Cafodd y Calendr Llesiant Natur yn y Gweithle ei gyd-gynllunio gan RSPB Cymru a Chymru Iach ar Waith i gefnogi iechyd a llesiant trwy gysylltiad rheolaidd â byd natur. Er iddo gael ei ddatblygu fel adnodd ar gyfer gweithleoedd, gall unrhyw un fwynhau’r gweithgareddau misol syml, naill ai ar eich pen eich hun neu gyda chydweithwyr, ffrindiau neu’ch teulu.
Mae ymchwil yn dangos y gall cysylltu â byd natur wella hwyliau, lleihau straen a phryder, cefnogi iechyd corfforol, gwella ansawdd cwsg, hybu hyder a hunan-barch, a helpu i leihau unigrwydd. Mae byd natur yn hygyrch i bawb a gellir ei brofi mewn gerddi, parciau, strydoedd, gweithleoedd, traethau, mannau cymunedol neu hyd yn oed drwy ffenestr.
Mae’r calendr yn ein hannog i sylwi ar fyd natur trwy ein holl synhwyrau, datblygu cysylltiadau emosiynol â’r byd naturiol, gwerthfawrogi ei harddwch, darganfod ystyr mewn newidiadau tymhorol a chymryd camau cadarnhaol i gefnogi bywyd gwyllt a’r amgylchedd. Mae gweithgareddau’n gysylltiedig â’r tymhorau newidiol ac yn ein hannog i arafu, bod yn bresennol a sylwi ar y byd naturiol o’n cwmpas.
Drwy gydol y flwyddyn, mae’r calendr yn ein hannog i archwilio mannau gwyrdd lleol, gwrando ar gân adar, sylwi ar newidiadau tymhorol, adnabod planhigion a bywyd gwyllt, mwynhau seibiannau yn yr awyr agored, mynd am droeon ystyriol a rhannu profiadau ym myd natur â phobl eraill. Mae’r calendr hefyd yn cynnig cyfleoedd i roi rhywbeth yn ôl i natur trwy gamau ymarferol fel cefnogi peillwyr, creu mannau sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt, cymryd rhan mewn gweithgareddau gwyddoniaeth i ddinasyddion a helpu prosiectau cadwraeth lleol.
Mae adnoddau ychwanegol yn y calendr yn cynnwys cyfleoedd dysgu tymhorol, dolenni i weithgareddau sy’n canolbwyntio ar fyd natur ac argymhellion ar gyfer apiau am ddim ar gyfer adnabod elfennau o fyd natur i’n helpu i ddysgu mwy am y bywyd gwyllt rydyn ni’n dod ar ei draws. Mae’r adnoddau hyn yn ei gwneud hi’n hawdd i bobl o bob oed a gallu feithrin cysylltiad cryfach â byd natur a phrofi’r manteision llesiant drwy gydol y flwyddyn.
Mae adnoddau ychwanegol yn y calendr yn cynnwys:
- cyfleoedd dysgu tymhorol
- dolenni i weithgareddau sy’n canolbwyntio ar fyd natur
- argymhellion ar gyfer apiau am ddim ar gyfer adnabod elfennau o fyd natur i’n helpu i ddysgu mwy am y bwyd gwyllt rydyn ni’n dod ar ei draws.
Mae’r adnoddau hyn yn ei gwneud hi’n hawdd i bobl o bob oed a gallu feithrin cysylltiad cryfach â byd natur a phrofi’r manteision llesiant drwy gydol y flwyddyn.
Cliciwch yma i weld y calendr
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Dyddiaduron Comic
Gwnewch eich comics dyddiadur eich hun – comics byr, hunangofiannol am ddigwyddiad ym mywyd y crëwr.
Pŵer diolchgarwch
Gall sylwi ar y pethau rydyn ni'n ddiolchgar amdanyn nhw ein helpu i deimlo'n fwy cadarnhaol a chefnogi ein lles meddyliol hirdymor.
Shibori, Lliwio Sypyn, a Hapzome
Gwnewch wrthrychau tecstil hardd, wedi'u lliwio'n fotanegol ac sy'n ymarferol gyda'r tiwtorialau hyn sy'n defnyddio deunyddiau y gallwch ddod o hyd iddynt yn eich cartref a'ch amgylchedd naturiol.