhoeddodd yr elusen Mind Over Mountains Adolygiad o’r Sylfaen Dystiolaeth a oedd yn cydgrynhoi ymchwil glinigol, astudiaethau a adolygwyd gan gymheiriaid, a fframweithiau seicolegol i ddilysu pum elfen allweddol ei dull gweithredu. Mae’r adolygiad hwn yn cefnogi’r model yn ogystal ag atgyfnerthu’r achos dros wneud ymyriadau sy’n seiliedig ar natur yn rhan o gefnogaeth iechyd meddwl prif ffrwd.
Pum Piler, Pum Ffrwd Dystiolaeth
Mae’r adolygiad yn archwilio cyfoeth o dystiolaeth academaidd ac ymarferol sy’n sail i bob piler yn y model Mind Over Mountains:
- Amser ym Myd Natur
Mae treulio amser mewn mannau gwyrdd a glas yn cael ei gysylltu’n gyson â llai o straen, hwyliau gwell, llai o orfeddwl/myfyrio, a risg is o salwch meddwl. - Gweithgarwch Corfforol
Mae symud, a cherdded yn neilltuol, wedi cael ei gydnabod ers tro byd yn amddiffyniad pwerus rhag iselder. Mae’n gwella cwsg, yn lleihau gorbryder ac yn hybu hunan-barch – yn enwedig mewn mannau awyr agored. - Cyswllt Dynol
Mae cael profiadau mewn grwpiau yn yr awyr agored yn helpu i leihau teimladau o unigrwydd, meithrin ymddiriedaeth gymdeithasol, ac adfer ymdeimlad o berthyn – ffactorau sy’n hysbys am amddiffyn rhag anawsterau iechyd meddwl. - Ymwybyddiaeth Ofalgar ym Myd Natur
Mae ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar yn yr awyr agored yn cynyddu ei effaith. Mae cyfranogwyr yn nodi rheoleiddio emosiynol gwell, tawelwch, a chysylltiad cryfach â nhw eu hunain a’r byd o’u cwmpas. - Hyfforddiant a Chwnsela Proffesiynol
Mae presenoldeb gweithwyr proffesiynol wedi’u hyfforddi yn sicrhau dyfnder, diogelwch a strwythur. Mae hyfforddiant a chwnsela yn helpu unigolion i fyfyrio, prosesu emosiynau, a chaffael offer ymarferol ar gyfer symud ymlaen.
Mae’r adolygiad yn dod i’r casgliad bod cyfuniad o’r pum elfen hyn yn creu “synergedd pwerus”, a bod pob elfen yn atgyfnerthu ei gilydd i gyflawni effaith fwy cynaliadwy a thrawsnewidiol.
Canlyniadau o’r Byd Go Iawn
Nid damcaniaeth yn unig yw hon. Mae Mind Over Mountains yn mesur ei chanlyniadau gan ddefnyddio offer fel Graddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin (WEMWBS). Mae’r canlyniadau yn dweud y cyfan.
- Mae 91% o gyfranogwyr yn nodi gwelliant parhaol yn eu llesiant meddyliol
- Mae 94% yn teimlo mwy o gysylltiad ag eraill ar ôl cymryd rhan
- Mae 92% yn dweud eu bod wedi caffael offer ymarferol i gefnogi eu hiechyd meddwl wrth edrych tua’r dyfodol
Mae llawer o gyfranogwyr yn disgrifio’r profiad fel un sy’n “newid bywyd” – nid seibiant yn unig, ond trobwynt.
Mae’r model hefyd wedi dangos gwerth arbennig wrth gyrraedd pobl na fyddent fel arall yn gofyn am gymorth, yn enwedig y rhai sydd ar restrau aros y GIG neu’r rhai sydd wedi’u siomi gan systemau clinigol. Mae’r elusen, diolch i fwrsariaethau a fformat hyblyg, yn sicrhau bod ei rhaglenni’n gynhwysol ac yn groesawgar i gyfranogwyr 18 oed a hŷn.
Model ar gyfer Dyfodol Cymorth Iechyd Meddwl
Mae Adolygiad o Sylfaen Dystiolaeth Mind Over Mountains yn dilysu dull yr elusen yn ogystal â’i osod fel ymyriad credadwy, y gellir ei ehangu ar adeg pan fo’r GIG yn galw am fwy o ofal ataliol yn y gymuned.
Yng nghyd-destun cynlluniau peilot Presgripsiynu Cymdeithasol Gwyrdd Lloegr – lle dangosodd data cynnar enillion sylweddol o ran llesiant ac adenillion cymdeithasol o £1.88 am bob £1 a fuddsoddwyd – mae’r model hwn yn enghraifft o’r modd y gallwn ddod â natur, gwyddoniaeth a thosturi ynghyd yn ymarferol.
Mae dull Mind Over Mountains yn enghraifft o’r rhyngwyneb rhwng presgripsiynu cymdeithasol, gwasanaethau iechyd, gweithgareddau llesiant ac asedau cymunedol. Mae cyfuno cefnogaeth broffesiynol, natur, symud a chyswllt cymdeithasol yn cyd-fynd â Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol Cymru, ac mae’n cryfhau’r cyfleoedd i bob cymuned gymryd camau i amddiffyn a hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant meddyliol da.
Pam mae hyn yn bwysig?
Mae modelau arloesol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth fel y rhain yn dangos i ni sut olwg all fod ar ddyfodol gofal iechyd meddwl: yn yr awyr agored, wedi’i gysylltu, a hynod ddynol.
P’un a ydych chi’n ymarferydd, yn lluniwr polisi, yn gyllidwr neu’n rhywun sy’n credu ym mhŵer cerdded a siarad, mae’r dystiolaeth yn glir: rhaid inni gymryd cefnogaeth sy’n seiliedig ar natur o ddifrif – nid fel dewis arall, ond fel rhan graidd o’n hymateb i argyfwng iechyd meddwl sydd ar gynnydd.
Cyfeiriadau
[i] Mind Over Mountains Evidence Base Review April 2025 Dolen Saesneg yn unig
[ii] WEMWBS
[iii] Deall a Mesur Llesiant – Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru
[iv]Rhagnodi Cymdeithasol – Iechyd Cyhoeddus Cymru
[v]Fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol | LLYW.CYMRU
[vi]Strategaeth iechyd meddwl a llesiant meddyliol 2025 i 2035 | LLYW.CYMRU
Efallai y byddwch hefyd yn hoffi...

Wynebau amrywiol gwirfoddoli

Sut mae gweithgareddau hamdden yn helpu ein lles meddyliol?
