Gall y cwrs eich helpu i reoli eich gweithredoedd yn well, a sicrhau bod bywyd bob dydd yn llai gofidus ac yn fwy pleserus. Byddwch yn dysgu ffyrdd ymarferol ac effeithiol o ddelio â meddyliau a theimladau a allai beri gofid.
Cynlluniwyd y cwrs gan Dr Neil Frude a bydd yn eich helpu i ganfod yr hyn sy’n wirioneddol bwysig i chi ac yn rhoi sgiliau i chi allu byw eich bywyd yn fwy hyderus a gyda mwy o bwrpas.
Mae pedwar fideo ar gael, pob un yn para tua 40 munud yr un. Gallwch wasgu’r botwm saib ar unrhyw adeg a dychwelyd atynt os bydd angen seibiant arnoch chi. Rydym yn argymell gadael diwrnod neu ddau rhwng pob fideo er mwyn i chi ymarfer yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu.
Mae canllaw y gallwch ei lawrlwytho, ei argraffu neu wneud nodiadau arno ar gael ar gyfer pob fideo, ac mae ymarferion sain y gallwch wrando arnynt ar gael hefyd.
Bydd y cwrs yn eich helpu i ddod i ddeall sut mae eich meddwl yn gweithio ac yn eich tywys drwy weithgareddau a fydd yn eich helpu i wella eich iechyd meddwl a’ch lles.
Mae’r cwrs ar gael yn Gymraeg, yn Saesneg ac yn Iaith Arwyddion Prydain.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Gwehyddu ar Froc Môr
Dysgwch sut i blethu ar broc môr yn y ffilm fer hon gan yr artist Laura Thomas.
Cysylltu nôl i’r Canol
Cymryd rhan mewn gweithgareddau artistig i leddfu straen ac ymdawelu.
Celf yn y Gegin
Rhowch gynnig ar dri phrosiect 'mynediad lefel cegin' rhad – clytwaith, argraffu ac ysgythru.